Croesawu cyhoeddiad am yr A4059/A470

Cyflwynwyd: Dydd Mawrth 21st Chwefror 2012
A470 Innov centre

Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn golygu y caiff ymwelwyr a thrigolion fwynhau gwell ffyrdd a seilwaith yn Rhondda Cynon Taf.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a’r Aelod o’r Cabinet ar faterion y Priffyrdd, y Cynghorydd Andrew Morgan, sydd wedi bod yn lobïo am newid y gylchfan wrth gyffordd yr A470/A4059 ers blynyddoedd mawr, wedi croesawu’r cyhoeddiad.

Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf eisoes wedi cwrdd â swyddogion priffyrdd Llywodraeth Cymru i drafod dulliau posibl o ddatrys y problemau o ran traffig a diogelwch y ffyrdd sy’n effeithio ar y brif ffordd rhwng Caerdydd a Chwm Cynon.

Yn ystod y cyfarfodydd hyn, a thrwy gyfres o lythyrau, roedd y Cynghorydd Morgan wedi mynegi pryderon y Cyngor am y ffordd y mae traffig yn crynhoi wrth gylchfan Abercynon ar yr A470 ar adegau prysur. Mae e wedi bod yn galw am fesurau i ddarparu ar gyfer mwy o gerbydau ar gylchfan yr A470 / A4059 hefyd er mwyn atal gyrwyr rhag achosi tagfeydd ar strydoedd preswyl Abercynon wrth chwilio am ffordd o osgoi’r traffig.

Ddechrau 2011, gosododd y Cyngor oleuadau traffig parhaol ar Deras Greenfield a Glancynon er mwyn atal tagfeydd yno. Diben hyn oedd lleihau effaith y traffig ar drigolion y strydoedd preswyl hyn a cheisio atal gyrwyr rhag eu defnyddio i osgoi cylchfan yr A470. Er bod Lywodraeth Cymru wedi gosod goleuadau traffig wrth gyffordd yr A470 / A4059, mae tagfeydd yn cronni wrth y gylchfan brysur yma o hyd ac mae mwy a mwy o yrwyr yn defnyddio strydoedd preswyl Abercynon i geisio eu hosgoi. 

Roedd y Cyngor yn falch o glywed cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ei bod yn rhyddhau’r cyllid hwn i ddatblygu lôn benodedig i gerbydau sy’n teithio tua’r gogledd ac sydd am droi i’r chwith wrth y gylchfan ar yr A470. Bydd y lôn, a’r gwelliannau i’r signalau traffig, yn gwasanaethu’r A4059 a Chwm Cynon.  

Bydd y newidiadau hyn yn newyddion da i bobl sy’n teithio nôl ac ymlaen rhwng Caerdydd a Chwm Cynon am y byddant yn cwtogi ar y tagfeydd a’r amser teithio. Bydd y newidiadau’n beth positif i bobl sy’n teithio i Ferthyr Tudful a Nelson hefyd am y bydd y lôn newydd yn lleihau’r angen am giwio wrth y gylchfan brysur yma.

Bydd y cynllun i Wella Cynhwysedd yr A4059 yn Aberpennar yn cynnwys gwaith i wella’r goleuadau traffig cyfredol hefyd. Bydd y gwelliannau hyn yn ei gwneud hi’n haws cyrraedd y dref ac Ysbyty newydd Cwm Cynon a fydd yn agor cyn bo hir. Bydd y gwelliannau lleol amlwg yma yn gwella mynediad, amserau teithio a diogelwch i gerddwyr.

Bydd y Cyngor yn cydweithio’n agos â’i bartneriaid, gan gynnwys Cynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWTA) ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) y Llywodraeth, er mwyn rhoi’r cynlluniau cyffrous ar waith a chychwyn y project seilwaith pwysig hwn a fydd yn lleihau’r tagfeydd ar y ffyrdd pwysig hyn.

Dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae’r Cyngor wedi buddsoddi £10m yn ei Briffyrdd, a hynny diolch i’r Cynllun Buddsoddi yn y Priffyrdd. Mae miloedd o ddefnyddwyr y ffyrdd a thrigolion wedi elwa ar y cynllun hwn sydd wedi trwsio neu atgyfnerthu dros 200 o strydoedd a ffyrdd (208 ohonynt).

Mae’r project hynod lwyddiannus wedi trwsio dros 40,000 o dyllau a namau yn ffyrdd y Fwrdeistref Sirol. Mae’r gwaith wedi gosod wyneb newydd, neu wedi atgyfnerthu, dros 90 milltir o lonydd cerbydau – sydd gyfwerth â’r pellter rhwng Pontypridd a Dinbych y Pysgod. 

Gyda’i gilydd, bydd y ddau broject yn cyflawni gwelliannau aruthrol o ran cyflwr a seilwaith ein ffyrdd. Mae hyn yn dystiolaeth bellach o ymrwymiad y Cyngor a Llywodraeth Cymru i wella’r cysylltiadau trafnidiaeth angenrheidiol yn ein Bwrdeistref Sirol. 

Dywedodd Cynghorydd Andrew Morgan, yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Trafnidiaeth, Gofal i Gwsmeriaid a Chynllunio ar gyfer Argyfyngau, a Chadeirydd  Sewta: “Ar ôl blynyddoedd o lobïo a gweithio gyda Llywodraeth Cymru, rydw i wrth fy modd i glywed bod modd rhoi “golau gwyrdd” i’r cynlluniau i ddatrys yr hen broblem yma. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn llwyr gefnogi’r cyhoeddiad hwn, a byddwn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i roi’r cynlluniau ar waith er mwyn gwella’r darn hynod brysur hwn o’r A470.  

“Mae hi’n newyddion rhagorol y bydd yna lôn arbennig a fydd yn galluogi cerbydau sy’n teithio o gyfeiriad y de droi i’r chwith oddi ar yr A470 i ddilyn yr A4059 tua Chwm Cynon. Wrth gwrs bydd y traffig ar yr A470 ar ei ennill hefyd am y bydd llai o gerbydau’n defnyddio’r gylchfan ei hun. Bydd hyn hefyd yn lleihau awydd gyrwyr i ddefnyddio strydoedd preswyl Abercynon i osgoi’r tagfeydd.

“Eleni, mae’r Cyngor wedi buddsoddi £10m i drwsio a gosod wynebau newydd ar ei ffyrdd yn sgil y niwed a achoswyd gan dri gaeaf garw olynol. Bydd y cyhoeddiad hwn yn gam pellach yn y gwaith i wella seilwaith priffyrdd Rhondda Cynon Taf.

“Mae’r cynllun i wella’r priffyrdd wedi edrych ar ffyrdd ar draws Rhondda Cynon Taf i gyd, ac mae pob ward yn y Fwrdeistref Sirol wedi elwa arno.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y cynllun Trafnidiaeth, ewch i: http://wales.gov.uk/newsroom/transport/2011/111207ntp/?lang=en&ts=3|