Skip to main content

Newyddion

Cynllun sylweddol i atgyweirio wal yr afon yn Nhonypandy wedi'i gwblhau

Mae'r Cyngor wedi cwblhau cynllun atgyweirio sylweddol ar wal afon sy'n cynnal yr arglawdd oddi ar yr A4058, ger Cylchfan Heol Tylacelyn, Tonypandy

16 Tachwedd 2023

Angen cau ffyrdd yng nghanol tref Pontypridd ar ddau ddydd Sul

Bydd y contractwr, Prichard's, yn gosod cyswllt draenio ar draws y ffordd, yn rhan o'r gwaith paratoi parhaus ar safle'r hen neuadd bingo, cyn y gwaith ailddatblygu

16 Tachwedd 2023

Sefydlu, tyfu neu amrywio eich busnes gydag ystod o grantiau sydd ar gael drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU

Mae modd i fusnesau cymwys yn Rhondda Cynon Taf fanteisio ar ystod o grantiau o raglenni buddsoddi ariannol a gefnogir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

15 Tachwedd 2023

Disgyblion ysgol Glynrhedynog yn cwrdd â'r garfan sy'n adeiladu eu hysgol newydd

Mae cynnydd da wedi'i wneud yn y cyfnod cynnar o adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yng Nglynrhedynog – ac yn ddiweddar cafodd grŵp o ddisgyblion a staff eu gwahodd i'r safle newydd i gael golwg agosach

15 Tachwedd 2023

Cau'r A4119 yn Nhonyrefail dros nos er mwyn gosod pont newydd

Mae gwaith i ailosod pont Tyn-y-bryn wedi mynd rhagddo'n llwyddiannus, a bydd y bont newydd yn cael ei chodi a'i gosod nos Wener, yn amodol ar y tywydd. Bydd rhaid cau'r A4119 rhwng cylchfannau Tretomos a Thonyrefail dros nos er mwyn...

15 Tachwedd 2023

Y Cyngor yn ymateb i ragolwg ariannol heriol

Bydd y Cabinet yn trafod opsiynau mewn ymateb i fwlch yn y gyllideb gwerth £35miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd yr Aelodau hefyd yn trafod adroddiadau allweddol sy'n ymwneud â Gofal Plant Oriau Dydd Cyn-ysgol, Cludiant o'r Cartref...

14 Tachwedd 2023

Diwrnod Hawliau Cynhalwyr 2023: Cydnabod Cynhalwyr ein Cymuned a bod yn gefn iddyn nhw

I nodi'r Diwrnod Hawliau Cynhalwyr yma, byddwn ni'n cynnal achlysur i'ch helpu chi i gael yr wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnoch chi!

14 Tachwedd 2023

Lansiad Apêl y Pabi 2023: Yn Angof Ni Chânt Fod

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o fod wedi cynnal Lansiad Apêl y Pabi De-ddwyrain Cymru 2023 ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ddydd Sadwrn 28 Hydref.

14 Tachwedd 2023

Adroddiad cynnydd pellach ar weithgarwch ar safle Tirlithriad Tylorstown

Mae'r Cyngor wedi rhoi'r newyddion diweddaraf ar waith Cam Pedwar i adfer safle Tirlithriad Tylorstown. Mae'r rhan fwyaf o wastraff y pwll glo wedi'i symud i'r safle derbyn, ac mae cynnydd da wedi'i wneud i ddatblygu seilwaith draenio

13 Tachwedd 2023

Diwrnod y Rhuban Gwyn - Gwylnos yng Ngolau Cannwyll 2023

Ar 24 Tachwedd, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn arddangos ein cefnogaeth barhaus o elusen White Ribbon UK, drwy gynnal ein gwylnos yng ngolau cannwyll yng nghanol tref Pontypridd. Hon fydd y 9fed blwyddyn i ni gefnogi'r elusen.

13 Tachwedd 2023

Chwilio Newyddion