Unwaith y byddwch chi wedi llwyddo yn eich cais am fudd-dal tai, byddwn ni, o bryd i’w gilydd, yn cadarnhau’ch manylion rhag ofn eu bod wedi newid. Ddylen ni ddim cadarnhau manylion cais rhywun o oed gweithio mwy nag unwaith bob chwe mis a mwy nag unwaith bob tair blynedd yn achos pensiynwyr. Ond mae hawl, fodd bynnag, gyda’r Cyngor i adolygu cais yn amlach na hynny.
Pam mae angen i’r Cyngor sicrhau bod eich amgylchiadau heb newid?
Mae rhaid i ni sicrhau bod y manylion sydd gyda ni am eich amgylchiadau yn gywir fel eich bod chi’n derbyn pob budd-dal mae hawl gyda chi iddo.
Trwy gadarnhau’r wybodaeth sydd gyda ni, rydyn ni’n gallu sicrhau bod y swm cywir yn cael ei roi i’r sawl sydd ei wir angen e.
Sut bydd y Cyngor yn cysylltu â fi?
Fel arfer, byddwn ni’n cysylltu a chi trwy un o’r dulliau canlynol:
-
Trwy lythyr,
-
Trwy ymweld a chi yn eich cartref,
-
Dros y ffon
Os ydyn ni’n bwriadu ymweld a chi gartre, fel arfer bydd un o’n swyddogion ni’n cysylltu a chi’n gyntaf i drefnu apwyntiad (er, mewn rhai achosion, byddwn ni’n ymweld a chi heb eich hysbysu’n gyntaf). Os nad ydych chi gartref pan fydd ein swyddog yn galw, bydd ef/hi yn gadael cerdyn a rhif i chi ffonio i drefnu apwyntiad arall.
Beth sy’n digwydd os na fyddwch chi’n cysylltu â ni?
Os nad ydych chi’n cysylltu a ni neu’n rhoi’r wybodaeth rydyn ni ei heisiau, bydd rhaid i ni ohirio’ch cais, neu hyd yn oed ei derfynu. Dydyn ni ddim eisiau gwneud hynny, felly gwnewch yn siwr eich bod chi’n cysylltu a ni.
Dolennau cyswllt
Ffôn: 01443 681081
Ffacs: 01443 680661
Minicom: 01443 680 708
HousingBenefitEnquiries@rhondda-cynon-taf.gov.uk|
Cyfeiriad
Isadran Budd-daliadau Tai
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Bronwydd
Porth Rhondda
CF39 9DL
neu un o’n Canolfannau I Bob Un|