Gwobrwyo ymroddiad Matthew at waith ieuenctid

Cyflwynwyd: Dydd Mawrth 21st Chwefror 2012
Volunteer Matthew Cox

Mae’r gwirfoddolwr ifanc Matthew Cox wedi ennill gwobr am ei gyfraniad arbennig at waith ieuenctid yn ei gymuned.

Matthew oedd enillydd y wobr am Gyfraniad Arbennig gan Berson Ifanc at Glwb neu Ganolfan Ieuenctid yng Ngwobrau Ieuenctid disglair Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Dyma drydedd flwyddyn y gwobrau arbennig yma. Yn ogystal â dathlu’r hyn y mae carfan Gwasanaethau Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer Pobl Ifanc a’u partneriaid yn ei gynnig ar gyfer pobl ifanc, o deithiau cyfnewid i waith ieuenctid ar y strydoedd, mae’r seremoni yn gwobrwyo pobl ifanc ar draws y Fwrdeistref Sirol am eu gwaith da.

Cafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal yn y Colisëwm yn Aberdâr eleni. Ymhlith yr adloniant i gyd-fynd â’r seremoni i wobrwyo pobl ifanc am eu gwaith clodwiw mewn pob math o feysydd, roedd perfformiadau gan gyfres o grwpiau dawns. 

Mae Matthew yn fyfyriwr amser llawn yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen, ond er gwaethaf y pwysau sydd arno fel myfyriwr Blwyddyn 12, mae’n dal i ddod o hyd i’r amser i wirfoddoli gyda gwahanol grwpiau yn ei gymuned.

Mae Matthew yn fyfyriwr amser llawn yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen, ond er gwaethaf y pwysau sydd arno fel myfyriwr Blwyddyn 12, mae’n dal i ddod o hyd i’r amser i wirfoddoli gyda gwahanol grwpiau yn ei gymuned.

Mae’n aelod brwdfrydig o Fforwm Ieuenctid y Clwstwr ac mae’n chwarae rhan ymarferol ac ymroddgar yng ngwaith y fforwm. Mae e’n treulio’i nosweithiau a’i benwythnosau yn trefnu achlysuron codi arian yng Nghanolfan Gymunedol Rhydfelen ac mae’n trefnu sesiynau bingo wythnosol yno ar gyfer yr henoed. Matthew yw Ysgrifennydd Pwyllgor Ieuenctid Cymdeithas Trigolion Glyn-taf, a thrwy hynny mae’n helpu i drefnu gweithgareddau fel golchi ceir, casglu sbwriel a gwaith amgylcheddol.

Y Cynghorydd Eudine Hanagan, yr Aelod o Gabinet y Cyngor ar faterion Addysg, Sgiliau a Dysgu gydol Oes gyflwynodd y gwobrau eleni ac esboniodd,

“Mae Matthew yn angerddol am ei waith ieuenctid ac mae ei gefnogaeth i waith y Gweithiwr Ieuenctid Datgysylltiedig yn ei gymuned yn dangos pa mor barod yw e i helpu bob amser. Heb os nac oni bai, mae gan Matthew ddyfodol disglair o’i flaen fel gweithiwr ieuenctid yn ei hawl ei hun.

“Mae ei waith gwirfoddol gyda phobl o bob oedran yn y gymuned yn esiampl i ni i gyd. Mae’n ŵr ifanc hollol ysbrydoledig.”

Dywedodd Louise Cook, Pennaeth y Gwasanaethau ar gyfer Pobl Ifanc, “Mae ymrwymiad parhaus i gynorthwyo gwasanaethau ieuenctid a chymunedol allweddol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cyflawni eu potensial fel dinasyddion gweithgar a llwyddiannus. Mae hyn yn gwireddu delfrydau Ymestyn Hawliau ar gyfer pobl ifanc ar draws Rhondda Cynon Taf a Chymru.

“Mae’r Gwobrau Ieuenctid yn dathlu ac yn hyrwyddo llwyddiannau bendigedig y bobl ifanc sy’n dod i gysylltiad â’r ddarpariaeth ieuenctid ar draws Rhondda Cynon Taf. Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd y rhestr fer ac i’r holl enillwyr.”

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer pobl ifanc ar draws y Fwrdeistref Sirol, ewch i www.wicid.tv neu ffoniwch 01443 744000.