Cymoni'r gymuned

Cyflwynwyd: Dydd Mawrth 24th Gorffennaf 2012
Bryncelynog-Community-Make-Over-12

Mae disgyblion yn gwneud eu rhan mewn cyfres o brosiectau amgylcheddol yn Rhondda Cynon Taf

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr lleol mewn ymdrech i lanhau rhannau o’r Fwrdeistref Sirol.

Roedd disgyblion Ysgol Gyfun Bryn Celynnog, Beddau, yn awyddus i greu amgylchedd mwy glân at yr haf, ac aethon nhw ati i weithio gyda’r Cyngor i dwtio’r strydoedd.

Cyflawnodd y disgyblion bum project amgylcheddol pwysig, gan gynnwys peintio’r ystafelloedd newid yn Heol Seward, Beddau, a gwneud gwaith chwynnu a chasglu sbwriel yn yr ardal.

Bu’r disgyblion ac aelodau carfan Gofalu am y Strydoedd y Cyngor wrthi'n gwneud gwaith chwynnu a phlannu ac yn cymoni'r ardal o gwmpas Canolfan Ymwelwyr Seidins y Barri, Trehafod.

Cafodd maes Chwarae Gwaunruperra, Llantrisant, ei gymoni’n barod at yr haf hefyd - cafodd y giatiau a’r biniau eu peintio, a chafodd yr ardal ei chwynnu a’i olchi â chwistrell ddŵr.

Ar ben hynny, helpodd y gweithwyr amgylcheddol i adeiladu gwâl ar gyfer dyfrgwn a blychau adar yng Ngwarchodfa Natur Bryn Celynnog.

Dywedodd yr Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Sgiliau a Dysgu Gydol Oes, y Cynghorydd Eudine Hanagan: “Mae pobl ifanc Ysgol Gyfun Bryn Celynnog wedi dangos eu bod wir yn gofidio am yr amgylchedd lle maen nhw’n byw, yn cymdeithasu ac yn mynd i’r ysgol.

“Yn ogystal â gwella’r ardal, mae eu gwaith wedi eu helpu nhw i ennill cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Hoffwn ganmol eu hymdrechion ac mae’r bobl leol am ddiolch iddyn nhw am eu holl waith caled.

“Roedd hi’n dipyn o dasg i’r myfyrwyr, ond llaesodd pob un eu dwylo a mynd ati i chwynnu, peintio, palu a golchi mewn ymgais i greu cymuned lân a diogel.”

Mae gofyn i ddisgyblion Ysgol Gyfun Bryn Celynnog sy’n astudio ar gyfer y Fagloriaeth Gymreig gyflawni 20 awr o waith yn y gymuned er mwyn ennill y cymhwyster.

Dywedodd y Pennaeth, Debra Baldock: “Roedd ein hysgol wrth ei bodd i gael cydweithio’n agos â Chyngor Rhondda Cynon Taf ar y projectau cymunedol. Yn ogystal â helpu’r disgyblion â’u hastudiaethau academaidd, cawsant effaith aruthrol ar yr amgylchedd lleol.”