Gyda’r Lwfans Tai Lleol, caiff budd-dal ei dalu i’r tenant fel arfer. Chaiff tenantiaid ddim dewis trefnu talu’u budd-dal i’w landlord. Ond, mewn amgylchiadau penodol, mae gennym ni hawl i benderfynu talu budd-dal i’r landlord.
Pryd caiff awdurdod lleol dalu’r budd-dal i’r landlord?
Fel arfer bydd yn rhaid i’r awdurdod lleol dalu’r budd-dal i’r landlord, os yw’r tenant wyth wythnos neu ragor ar ei hôl hi gyda’u rhent.
Mae gennym ni hawl i dalu’r budd-dal yn uniongyrchol i’r landlord os penderfynwn ni fod y tenant yn:
-
debygol o gael anhawster i reoli’i faterion ariannol ei hun
-
annhebygol o dalu’i rent
Yn ogystal â hyn, mae gennym ni hawl i benderfynu talu’r budd-dal i’r landlord os oedd y tenant wyth wythnos neu ragor ar ei hôl hi gyda’r rhent yn ystod ei hawliad budd-dal cyfredol.
Pwy sy’n cael gofyn i’r budd-dal gael ei dalu i’r landlord?
Mae hawl gan denantiaid, landlordiaid, teuluoedd tenantiaid, neu bersonau sy’n gweithredu ar ran y tenantiaid, i ddweud wrth yr awdurdod lleol eu bod yn cael anhawster i dalu’u rhent, neu’n debygol o gael anhawster. Yn ogystal â hyn mae’n bosibl i’r awdurdod lleol nodi, er enghraifft wrth ymweld â thenantiaid yn eu cartrefi, pa rai a allai gael anhawster i reoli’u harian. Mae hawl gan landlordiaid hefyd i gysylltu â’r awdurdod lleol, yn enwedig os yw’r tenant yn dechrau mynd ar ei hôl hi gyda’r rhent.
Pwy allai gael anhawster i dalu’r rhent?
Gallai pobl gael anhawster i dalu’r rhent am sawl rheswm. Dyma rai ohonyn nhw:
-
problemau dyledion difrifol
-
dedfryd Llys Sirol yn ddiweddar
-
bod yn fethdalwr heb ei ryddhau
-
methu agor cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
-
bod rhan o’u Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r cwmni nwy, trydan neu ddŵr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
-
bod yn derbyn cymorth Cefnogi Pobl
-
bod yn derbyn cymorth gan elusen ddigartrefedd
Gallai pobl eraill gael anhawster i dalu’r rhent am un o’r rhesymau yma:
-
bod ganddyn nhw anawsterau dysgu
-
bod ganddyn nhw salwch sy’n eu rhwystro rhag dygymod o ddydd i ddydd
-
methu darllen Cymraeg na Saesneg
-
methu siarad Cymraeg na Saesneg
-
bod yn gaeth i gyffuriau, alcohol neu gamblo
-
bod yn ffoi oddi wrth drais yn y cartref
-
bod yn gadael gofal
-
bod wedi gadael carchar
-
bod yn ddigartref
Efallai bod rhesymau eraill y gallai rhywun gael anawsterau. Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth, gofynnwch i ni.
Pwy sy’n penderfynu os ydym ni’n cael talu i’r landlord?
Y ni sy’n penderfynu os ydym ni’n cael talu i’r landlord.
Ar adegau, mae’n bosibl y bydd staff Budd-daliadau Tai yn gwybod am bobl sy’n cael anhawster i reoli’u harian. Bydd hawl gan y staff i gymryd camau ar sail yr wybodaeth hon. Os ydych chi’n meddwl bod tenant yn cael anhawster i reoli’i arian, rydym ni’n eich argymell i annog y tenant i gysylltu â ni.
Rhaid i ni gael tystiolaeth sy’n dangos ei fod yn cael anhawster i reoli’i arian, ac y bydd yn llesol iddynt os talwn ni’n uniongyrchol i’r landlord. Gan amlaf, dylai’r dystiolaeth fod yn ysgrifenedig. Dyma rai o’r bobl sy’n cael cyflwyno tystiolaeth:
-
y tenant
-
ffrindiau neu deulu’r tenant
-
y landlord
-
grwpiau lles (gan gynnwys cynghorwyr ariannol)
-
Gwasanaethau Cymdeithasol
-
swyddogion prawf
-
Canolfan Byd Gwaith
-
Y Gwasanaeth Pensiwn
-
elusennau/mudiadau digartrefedd
-
timau Cefnogi Pobl
-
gweinyddwyr cynlluniau blaendal rhent lleol/y cyngor, a swyddogion digartrefedd neu gyngor ar dai
Byddwn ni’n gweithio gyda’r tenant wrth wneud ein penderfyniad.
Gwneud penderfyniad
Unwaith y byddwn ni wedi casglu’r dystiolaeth, byddwn ni’n penderfynu mor fuan â phosibl os bydd hi’n briodol i dalu’r budd-dal yn uniongyrchol i’r landlord. Byddwn ni’n dal i dalu’r budd-dal wrth i ni wneud ein penderfyniad.
Byddwn ni’n ysgrifennu at y tenant ac esbonio’n penderfyniad. Byddwn ni’n ysgrifennu at y landlord hefyd.
Adolygiadau ac apeliadau
Os yw’r tenant neu’r landlord yn anghytuno â’n penderfyniad ni, mae ganddyn nhw hawl i ofyn i ni edrych ar y penderfyniad eto, ‘Adolygiad’ yw’r enw ar y broses yma. Fel arall, mae ganddyn nhw hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, gan roi rhesymau pam eu bod nhw’n meddwl fod y penderfyniad yn anghywir.
Cysylltu â Ni
Os ydych eisiau gwybod rhagor am y newidiadau a sut maen nhw’n effeithio arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Budd-daliadau Tai
CBS Rhondda Cynon Taf
Tŷ Bronwydd
Y Porth
CF39 9DL
Ffôn: 01443 681081
E-bost: HousingBenefitEnquiries@rhondda-cynon-taff.gov.uk|