Cyflwynwyd: Dydd Llun 20th Chwefror 2012

Owen McCarthy
Mae Owen McCarthy, cerddor ifanc o Donyrefail, wedi ennill cydnabyddiaeth am ei ymroddiad at gerddorfeydd lleol a’i waith ysbrydoledig gyda phobl ifanc, ar ffurf Gwobr Gerdd flaenllaw.
Owen oedd enillydd y Wobr am Gyfraniad Arbennig at Gerddoriaeth yng Ngwobrau Ieuenctid Cyngor Rhondda Cynon Taf eleni.
Dyma drydedd flwyddyn y gwobrau arbennig yma. Yn ogystal â dathlu’r hyn y mae carfan Gwasanaethau Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer Pobl Ifanc a’u partneriaid yn ei gynnig ar gyfer pobl ifanc, o deithiau cyfnewid i waith ieuenctid ar y strydoedd, mae’r seremoni yn gwobrwyo pobl ifanc ar draws y Fwrdeistref Sirol am eu gwaith da.
Cafodd ymroddiad Owen at gerddoriaeth yn y Fwrdeistref Sirol ei wobrwyo yn ystod y seremoni yn y Colisëwm yn Aberdâr.
Mae Owen yn aelod o Gerddorfa Ranbarthol Rhondda Cynon Taf a Cherddorfa Ysgol Gyfun Tonyrefail. Yn ogystal â hynny mae’n cynorthwyo cyw-gerddorion ifanc eraill ac yn rhannu ei sgiliau â nhw.
Mae’r offerynnwr hollol ysbrydoledig hwn yn cefnogi ei ysgol ac achlysuron y Gwasanaethau ar gyfer Pobl Ifanc yn Nhonyrefail yn frwd, mae ei gyfoedion yn cydnabod ei fod yn un o “sêr y dyfodol”.
Y Cynghorydd Eudine Hanagan, yr Aelod o Gabinet y Cyngor ar faterion Addysg, Sgiliau a Dysgu gydol Oes gyflwynodd y gwobrau ac meddai, “Hoffwn longyfarch Owen a phawb arall a gafodd eu gwobrwyo yn y seremoni eleni yn wresog iawn. Mae ei gyfraniad at y byd cerddoriaeth yn glir i bawb ac mae’n amlwg bod gan y gŵr ifanc ysbrydoledig hwn ddyfodol disglair iawn o’i flaen.
“Rydyn ni’n hynod o falch o’n pobl ifanc yn Rhondda Cynon Taf ac rydym am roi pob anogaeth a chefnogaeth iddynt i’w cynorthwyo i gyflawni eu potensial.
“Mae ein darpariaeth Gwasanaethau ar gyfer Pobl Ifanc yn mynd o nerth i nerth ac yn cael effaith wirioneddol ar bobl ifanc gan roi’r dechrau gorau posibl iddynt mewn bywyd.
Dywedodd Louise Cook, Pennaeth y Gwasanaethau ar gyfer Pobl Ifanc, “Mae’r Gwobrau Ieuenctid yn dathlu ac yn hyrwyddo llwyddiannau bendigedig y bobl ifanc sy’n dod i gysylltiad â’r ddarpariaeth ieuenctid ar draws Rhondda Cynon Taf. Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd y rhestr fer ac i’r holl enillwyr.”
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer pobl ifanc ar draws y Fwrdeistref Sirol, ewch i www.wicid.tv neu ffoniwch 01443 744000.