Oes angen caniatâd rheoliadau adeiladu arna i?
Fodd bynnag, mae’n bosib y gall cyntedd neu ystafell wydr wedi’i adeiladu ar lefel y ddaear fod yn eithriad o’r Rheoliadau Adeiladu:-
-
Os nad yw arwynebedd llawr y cyntedd yn fwy na 30 metr sgwâr ac os yw’r gwydr yn cydymffurfio â gofynion diogelwch gwydro y Rheoliadau Adeiladu (Rhan N) fydd y Rheoliadau Adeiladu ddim yn berthnasol.
-
Mae’r uchod yn wir am ystafell wydr hefyd, ond mae rhaid i o leiaf 75% o’r to a 50% o’r waliau fod o wneuthuriad lled dryloyw ac mae rhaid cael drws o fath allanol i wahanu’r ystafell a’r tŷ, ac mae rhaid iddi beidio â chael ei defnyddio at unrhyw bwrpas arall (e.e. cegin neu ystafell fyw/cysgu). Argymhellir hefyd eich bod chi’n gwneud yn siŵr bod yr ystafell wydr yn cael ei hadeiladu fel nad yw’n rhwystro ysgolion rhag cyrraedd ffenestri ystafell yn y to neu addasiad i’r llofft, yn enwedig os oes angen defnyddio’r ffenest fel ffordd o ddianc os bydd tân. Gweler hefyd yr wybodaeth am wifrau trydanol.
Fodd bynnag, mae garej unllawr sydd â llai na 30 metr sgwâr o arwynebedd llawr yn eithriad cyhyd ag y bod:
I ADEILADU ESTYNIAD SY’N GAREJ AR FY NHŶ? OES
Fodd bynnag, bydd cysgodfa ceir ar lefel y ddaear, ar agor ar o leiaf dwy ochr ac sydd ag arwynebedd llawr sy’n llai na 30 metr sgwâr ddim angen Caniatâd Rheoliadau Adeiladu.
Mae’r ddogfen ‘Nodiadau Cyfarwyddyd i Addasu Garej’ yn rhoi manylion ynglŷn â’r hyn sydd ei angen yn ôl y rheoliadau adeiladu wrth addasu garej yn ystafell fyw.
Mae’r ddogfen 'Canllaw i Drosi Llofftydd' yn esbonio’r cyfan am Reoliadau Adeiladu sy’n ymwneud ag addasu’ch llofft.
Bydd raid i chi wneud yn siŵr a oes angen caniatâd cynllunio neu ganiatâd adeilad rhestredig arnoch chi. Hefyd, mae’n bosibl y bydd y Ddeddf Wal Gydrannol yn berthnasol gan ddibynnu ar y gwaith rydych chi’n ei wneud. Dylai peiriannydd strwythurol ddylunio’r waliau cynnal ac mae’n bosibl y bydd rhaid i chi gael caniatâd cynllunio ar eu cyfer.
Os yw’r gwaith addasu’n cynnwys cael gwared yn rhannol neu’n gyfangwbl ar wal sy’n cario pwysau, distyn, trawst, corn simdde neu os yw’n cynnwys darparu ffitiad rheoledig e.e. boeler, silindr dŵr poeth ac ati.
NA – os yw’r gwaith trwsio yn bethau bach e.e. rhoi ffelt newydd ar do gwastad, ail-bwyntio gwaith bric neu osod byrddau llawr newydd.
OES – os yw’r gwaith trwsio yn waith mawr e.e. tanategu adeilad, rhoi to newydd lle mae’n rhaid gosod o’r newydd mwy na 50% o’r rhannau pren neu lle mae’r teils neu’r deunydd newydd ar gyfer y to dipyn yn drymach neu’n ysgafnach na’r deunydd sy’n gorchuddio’r to ar hyn o bryd.
Bydd raid cael caniatâd i osod gwaith strwythurol e.e. trawstiau dur.
Fodd bynnag, mae llawer o gwmnïau ffenestri bellach wedi’u cofrestru gyda chynllun FENSA, sy’n golygu y byddan nhw’n rhoi Tystysgrif Cymhwysedd ar gyfer gosod ffenestri yng nghartrefi pobl. Lle bydd ffenestri neu ddrysau yn cael eu gosod mewn adeilad masnachol, bydd raid cyflwyno Cais Rheoliadau Adeiladu.
Mae rhaid cael caniatâd o dan y Rheoliadau Adeiladu ar gyfer cyflenwad trydan newydd neu newidiadau i gyflenwad trydan, oni bai bod y gwaith yn cael ei wneud gan drydanwr sydd wedi’i gofrestru gyda’r Cynllun Person Cymwys. Rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod yn defnyddio trydanwr/gosodwr sy’n aelod o’r Cynllun Person Cymwys.
I osod neu newid safle bath, tŷ bach ac ati.
I osod neu newid safle offer gwresogi:
YCHYDIG AM WASANAETH RHEOLI ADEILADU EICH AWDURDOD LLEOL
Rheoli Adeiladu yw’r swyddogaeth statudol o wneud yn siŵr bod gwaith adeiladu yn cydymffurfio â gofynion perthnasol Rheoliadau Adeiladu 2000 ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall o Ddeddf Adeiladu 1984. Mae Rheoli Adeiladu yn ymwneud â materion iechyd a diogelwch ymarferol, arbed ynni a mynediad i adeiladau a’r cyfleusterau sydd ynddyn nhw. Mae Adran Rheoli Adeiladu Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf hefyd yn ymwneud â rheoli adeiladau peryglus a gwaith dymchwel.
Ein nod ni yw darparu gwasanaeth effeithlon a diduedd ar gyfer pob math o faterion Rheoli Adeiladu. Byddwn ni’n ceisio eich helpu chi gyda’ch prosiect adeiladu, ond ein swyddogaeth ni yw gwneud yn siŵr bod safonau Iechyd a Diogelwch sylfaenol yn cael eu diwallu. Weithiau, bydd materion technegol yn gallu arwain at wahaniaeth yn nehongliad. Ond gan ein bod ni’n annibynnol, mae modd inni roi cyngor gwbl ddiduedd.
Llywodraeth ganolog sy’n penderfynu ar ffioedd Rheoliadau Adeiladu. Mae’r ffaith eich bod chi’n talu ffioedd yn golygu bod gyda chi fwy o reswm fyth i ddisgwyl gwasanaeth da, ac rydyn ni’n gwneud ein gorau i gynnal y gwasanaeth yma.
GALLWCH DDISGWYL Y CANLYNOL FEL RHAN O’R GWASANAETH RYDYN NI’N EI GYNNIG
-
Bydd ceisiadau’n cael eu cydnabod o fewn 3 diwrnod gwaith;
-
Byddwn ni’n gwirio ac yn ymateb i geisiadau o fewn 15 diwrnod gwaith o’u derbyn;
-
Byddwn ni’n ateb gohebiaeth gyffredinol o fewn 10 diwrnod gwaith;
-
Bydd cynorthwy-ydd Cymorth Technegol ar gael rhwng 9am a 5pm fydd yn gallu ateb y rhan fwyaf o gwestiynau am eich cais. Fodd bynnag, os hoffech chi siarad â Swyddog Rheoli Adeiladu ffoniwch i drefnu apwyntiad rhwng 8-10am neu 2-5pm.
-
Byddwn ni’n cyhoeddi Tystysgrif Gwblhau pan fydd eich prosiect wedi’i gwblhau yn foddhaol.
I weld Dogfennau Cymeradwy y Rheoliadau Adeiladu, ewch i wefan Communities and Local Government.
Lle mae’n swyddfeydd ni:
Rheoli Adeiladu, Rhondda Cynon Taf, Tŷ Sardis, Sardis Road, Pontypridd CF37 1DU
Ffôn: (01443) 494746 a 494747
Ffacs: (01443) 494774
Y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan ein carfanau Rheoli Adeiladu
Bydd ein Swyddogion Rheoli Adeiladu ni yn rhoi’r cyngor gorau posib i chi ar bob math o faterion yn ymwneud â’r rheolau statudol ac adeiladau. Mae ein staff proffesiynol wedi’u rhannu’n garfanau rheoli adeiladu rheng-flaen sy’n gweithio yn ardaloedd Gogledd Rhondda Cynon Taf a De Rhondda Cynon Taf ac mae carfanau arbenigol yn eu cefnogi.
Mae gyda ni ystod eang o fedrau a phrofiad y gallwch chi fanteisio arni gan gynnwys:-
-
Adeiladu
-
Geotechnig
-
Peirianneg strwythurol a sifil
-
Draeniau a glanweithdra
-
Mynediad a chyfleusterau i bobl sydd ag anableddau
-
Arbed ynni
-
Strwythurau dros dro ar gyfer achlysuron arbennig
-
Diogelwch mewn meysydd chwarae
-
Diogelwch y cyhoedd
Mae ein gwybodaeth o gyflwr isbridd ac adeiladau lleol Rhondda Cynon Taf heb eu hail, a gallwn ni roi cyngor ymarferol i chi am ystod o faterion adeiladu a cheisio eich helpu i ddatrys problemau. Rydyn ni hefyd yn gallu eich cysylltu chi ag adrannau perthnasol eraill lle bo rhaid.
Gyda phrosiect mwy cymhleth, mae modd i ni ffurfio carfan o arbenigwyr mewn meysydd penodol (e.e. peirianneg strwythurol, awdurdod tân, defnyddio ynni’n effeithlon, mynediad anabl ac ati) er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi’n derbyn cyngor da o’r cychwyn cyntaf ac ar unrhyw adeg o’r dydd.
Byddwn ni’n gweithio gyda chi er mwyn gwneud yn siwr bod eich adeilad yn bodloni gofynion deddfwriaeth heddiw.
CARFAN GOGLEDD RHONDDA CYNON TAF
Neil Parfitt Uwch Swyddog Rheoli Adeiladu (01443) 494845
Ceri Tennant Swyddog Rheoli Adeiladu (01443) 494750
Colin Edwards Swyddog Rheoli Adeiladu (01443) 494752
Keith Malyn Swyddog Rheoli Adeiladu (01443) 494863
CARFAN DE RHONDDA CYNON TAF
Wayne Ridge Uwch Swyddog Rheoli Adeiladu (01443) 494749
Roger Venting Swyddog Rheoli Adeiladu (01443) 494843
Chris Keepings Swyddog Rheoli Adeiladu Cynorthwyol (01443) 494869
Conrad Bowtell Swyddog Rheoli Adeiladu (01443) 494753
Paul Green Swyddog Rheoli Adeiladu (01443) 494786
PEIRIANWYR STRWYTHUROL RHONDDA CYNON TAF
Terry Hughes Peiriannydd Strwythurol (01443) 49756