Gordaliad yw Swm o Fudd-dal sydd wedi’i dalu ond doedd dim hawl gyda’r sawl a gafodd yr arian i’w gael dan ofynion y Rheoliadau.
Er enghraifft, pe bai’r sawl sy’n hawlio budd-dal ddim yn rhoi gwybod i’r Cyngor bod ei incwm wedi codi, a bod ail-gyfrifo’r budd-dal y mae’n cael ei hawlio yn golygu bod gormod o fudd-dal wedi’i dalu.
Gall achos o ordaliad drwy dwyll ddigwydd pan fo unigolyn yn cyflwyno datganiad neu ddogfen anghywir yn fwriadol, neu ddim yn rhoi gwybod i’r Cyngor bod newid wedi bod yn ei amgylchiadau, gyda’r bwriad o hawlio neu gadw Budd-daliad.
Hawl sylfaenol
Efallai y gallwn ni leihau swm gordaliad trwy gymhwyso dull o’r enw ‘hawl sylfaenol’.
Egwyddor ‘hawl sylfaenol’ ydy dyfarnu swm tybiannol o fudd-dal sy’n lleihau swm unrhyw ordaliad sy wedi’i dalu o swm y budd-dal byddech chi wedi’i dderbyn pe bai’r ffeithiau cywir wrth law ar y pryd.
Unwaith y byddwn ni’n rhoi gwybod ichi am eich gordaliad bydd gofyn ichi gyflwyno manylion ynghylch eich amgylchiadau yn ystod cyfnod y gordaliadau. Bydd mis calendr gyda chi i gyflwyno’r wybodaeth yma.
Sut mae’r Cyngor yn trafod achosion o ordalu?
Mae’r rheoliadau sy’n ymwneud â gweinyddu achosion o ordalu budd-daliadau wedi’u cynnwys yn y Rheoliadau Budd-daliadau Tai a deddfwriaethau perthnasol eraill a’u dilynodd. Mae dyletswydd ar y Cyngor i weithredu yn ôl y Ddeddf, ac adennill unrhyw ordaliadau oddi wrth denantiaid a landlordiaid.
Fe all y Cyngor benderfynu dwyn achos troseddol yn erbyn y sawl sydd wedi hawlio gordaliadau trwy dwyll yn ogystal.
Oddi wrth bwy mae modd adennill gordaliad?
Mae modd adennill gordaliad naill ai oddi wrth y sawl a achosodd y gordaliad, neu’r sawl sydd wedi derbyn y gordaliad.
Sut byddwn ni’n adennill gordaliad oddi wrth Denant?
Os yw’r tenant yn hawlio budd-dal tai ar y pryd, bydd y gordaliad yn cael ei dynnu’n ôl yn wythnosol o fudd-daliadau’r dyfodol. ‘Adgrafangu’ ydy’r term am hyn.
Mewn achosion lle mae’r taliadau’n mynd yn uniongyrchol at y landlord, bydd swm budd-dal gostyngol y tenant yn cael ei adlewyrchu yn swm y budd-dal sy’n cael ei dalu bob 4 wythnos.
Cyfrifoldeb y tenant yw talu ôl-ddyledion rhent sy’n digwydd o ganlyniad i daliadau gostyngol sy’n cael eu talu i’r landlord.
Os nad yw’r tenant yn hawlio Budd-dal Tai ar hyn o bryd, mae modd casglu’r gordaliad o fudd-daliadau eraill neu gyflwyno anfoneb. Os bydd y Cyngor yn penderfynu dwyn achos troseddol ynghylch gordaliadau sydd wedi’u hawlio trwy dwyll, fydd y trefnau adennill gordaliad ddim yn effeithio ar unrhyw gamau cyfreithiol.
Sut byddwch chi’n adennill Budd-dal oddi wrth Landlord?
Os bydd y Cyngor yn penderfynu adennill gordaliadau gan landlord, bydd e’n cyflwyno anfoneb neu’n tynnu arian o fudd-daliadau tenantiaid eraill sy’n cael eu talu i’r landlord hwnnw. Dydy’r landlord ddim i ystyried y didyniadau yma yn ôl-ddyledion rhent ar gyfer y tenantiaid hynny, a does dim hawl gyda’r landlord i geisio hawlio unrhyw ddiffyg oddi wrth ei denantiaid.
Fydd trefnau tynnu gordaliad yn ôl ddim yn effeithio ar unrhyw gamau cyfreithiol byddai’r Cyngor yn eu cymryd mewn perthynas â gordaliadau yn sgil twyll.
Oes hawl gyda fi i Apelio?
Ewch i’r adran ar Adolygu ac Apelio ar Faterion Budd-daliadau Tai i gael rhagor o fanylion am drefn cyflwyno apêl.
Gall y sawl sy’n hawlio ofyn i’r Cyngor ailystyried ei benderfyniad ynghylch cyfrifo gordaliad. Rhaid cyflwyno cais o’r fath cyn pen mis o dderbyn yr hysbysiad. Mae hawl gyda landlord i ofyn i’r Cyngor ailystyried ei benderfyniad lle bydd gordaliad yn cael ei dynnu’n ôl oddi wrth landlord yn bersonol; hynny yw, mewn achosion lle bydd anfoneb am dâl wedi’i rhoi iddo, neu arian wedi’i dynnu o fudd-dal y mae’n ei dderbyn ar gyfer un o’i denantiaid er mwyn adennill gordaliad sy’n ddyledus gan y landlord mewn perthynas â thenant arall.
Os y landlord yn bersonol sy’n gyfrifol am dalu gordaliad yn ôl, bydd e’n cael rhybudd ysgrifenedig am y penderfyniad i adennill gordaliad oddi wrtho. Mae gofyn i chi gyflwyno ceisiadau i’r Cyngor ailystyried ei benderfyniad cyn pen mis o dderbyn yr hysbysiad.
Caiff y landlord ysgrifennu at y Cyngor i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig o resymau dros benderfynu tynnu gordaliad yn ôl oddi wrtho ar unrhyw adeg.
Beth fydd yn digwydd os bydd gordaliad heb gael ei dalu’n ôl?
Os bydd anfoneb sydd wedi’i chyfeirio at landlord yn aros heb ei thalu, neu fod trefn a gytunwyd arni i ad-dalu dyled dros gyfnod o amser yn cael ei thorri, bydd modd i’r Cyngor ddwyn achos gerbron y Llys Sirol.
Nodiadau pwysig
Dim ond lle bo cais i adennill gordaliad oddi wrtho’n bersonol bydd hawl gyda landlord i ofyn i’r Cyngor ailystyried ei benderfyniad; hynny yw, lle mae anfoneb wedi’i rhoi iddo, neu lle mae’r Cyngor yn tynnu arian o fudd-dal mae’n ei dderbyn ar ran un o’i denantiaid er mwyn adennill gordaliad sy’n ddyledus gan y landlord hwnnw.
Os bydd landlord yn methu ag ad-dalu gordaliadau sy’n ddyledus yn rheolaidd, gall y Cyngor benderfynu bod y landlord hwnnw ddim yn 'berson gweddus ac addas' yn unol â Rheoliadau Budd-daliadau, ac yn gallu gwrthod gwneud unrhyw daliadau budd-dal yn uniongyrchol i’r landlord hwnnw.
Dolennau cyswllt
Ffôn: 01443 681081
Ffacs: 01443 680661
Minicom: 01443 680 708
HousingBenefitEnquiries@rhondda-cynon-taf.gov.uk|
Cyfeiriad
Isadran Budd-daliadau Tai
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Bronwydd
Porth Rhondda
CF39 9DL
neu un o’n Canolfannau ibobun|