Cynhalwyr sy'n oedolion - cymorth a chyngor

Cynhaliwr i oedolionCynhalwyr ydy’r sawl sy’n rhoi gofal neu sy’n rhoi cymorth, i rywun arall (boed aelod o’r teulu, cyfaill neu gymydog) sydd angen cymorth gyda’u bywyd o ddydd-i-ddydd a hynny’n ddi-dâl, oherwydd:

  • Eu hoedran
  • Afiechyd yn y tymor hir  
  • Anabledd
  • Salwch iechyd y meddwl neu
  • Camddefnyddio sylweddau

Dydy’r term ‘cynhaliwr’ ddim yn cynnwys y sawl sy’n:

  • Derbyn tâl boed arian parod neu fodd arall am y gofal maen nhw’n ei ddarparu
  • Gwneud gwaith gwirfoddol ar ran corff gwirfoddol 

Sut gallwn ni fod o gymorth

Gwerthfawrogwn y rôl mae cynhalwyr yn ei chwarae ac rydyn cydnabod efallai bod angen cymorth a chyngor arnyn nhw i roi gofal, megis darparu gwybodaeth, cymorth a chyngor neu ragor o gymorth ymarferol ar gyfer y cynhaliwr a’r sawl mae e’n rhoi gofal iddo yn ogystal.

Cyn ein bod ni’n mynd ati i ddarparu unrhyw wasanaethau, byddwn ni’n asesu anghenion y sawl sy’n derbyn gofal ac anghenion y cynhaliwr yn ogystal (os ydyn nhw’n gofalu ar sail 'rheolaidd a sylweddol').  Mae asesiadau yn rhoi cyfle i gynhalwyr drafod sut maen nhw’n teimlo a pha wasanaethau sydd ar gael iddyn nhw yn gymorth i ysgafnhau’r faich o roi gofal. Mae’r drefn yma yn gymorth i ni ofalu ein bod ni’n deall eich sefyllfa chi, cadarnhau’ch bod chi’n gymwys i dderbyn ein cymorth, ac yn gymorth i ni fynd ati i gynllunio sut mae modd inni roi cymorth i chi wneud yr hyn rydych chi eisiau’i wneud.

Os dydych chi ddim yn fodlon ar ganlyniad yr asesiad, mae hawl gyda chi i gyflwyno apêl. Mae rhagor o fanylion am y drefn cyflwyno apêl i’w cael mewn dogfennau perthynol. 

Os hoffech chi wneud sylw ynglŷn â’n gwasanaethau, cysylltwch â’r prif swyddfa yn eich cylch chi. Os oes gyda chi gŵyn, does dim modd ei ddatrys yn anffurfiol, neu sydd o natur difrifol, mae trefn gwyno ffurfiol yn ei lle. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’n trefn gwyno i’w chael mewn dogfennau perthynol. 

Bod yn gefn i bobl ifainc i roi gofal  

Yn ogystal â hynny, rydyn ni’n rhoi cymorth i gynhalwyr dan 18 oed. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael mewn dogfennau perthnasol neu trwy ein Hasesiad Cynhalwyr Ifainc a Gweithiwr Datblygu (ffôn 01443 668839) neu gweler ‘Cynhalwyr Ifainc – cymorth a chyngor’ mewn dogfennau perthynol.

Cysylltu â ni

Mae Cynllun Cynnal Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf yn cynnig cymorth rhad ac am ddim i gynhalwyr.
Gwifren Radffon cynllun Cynnal Cynhalwyr: 0808 100 1801 
Ebost
: cynnalycynhalwyr@rhondda-cynon-taf.gov.uk|

Mae nifer o sefydliadau yn gweithio i roi cymorth i gynhalwyr trwy ddarparu gwybodaeth neu gymorth ymarferol. Mae Cynllun Cynnal Cynhalwyr yn cynnig rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau yma.

Os ydych chi neu’r sawl rydych chi’n rhoi gofal iddo angen cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, ffoniwch a mynnu gair â’r Swyddog ar Ddyletswydd neu anfon neges ebost: 
Ffôn: 01443 425003  
E-bost:
gwasanaethaucymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk|

Mae’r Gwasanaeth Argyfwng Ôl-oriau Swyddfa yn ymateb mewn achos o argyfwng y tu allan i oriau swyddfa, ar wyliau banc a dros y Sul.
Ffôn 01443 849944