Mae Rheoliadau Budd-dal Tai (Penderfyniadau ac Apeliadau) 2001 yn datgan bod modd i’r sawl mae penderfyniad perthnasol yn effeithio arno ofyn i’r cyngor i ailystyried ei benderfyniad. Mae hefyd yn datgan bod pwy bynnag y mae hyn yn effeithio arno yn cael apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor i dribiwnlys apêl annibynnol yn ogystal.
Y diffiniad o ‘benderfyniad perthnasol’ ydy “unrhyw fater sy’n ymwneud â hawlio budd-dal”, er enghraifft: swm y budd-dal sydd i’w dalu, swm y rhent sy’n gymwys ar gyfer hawlio budd-daliadau, cyfrifo incwm y sawl sy’n hawlio’r budd-dal neu gyfrifo swm gordaliad a’i hawlio yn ôl. Serch hynny, fydd dim hawl gyda chi i apelio yn erbyn rhai penderfyniadau, megis, penderfyniadau gweinyddol gan amlaf. Byddwn ni’n rhoi gwybod ichi pe bai penderfyniad y cyngor ddim yn cynnwys hawl i apelio.
Mae cyflwyno cais am adolygiad yn golygu bydd y cyngor yn ailystyried ei benderfyniad ynghylch budd-daliadau ac yn gwneud yn siwr bod y penderfyniad iawn wedi’i wneud.
Mae apêl yn golygu bydd tribiwnlys, sy’n gweithio’n annibynnol oddi ar y cyngor ac Adran Nawdd Cymdeithasol, yn ystyried penderfyniad y cyngor.
Y sawl mae’r penderfyniad yn effeithio arno?
Dyma enghreiffitiau o’r sawl mae penderfyniad yn effeithio arno:
-
Rhywun sy’n hawlio budd-dal
-
Rhywun sy’n gweithredu ar ran y sawl sy’n hawlio budd-dal ar ôl cael ei benodi gan y Llysoedd
-
Rhywun mae’r cyngor yn cytuno iddo i weithredu ar ran y sawl sy’n hawlio budd-dal
-
Landlord – mewn achosion ynghylch i bwy mae’r budd-dal i’w dalu yn unig
-
Asiant - mewn achosion ynghylch i bwy mae’r budd-dal i’w dalu yn unig
-
Unrhyw un sy’n destun penderfyniad bod rhaid adennill gordaliad oddi wrtho
Golyga hyn, mai dim ond y sawl sy’n hawlio budd-dal sy’n cael gofyn i’r cyngor i ailystyried penderfyniad sy’n ymwneud â budd-daliadau’r unigolyn. Yr unig hawl sy gyda landlord neu asiant ydy gofyn i’r cyngor i newid penderfyniad ynghylch taliadau i landlord ac ydy penderfyniad i adennill gordaliad oddi wrth landlord neu asiant wedi’i wneud yn gywir.
Beth os dw i ddim yn fodlon ar benderfyniad y cyngor?
Mae modd i’r sawl mae penderfyniad yn effeithio arno i amau penderfyniad y cyngor a chyflwyno cais am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r penderfyniad.
Sut mae gofyn i’r cyngor i ailystyried y penderfyniad?
Mae gofyn i’r sawl mae’r penderfyniad yn effeithio arno i anfon llythyr at y cyngor cyn pen mis o ddyddiad derbyn y llythyr sy’n nodi penderfyniad gwreiddiol y cyngor.
Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd y cyngor yn barod i ohirio’r dyddiad olaf ar gyfer ailystyried ei benderfyniad. Mae gofyn i’r sawl mae’r penderfyniad yn effeithio arno ysgrifennu at y cyngor, gan nodi’i resymau dros beidio â chyflwyno cais i’r cyngor i ailystyried ei benderfyniad mewn pryd. Fydd y cyngor ddim yn barod i dderbyn ceisiadau sy’n cael eu cyflwyno 13 mis ar ôl derbyn y llythyr sy’n nodi penderfyniad y cyngor.
Fydd y cyngor yn rhoi gwybod imi ynghylch canlyniad cais i ailystyried penderfyniad?
Ar ôl ailystyried ei benderfyniad, bydd y cyngor yn ysgrifennu at y trethdalwr i ddweud ei fod wedi newid ei benderfyniad neu fod y penderfyniad yn sefyll. Efallai bydd y cyngor yn gofyn ichi ddarparu gwybodaeth ychwanegol cyn gwneud penderfyniad terfynol. Mae gofyn eich bod chi’n darparu’r wybodaeth hon cyn pen mis o dderbyn y cais.
Datganiad o’r Rhesymau
Mae hawl gyda’r trethdalwr i ofyn i’r cyngor i baratoi Datganiad o‘r Rhesymau yn ysgrifenedig. Dydy’r Datganiad o’r Rhesymau ddim yn effeithio ar eich hawl chi i gyflwyno apêl. Bydd y datganiad yn esbonio sut roedd y cyngor wedi dod i benderfyniad. Fe all yr amser a gymerodd y cyngor i ddarparu datganiad ymestyn y dyddiad olaf ar gyfer gofyn i’r cyngor i ailystyried ei gais neu gyflwyno apêl i’r Tribiwnlys.
Sut dw i’n apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor?
Mae hawl i’r sawl mae’r penderfyniad yn effeithio arno i ofyn i Dribiwnlys Apêl i ystyried penderfyniad y cyngor. Mae gofyn bod y cyngor yn derbyn cais ysgrifenedig cyn pen mis o ddyddiad derbyn y llythyr sy’n nodi’i benderfyniad. Mae ffurflen sy’n esbonio trefnau gwneud penderfyniadau a chyflwyno apêl y cyngor yn cynnwys ffurflen mae modd ichi’i defnyddio i ddibenion cyflwyno apêl.
Mewn achosion lle bo’r trethdalwr wedi gofyn i’r cyngor i ailystyried ei benderfyniad, a’i fod e wedi cael ateb gan y cyngor ynglŷn â’r cais eisoes, bydd un mis o ddyddiad cael gwybod canlyniad y cais gan y gyngor, i ofyn i’r achos i gael ei ystyried gan y Tribiwnlys Apêl.
Mewn rhai amgylchiadau eithriadol, mae modd ymestyn yr amserlen ar gyfer cyflwyno cais am apêl. Mae gofyn bod y trethdalwr yn ysgrifennu at y cyngor gan nodi ei resymau dros beidio â chyflwyno apêl mewn pryd. Fydd y cyngor ddim yn ystyried cais i ymestyn yr amserlen 13 mis ar ôl derbyn llythyr yn nodi’i benderfyniad.
Fydd rhaid imi fod yn bresennol yn y Tribiwnlys?
Mae tribiwnlysoedd yn cael eu cynnal yn lleol. Bydd Gwasanaeth y Tribiwnlysoedd yn ysgrifennu atoch i roi gwybod ichi y dyddiad a’r amser a’r ganolfan lle bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal. Byddan nhw hefyd yn gofyn ichi os rydych chi eisiau bod yn bresennol yn y Tribiwnlys neu os rydych chi’n dymuno i’r Tribiwnlys i ystyried yr achos yn eich absenoldeb. 'Gwrandawiad ar bapur' ydy’r term am y drefn yma.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd panel y Tribiwnlys yn cynnwys un aelod sydd â chymwysterau cyfreithiol. Os bydd materion ariannol cymhleth i’w trafod, bydd aelod sydd â chymwysterau ariannol yn bresennol yn ogystal. Efallai bydd Clerc y Tribiwnlys a chynrychiolydd ar ran y cyngor yn bresennol yn ogystal.
Beth os dw i ddim yn fodlon ar benderfyniad y Tribiwnlys?
Os bydd y cyngor neu’r trethdalwr o’r farn bod penderfyniad y Tribiwnlys Apêl yn gyfreithiol anghywir, mae modd iddyn nhw i ofyn am ganiatâd i gyflwyno apêl i Gomisiynwyr Nawdd Cymdeithasol.
Gwybodaeth ychwanegol
Os oes gyda chi ragor o gwestiynau ynghylch apeliadau, cysylltwch â ni.
Dolennau cyswllt defnyddiol
Cliciwch ar y cyswllt i fynd i wefan Directgov ar ochr chwith y dudalen i gael gwybodaeth am y budd-daliadau eraill efallai bod hawl gyda chi i’w hawlio.
Mae’r cyfeiriad isod yn cynnwys arweiniad, deddfwriaeth a chyfraith achosion mewn perthynas a budd-dal Tai a Treth y Cyngor.
http://www.dwp.gov.uk/housingbenefit/claims-processing/operational-manuals/|
http://www.dwp.gov.uk/advisers/docs/lawvols/bluevol/|
Nodiadau pwysig
Mater rhwng y cyngor a’r sawl sy’n ei hawlio yw cyfanswm y budd-daliadau sy’n cael eu talu. Dim ond y tenant sy’n cael gofyn i’r cyngor i ailystyried cyfanswm y budd-daliadau sydd i’w talu. Os bydd y cyngor yn gostwng budd-daliadau tenant er mwyn hawlio gordaliad yn ôl mewn cysylltiad â chyfeiriad blaenorol, chaiff y landlord presennol ddim apelio yn erbyn y penderfyniad i adennill y gordaliad.
Dolennau cyswllt
Ffôn: 01443 681081
Ffacs: 01443 680661
Minicom: 01443 680 708
HousingBenefitEnquiries@rhondda-cynon-taf.gov.uk|
Cyfeiriad
Isadran Budd-daliadau Tai
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Bronwydd
Porth Rhondda
CF39 9DL
neu un o’n Canolfannau I Bob Un|