Cyflwynwyd: Dydd Mawrth 21st Chwefror 2012

Matthew Leon
Ar ôl ennill gwobr ieuenctid blaenllaw, mae Matthew Leon yn breuddwydio am fywyd y tu ôl i’r lens.
Y disgybl 15 oed o Ysgol Gyfun Treorci enillodd y Wobr am Gyfraniad Arbennig at y Cyfryngau yng Ngwobrau Ieuenctid disglair Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Dyma drydedd flwyddyn y gwobrau arbennig yma. Yn ogystal â dathlu’r hyn y mae carfan Gwasanaethau Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer Pobl Ifanc a’u partneriaid yn ei gynnig ar gyfer pobl ifanc, o deithiau cyfnewid i waith ieuenctid ar y strydoedd, mae’r seremoni yn gwobrwyo pobl ifanc ar draws y Fwrdeistref Sirol am eu gwaith da.
Cafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal yn y Colisëwm yn Aberdâr eleni. Ymhlith yr adloniant i gyd-fynd â’r seremoni i wobrwyo pobl ifanc am eu gwaith clodwiw mewn pob math o feysydd, roedd perfformiadau gan gyfres o grwpiau dawns.
Cafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal yn y Colisëwm yn Aberdâr eleni. Ymhlith yr adloniant i gyd-fynd â’r seremoni i wobrwyo pobl ifanc am eu gwaith clodwiw mewn pob math o feysydd, roedd perfformiadau gan gyfres o grwpiau dawns.
Datblygodd Matthew ei ddoniau wrth gynhyrchu ffilmiau byrion trwy gysylltiad rheolaidd â Rhaglen E3+ Ysgol Gyfun Treorci.
Y Cynghorydd Eudine Hanagan, yr Aelod o Gabinet y Cyngor ar faterion Addysg, Medrau a Dysgu Gydol Oes a gyflwynodd y wobr iddo ac esboniodd, “Mae gan Matthew ddawn wirioneddol am wneud ffilmiau, a’i freuddwyd yw dilyn gyrfa lwyddiannus yn y diwydiannau creadigol.
“Mae’n ysgrifennu ac yn cynhyrchu ei ffilmiau ei hunan, ac mae rhai ohonynt wedi ennill gwobrau yng Ngŵyl Ffilmiau Zoom, yr Ŵyl Ffilmiau Ieuenctid Rhyngwladol a Gwobrau Ieuenctid Cymru 2011.
“Cafodd ffilm Matthew “The Message” ei sgrinio yn y Senedd gyda chyflwyniad gan Leighton Andrews AC.
“Nid yw’n gadael i ddim byd darfu ar ei benderfyniad a’i awydd i lwyddo ac mae’n rhannu ei wybodaeth a’i sgiliau ac yn gweithio’n galed i hyfforddi pobl ifanc eraill i greu ffilmiau yn ei grŵp E3+. Bu’n bleser mawr cael cyflwyno’r wobr haeddiannol iawn yma i’r gŵr ifanc creadigol ac ysbrydoledig yma. Mae gyrfa lwyddiannus dros ben ym myd y cyfryngau o’i flaen.”
Dywedodd Louise Cook, Pennaeth y Gwasanaethau ar gyfer Pobl Ifanc, “Mae ymrwymiad parhaus i gynorthwyo gwasanaethau ieuenctid a chymunedol allweddol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cyflawni eu potensial fel dinasyddion gweithgar a llwyddiannus. Mae hyn yn gwireddu delfrydau Ymestyn Hawliau ar gyfer pobl ifanc ar draws Rhondda Cynon Taf a Chymru.
“Mae’r Gwobrau Ieuenctid yn dathlu ac yn hyrwyddo llwyddiannau bendigedig y bobl ifanc sy’n dod i gysylltiad â’r ddarpariaeth ieuenctid ar draws Rhondda Cynon Taf. Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd y rhestr fer ac i’r holl enillwyr.”
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer pobl ifanc ar draws y Fwrdeistref Sirol, ewch i www.wicid.tv neu ffoniwch 01443 744000.