Tocyn mantais y bysiau i hen bobl

older-persons-bus-passCyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, gyda chymorth o du Llywodraeth y Cynulliad sy’n cynnal ac yn ariannu cynllun tocyn mantais. Y llynedd talodd y Cyngor y cwmnïau bysiau sy’n cymryd rhan yn y cynllun bron i £4,500,000 fel bo modd i bobl i gael tocyn mantais.

Mae’r cynllun teithio rhad ac am ddim yn cynnig arbedion sylweddol i ddefnyddwyr. Bydd deiliaid tocyn mantais yn cynilo tua £130 y flwyddyn ar docynnau bws.

Oes hawl gyda fi i gael tocyn mantais i bobl hŷn?

Os ydych chi dros 60 oed mae modd ichi wneud cais am docyn.

Oes rhaid imi dalu am y tocyn mantais?

Nac oes. Byddwch chi’n cael y tocyn mantais yn rhad ac am ddim ond rhaid ichi anfon llun lliw sy’n addas ar gyfer trwydded deithio aton ni. Ysgrifennwch eich enw a dyddiad geni ar gefn y llun.

Sut ydw i’n cyflwyno cais am docyn mantais?

Os ydych chi dros 60 oed ac yn gallu teithio ar fws heb gymorth rhywun arall

dylech chi alw heibio i unrhyw Swyddfa Bost yn Rhondda Cynon Taf a chodi

Ffurflen Gais am Docyn Mantais. Ar ôl ichi lenwi’r ffurflen gais, ewch â hi yn ôl at Swyddfa’r Post ynghyd â’r canlynol:-

  • Tystiolaeth o’ch dyddiad geni (e.e. tystysgrif geni, trwydded deithio, trwydded yrru)
  • Tystiolaeth o’ch cyfeiriad (e.e. bil Treth y Cyngor, bil trydan, bil nwy, bil dŵr, llyfr rhent tŷ cyngor, cyfriflen neu'ch trwydded yrru)
  • Llun lliw a fyddai'n addas i drwydded deithio. Nodwch eich enw a’ch dyddiad geni ar gefn y llun.

Byddwn ni’n anfon eich tocyn mantais i’ch cyfeiriad cartref 3 wythnos ar ôl inni gael eich ffurflen. Os ydy’ch tocyn yn hwyr yn cyrraedd, ffoniwch y Wifren Gymorth ar 01443 494816.

Mae modd ichi gyflwyno cais mis calendr cyn eich pen-blwydd yn 60 oed. Byddwn ni’n anfon y tocyn mantais atoch chi ddiwrnod cyn eich pen-blwydd.

Cyswllt ar gyfer Gwybodaeth

 Uned Materion Trafnidiaeth y Cyngor
Tŷ Sardis
Pontypridd
CF37 1DU

Ffôn: 01443 494816
Ebost: transportationservices@rhondda-cynon-taff.gov.uk|

 

Cysylltau defnyddiol