Cadw plant Rhydfelen yn ddiogel yn ystod gwaith adeiladu

Cyflwynwyd: Dydd Mawrth 24th Gorffennaf 2012
Glyntaf-Primary

Ysgol Gynradd Glyntaf

Mae plant Rhydfelen wedi bod yn dysgu sut i gadw’n ddiogel o gwmpas safleoedd adeiladu yn rhan o’r Cynllun Lliniaru Llifogydd £3m yn yr ardal.

Er mwyn cadw’r plant sy’n byw yn yr ardal yn ddiogel yn ystod y gwaith hanfodol, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a’i bartner adeiladu, Costain, wedi bod yn ymweld ag ysgolion yr ardal er wyn tynnu eu sylw at beryglon chwarae yn ymyl safleoedd adeiladu.  

Bydd rhyw 300 o gartrefi yn ardal Rhydfelen yn elwa ar y cynllun a fydd helpu i’w hamddiffyn rhag llifogydd.

Diolch i gymorth Grant Rheoli Perygl Llifogydd Llywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop a Chyngor Rhondda Cynon Taf, mae’r cynllun ar y gweill i geisio datrys yr hen broblem o lifogydd ar Ystâd Fferm Glyn-taf ac yn ardal Sycamore Street, Dynea Close, Oak Street a rhan o lwybr seiclo Taith Taf. Ers 1993, mae rhyw 100 o gartrefi wedi dioddef llifogydd, gyda llawer iawn mwy yn agos atynt.

Mae’r Cyngor yn amcangyfrif bod llifogydd yn digwydd tua unwaith bob pedair blynedd ar gyfartaledd, a bu’r dilyw diwethaf yn yr ardal 2009.

Mae’r project sgiliau adeiladu ar gyfer ysgolion yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i weithio gyda thrigolion o bob oedran er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn rhan o’r cynllun buddiol hwn.

Roedd y sgyrsiau ar ddiogelwch safleoedd adeiladu yn cynnwys cystadlaethau lliwio ‘Doodleflag’ mewn dwy ysgol yn Rhydfelen – sef Ysgol Gynradd Heol y Celyn ac Ysgol Fabanod Gymunedol Glyn-taf. Roedd hyn yn rhoi cyfle i’r bobl ifanc drafod beth roedden nhw wedi ei ddysgu a’i arddangos ar y baneri i bawb ei weld.  

Mae’r project, sy’n cael ei gyflawni ar ystâd tai Glyn-taf ac yn agos â llwybr Taith Taf a mannau chwarae eraill, yn defnyddio technegau draenio cynaliadwy. Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio llynnoedd wyneb, addasu a disodli cwlfertau, creu systemau gorlif, llwybro dŵr dilyw a thanciau storio dŵr storm er mwyn gwella’r ffordd y mae’r dŵr wyneb yn cael ei reoli.

Aeth y Cynghorwyr lleol Maureen Webber a Teresa Bates i’r ysgolion i ddewis enillwyr y gystadleuaeth lliwio “Doodleflag” ac i gyflwyno setiau celf creadigol anferth i’r enillwyr cynhyrfus a greodd y baneri lliw gorau. Yr enillwyr oedd; Phoebe Jones, 7 oed a Leah Sayer, 5 oed o Ysgol Fabanod Gymunedol Glyn Taf, a Rhianydd Crockford, 5 oed a Joshua Vining, 7 oed o Ysgol Gynradd Heol y Celyn.

Dywedodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Gwasanaethau’r Rheng-flaen: “Mae’r rhan yma o Rydfelen wedi bod yn dioddef llifogydd ers blynyddoedd lawer ac rydw i wrth fy modd bod y project i geisio lleihau’r risg yn dod yn ei flaen mor dda. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael gweld yr holl welliannau i’r ardal a fydd yn dod yn sgil y cynllun hwn.  

“Fel Cyngor, rydyn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i roi’r cynllun lliniaru llifogydd helaeth hwn ar waith ar ran y pentref, ac yn gobeithio y bydd y trigolion yn amyneddgar â ni yn ystod y gwaith a fydd yn digwydd yng nghyffiniau eu cartrefi.”

“Mae hi’n hyfryd gweld y bobl ifanc o’r ysgolion cyfagos yn cael chwarae rhan ymarferol yn y project. Mae hi’n hanfodol eu bod nhw’n cofio beth maen nhw wedi ei ddysgu yn ystod y sesiynau Adeiladu pwysig hyn, er mwyn iddynt gadw’n ddiogel wrth chwarae yn yr ardal. 

 “Mae’r perygl o lifogydd lleol yn dal i fod yn broblem yn ystod y gwaith, ac mae carfan y project yn dal ati i weithio gyda’n partneriaid yng nghwmni Tai Newydd, cartrefi RhCT a charfanau Rheoli Gwastraff a Gofalu am y Strydoedd y Cyngor er mwyn lleihau’r perygl hwnnw.

“Fodd bynnag, mae’r perygl o lifogydd yn cynyddu’n sylweddol pan fo sbwriel yn cael ei adael yn anghyfreithlon yn y nentydd a’r cwlfertau. Rydyn ni’n gofyn felly bod y cyhoedd yn gwaredu eu gwastraff trwy ddulliau swyddogol a chyfreithlon.

Dywedodd Brian Greaves, Rheolwr Cysylltiadau Cymunedol Costain, “Ar gychwyn y project hwn, roedden ni’n gwybod bod yna beryglon posibl am fod cynifer o blant yn byw ac yn chwarae yn agos at y safle adeiladu ar yr ystâd tai, felly roedd hi’n bwysig codi ymwybyddiaeth am y risg. Cawsom ni gefnogaeth wych gan yr ysgolion, y cynghorwyr lleol a’r garfan plismona. Mae’n falch gen i ddweud bod y plant lleol i’w gweld wir yn gwrando ar ein rhybuddion.”

Mae crynodeb o’r gwaith o dan y cynllun ar gael ar wefan y Cyngor – www.rctcbc.gov.uk|  

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ffoniwch 01443 827700.