Mae Lwfans Tai Lleol yn ffordd newydd o weithio allan ceisiadau newydd ar gyfer Budd-dal Tai i denantiaid sy’n rhentu llety gan landlord preifat. Mae hefyd yn effeithio ar denantiaid sydd eisoes yn cael Budd-dal Tai ac sy’n symud i lety sy’n cael ei rentu gan landlord preifat. Caiff y Lwfans Tai Lleol ei gyflwyno ar 7 Ebrill 2008. Os ydych chi’n byw mewn llety cyngor, neu mewn tai cymdeithasol eraill, fydd Lwfans Tai Lleol ddim yn effeithio arnoch chi.
Gyda’r Lwfans Tai Lleol, fel arfer bydd eich budd-dal ddim yn seiliedig ar yr eiddo rydych chi’n byw ynddo. Fel arfer bydd yn seiliedig ar:
-
pwy sy’n byw gyda chi.
-
ym mha ardal rydych chi’n byw
-
faint o arian sy’n dod i mewn
-
pa gynilion sydd gyda chi
Mewn rhai achosion, bydd pethau eraill yn effeithio ar swm y budd-dal y mae gennych hawl iddo. Mae’r rhain yn gallu cynnwys:
-
faint yw eich rhent
-
a oes disgwyl i rywun sy’n byw gyda chi gyfrannu at eich rhent
Os yw’r Lwfans Tai Lleol yn berthnasol i mi, sut byddaf i’n cael fy mudd-dal?
Fel arfer, caiff eich Budd-dal ei dalu ichi’n uniongyrchol. Caiff ei dalu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, os oes un gyda chi, neu drwy siec.
Os nad oes gennych gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, efallai yr hoffech chi drefnu un. Os gwnewch chi hyn, gallwch drefnu talu’r rhent i’ch landlord yn awtomatig, drwy ddefnyddio archeb sefydlog.
Gallwch gael cyngor ar agor a chynnal cyfrif banc gan unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu. Gallwch hefyd gael cyngor gan fudiad lles fel Cyngor ar Bopeth.
Eich cyfrifoldeb chi yw talu’r rhent i’ch landlord. Os na fyddwch chi’n talu’ch rhent, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys a chael eich troi allan o’r eiddo.
Oes modd imi dalu fy mudd-dal yn uniongyrchol i’m landlord?
Caiff eich budd-dal ei dalu i chi’n uniongyrchol oni bai eich bod yn debygol o gael trafferth talu eich rhent, neu os oes yn rhaid ei dalu i’ch landlord. Am ragor o fanylion am hyn, darllenwch Y Lwfans Tai Lleol: tenantiaid sy’n debygol o gael anhawster wrth dalu’u rhent. Mynnwch gopi o’r llyfryn drwy ddefnyddio’r cyfeiriad isod.
Os ydych chi’n poeni am drafod eich arian, gofynnwch i ni os gallwn ni eich helpu. Mewn rhai achosion, efallai y bydd modd i ni dalu’ch rhent i’ch landlord.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn defnyddio fy mudd-dal ar gyfer rhywbeth arall?
Pwrpas eich budd-dal yw talu eich rhent. Os na fyddwch chi’n defnyddio’ch budd-dal i dalu’r rhent, fe allai’ch landlord fynd â chi i’r llys neu geisio’ch troi chi allan, ac fe allech chi golli’ch cartref.
Beth os bydd fy amgylchiadau’n newid?
Os ydych chi’n cael Budd-dal ac yn mynd i symud i gyfeiriad newydd, neu os bydd amgylchiadau eraill yn newid, dylech ddweud wrthym ni ar unwaith. Efallai y bydd angen i chi wneud cais newydd am Fudd-dal Tai.
Pam ydym ni’n cyflwyno Lwfans Tai Lleol?
Mae’r Lwfans Tai Lleol yn rhoi rhagor o ddewis i denantiaid o ran lle maen nhw’n byw. Mae hefyd yn fwy teg oherwydd, gyda’r Lwfans Tai Lleol:
-
mae gennych yr hawl i’r un swm o fudd-dal â phobl eraill sydd yn yr un amgylchiadau â chi
-
gallwch ganfod faint o fudd-dal y gallwch chi ei gael cyn i chi rentu eiddo
-
gallwch chi benderfynu faint o’ch budd-dal yr ydych am wario ar rentu eiddo
-
fel arfer, caiff eich Budd-dal ei dalu i chi. Eich cyfrifoldeb chi yw talu’r rhent i’ch landlord
-
byddwch yn cael gwybod am eich budd-dal yn gynt nag o’r blaen
Cysylltu â Ni
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau a’u heffaith arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â ni:
Budd-daliadau Tai
Cyngor Rhondda Cynon Taf
Tŷ Bronwydd
Y Porth
CF39 9DL
Ffôn: 01443 681081
E-bost: HousingBenefitEnquiries@rhondda-cynon-taff.gov.uk|