Yn ôl y gyfraith, pan fo'n ymddangos bod angen i oedolyn gael mynediad i wasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol, mae gydag ef hawl i asesiad anghenion.
Dylai'ch meddyg teulu eich atgyfeirio at wasanaethau iechyd y meddwl sylfaenol. Mewn achosion lle bo gan unigolyn lefelau uchel o risg ac anghenion cymhleth, mae'n bosibl y bydd yn cael ei atgyfeirio at un o'r Carfannau Cynllunio Gofal a Thriniaeth ar gyfer asesiad, triniaeth neu gymorth. Mae yna dair carfan yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaff-Elài ac maen nhw'n cynnwys amrywiaeth o weithwyr, gan gynnwys seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, nyrsys seiciatrig cymunedol, therapyddion galwedigaethol a gweithwyr cynorthwyol. Yn yr un modd, mae'n bosibl y bydd pobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl yn derbyn cymorth o'n Carfannau Gofal a Thriniaeth i Bobl Hŷn.
Bydd asesiad gan seiciatrydd, seicolegwr, nyrs iechyd y meddwl, gweithiwr cymdeithasol neu therapydd galwedigaethol yn rhoi gwybod i ni os ydych chi angen rhagor o driniaeth neu gymorth. Ar hyn, mae'n bosibl y byddan nhw'n cynnig meddyginiaeth, therapi seicolegol neu gymorth cymdeithasol ichi. Gellir ei ddarparu yn eich cartref, yn y gymuned neu mewn lleoliad gofal dydd. Bydd staff yn gweithio â chi mewn modd sy'n hybu'ch annibyniaeth ac yn eich galluogi i fyw eich bywyd.
Bydd y Gofal a'r Driniaeth ar gyfer eich cyflwr yn dilyn y broses ganlynol:
-
asesiad - bydd cyfle gyda chi i drafod gyda gweithiwr proffesiynol iechyd neu weithiwr proffesiynol gofal cymdeithasol y trafferthion rydych chi'n eu profi a'r hyn rydych chi'n gobeithio eu cyflawni gyda chymorth. Os ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr sy'n darparu gofal rheolaidd a sylweddol i rywun sydd â phroblemau iechyd meddwl, rydych chi hefyd yn gymwys i gael asesiad o'ch anghenion yn ôl eich hawl eich hun.
-
cydlynydd gofal - os ydyn ni'n penderfynu bod angen ein help arnoch chi, bydd y Garfan Cynllunio Gofal a Thriniaeth yn penodi person a fydd yn gyfrifol am gydlynu eich gofal.
-
cynllunio gofal - bydd trafodaethau rhyngoch chi a'ch cydlynydd gofal yn dwyn ffrwyth a byddwch yn llunio cynllun gofal. Bydd y cynllun gofal yn esbonio'r gwasanaethau a fydd yn cael ei ddarparu a'i drefnu ar eich rhan, pa mor aml y byddwch chi'n eu derbyn, hyd y cyfnod y byddwch chi'n eu derbyn, a'r canlyniadau hoffech chi eu gweld i chi eich hun.
-
adolygiadau - dyma'r cyfarfodydd a gynhelir yn gyson lle y gallwch chi gwrdd â'r bobl sy'n rhoi cymorth i chi i sicrhau bod pethau'n mynd fel y dylen nhw a, pan fo angen, lle y gellir gwneud newidiadau. Does dim rhaid i chi aros am eich adolygiad nesaf os ydy'ch sefyllfa yn newid yn annisgwyl. Dylech chi gysylltu â'ch cydlynydd gofal ar unwaith.
-
cael eich rhyddhau o'r gwasanaeth Cynllunio Gofal a Thriniaeth - pan ydych chi'n teimlo y gallwch chi ymdopi heb help y Garfan Cynllunio Gofal a Thriniaeth, byddwn ni'n cynnal cyfarfod adolygu ac, os yw'n briodol, fe fyddwch chi'n cael eich rhyddhau o'r gwasanaeth.
Mae Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf yn darparu gwasanaethau asesu a thrin i gleifion mewnol ac allanol mewn ysbytai yn yr Uned Iechyd y Meddwl (MHU). Mae'r rhan fwyaf o'r bobl hynny sy'n aros yn yr ysbyty o ganlyniad i'w salwch meddwl yno yn wirfoddol, ac yn rhydd i adael ar unrhyw bryd.
Yn yr amgylchiadau prin hynny lle y bo angen diogelu lles unigolyn, mae'n bosibl y bydd yr unigolyn hwnnw yn cael ei anfon i'r ysbyty yn anwirfoddol. Yn yr amgylchiadau yma, mae hawl gyda'r unigolyn i herio penderfyniad y staff.
Os ydych chi'n glaf mewnol mewn unrhyw ysbyty neu sefydliad cofrestredig ac yn derbyn triniaeth ar gyfer anhwylder meddwl, mae hawl gyda chi i ofyn am gymorth gan Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol. Bydd ef neu hi yn sicrhau bod gyda chi lais.
Am ragor o wybodaeth am Wasanaethau Iechyd y Meddwl, bwriwch olwg ar y daflen wybodaeth am Wasanaethau Iechyd Meddwl o dan 'Dogfennau Perthnasol'.
Dolennau cyswllt
Mae Carfannau Gofal a Thriniaeth i Oedolion wedi'u lleoli yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-Elâi.
Adeiladau'r Cyngor, Llywelyn Street, Pentre.
Ffôn: 01443 424350
Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar
Ffôn: 01443 715100
Tŷ Draw, The Avenue, The Common, Pontypridd
Ffôn: 01443 486856
Carfannau Gofal a Thriniaeth i Bobl Hŷn
Mae Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar yn gwasanaethu trigolion Cwm Cynon.
Mae Tŷ Afon, Aberrhondda Road, Y Porth yn gwasanaethu trigolion Cwm Rhondda a Thaf-Elài.