Canolfannau oriau dydd

Mae ein canolfannau oriau dydd craidd i’w cael ledled Rhondda Cynon Taf. Maen nhw’n darparu ystod o weithgareddau yn ynstod oriau dydd i’r rheiny sy’n gymwys i’w defnyddio nhw. Mae rhai o’r canolfannau yn gweithredu fel cyfleusterau gofal seibiant, sy’n rhoi seibiant i’r sawl sy’n rhoi gofal i bobl eraill.

Mae canolfannau oriau dydd craidd yn rhoi cymorth i’r bobl sy’n eu mynychu drwy wneud y canlynol:

  • helpu i gynnal eu lles corfforol a meddyliol
  • Bod o gymorth o ran eu trefniadau cartref a gofal presennol
  • Lleihau’r peryglon i’w diogelwch
  • Eu hannog i edrych ar eu hôl eu hunain drwy raglenni byw’n annibynnol
  • Caniatáu i bobl gyfarfod yn anffurfiol i oresgyn unigrwydd cymdeithasol
  • Diwallu anghenion gofal personol does dim modd eu darparu’n effeithiol yn eu cartrefi hwy eu hunain
  • Darparu seibiant i’w cynhalwyr (gofalwyr) yn gymorth iddyn nhw ddarparu gofal yn y tymor hir.

Mae’r staff a’r offer yn y canolfannau i gyd yn addas i ateb yr ystod llawn o anghenion gofal personol priodol, gan gynnwys rhoi bath, os oes angen. Pe baech chi’n hoffi mynd i un o’n canolfannau oriau dydd, cysylltwch â’r Swyddog Gwasanaeth i Gleientiaid (gweler isod) a gofyn am asesiad o’ch anghenion.

I gael rhagor o fanylion am y gwasanaeth yma, gan gynnwys union leoliadau ein canolfannau oriau dydd craidd, gweler ein taflen ffeithiau sydd i’w chael ar y (chwith/de?)

Manylion cyswllt

Os ydych chi o’r farn bod angen cymorth arnoch chi neu’r sawl rydych chi’n rhoi gofal iddo, cysylltwch â Swyddog Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar Ddyletswydd

Ffôn: 01443 425755

Ebost: socialservices@rctcbc.gov.uk|

Mae’r Gwasanaeth Ôl-oriau’r Swyddfa ar gyfer Argyfyngau yn ymateb mewn achos o argyfwng gofal cymdeithasol y tu allan i oriau arferol y swyddfa, ar wyliau’r banc a thros y Sul.

Ffôn: 01443 849944

Ebost: socialworkemergencydutyteam@rctcbc.gov.uk|