Mae hawl gyda chi i hawlio budd-dal tai am gyfnod yn y gorffennol - yr hyn sy’n cael ei alw yn ôl-ddyddio.
Mae modd ôl-ddyddio cais am fudd-dal hyd at uchafswm o 26 o wythnosau o ddyddiad derbyn eich cais.
I ôl-ddyddio cais, mae gofyn ein bod ni’n fodlon:
-
eich bod chi wedi dadlau achos da dros beidio â hawlio yn gynt a
-
bod rheswm da gyda chi ar hyd yr amser dros beidio â chyflwyno cais yn ystod y cyfnod rydych chi’n gwneud cais amdano
Bydd gofyn ichi ddangos bod rheswm da gyda chi ar hyd yr amser dros beidio â hawlio budd-dal yn gynt, ac mae gofyn ein bod ni’n fodlon bod eich amgylchiadau chi yn ystod y cyfnod hwn y byddai unrhyw un rhesymoll arall o’r un oedran a phrofiad â chi wedi methu â hawlio budd-dal yn ogystal.
Mae gofyn bod gyda chi "achos da" ond rhaid inni i gymryd ffeithiau’ch achos chi i gyd i ystyriaeth.
Dyma rai enghreifftiau o "achosion da":
-
os oeddech chi heb hawlio budd-dl yn syth ar ôl gadael ysbyty
-
os oeddech chi’n sâl a doedd neb i hawlio budd-dal ar eich rhan chi
-
os doeddech chi ddim yn deall eich byddech chi’n gallu hawlio budd-dal oherwydd eich oedran, diffyg profiad neu anawsterau iaith ac ati.
-
os oeddech chi wedi colli aelod o’r teulu yn ddiweddar.
Beth fydd yn digwydd ar ôl cyflwyno cais i ôl-ddyddio budd-dal?
Bydd Swyddog Materion Budd-daliadau yn ystyried eich cais. Po fwyaf o wybodaeth a thystiolaeth rydych chi’n eu cynnwys yn eich cais, po gyflymaf byddwn ni’n gallu gwneud pendefyniad.
Weithiau, efallai bydd gofyn inni ysgrifennu atoch i ofyn am ragor o wybodaeth neu ofyn ichi ddod am gyfweliad anffurfiol.
Byddwn ni’n edrych ar eich cais cyn pen 28 o ddiwrnodau a byddwn ni’n anfon llythyr atoch chi i roi gwybod beth oedd y penderfyniad.
Pe baen ni’n penderfynu eich bod chi heb brofi rheswm dilys a does dim modd inni ôl-ddyddio eich budd-daliadau, byddwn ni’n esbonio ein rhesymau dros hynny yn ein llythyr.
Bydd gyda chi hawl wedyn i apelio yn erbyn ein penderfyniad i beidio ag ôl-ddyddio’ch cais.
Dolennau cyswllt
Ffôn: 01443 681081
Ffacs: 01443 680661
Minicom: 01443 680 708
HousingBenefitEnquiries@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Cyfeiriad
Isadran Budd-daliadau Tai
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Bronwydd
Porth Rhondda
CF39 9DL
neu un o’n Canolfannau I Bob Un|