Plac Glas i Anrhydeddu Cerddor o'r Rhondda

Cyflwynwyd: Dydd Mawrth 10th Gorffennaf 2012
Blue Plaque Eos Dar 1

Dadorchuddiodd y Maer Gynghorydd Doug Williams y plac

Bu unwaith yn aelod o ‘Glee’, ond nid yr un yr ydym yn gyfarwydd ag e, ac erbyn hyn mae mab enwog cerddorol Cwm Rhondda wedi’i ddathlu gyda Phlac Glas mawreddog oddi wrth Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Dadorchuddiodd y Maer Gynghorydd Doug Williams y Plac Glas yn dathlu bywyd Daniel ‘Eos Dar’ Evans yng nghyn-gartref y cerddor yn Station Terrace, y Maerdy.

Ganwyd Daniel ‘Eos Dar’ Evans yng Nghaerfyrddin yn 1846 ond symudodd i Aberdâr ac, ar ôl gweithio mewn pwll glo’n wyth oed ac yna ymuno â chôr wedi’i arwain gan Llew Llwyfo ac yna’r enwog Côr Caradog, daeth yn arweinydd Cymdeithas ‘Glee’ Aberdâr.

Yn 1876 symudodd i Faerdy i weithio fel weindiwr injan yn y pwll glo. Daeth yn godwr canu yng Nghapel Cynulleidfaol Siloa, y Maerdy, lle drefnodd sawl cantata i gôr y capel eu perfformio.

Arweiniodd gôr meibion Rhondda fach hefyd. Roedd yn ganwr ac yn aml yn rhan o seremonïau Gorsedd y Beirdd ac fel beirniad mewn eisteddfodau cenedlaethol. Rhoddwyd dwy ddarlith gyhoeddus boblogaidd ar y delyn a chanu i gyfeiliant y delyn ganddo’n aml trwy gydol de Cymru cyn iddo farw yn 1915.

Daniel “Eos Dar” yw’r diweddaraf ymysg rhes hir o drigolion a llefydd gwobrwyedig i dderbyn Plac Glas, wrth i Gyngor Rhondda Cynon Taf barhau gyda’r gwaith o godi proffil y Fwrdeistref Sirol drwy ddathlu ei hanes a’i dreftadaeth gyfoethog ac arbennig.

Rhai blynyddoedd yn ôl, gwahoddodd y Cyngor i drigolion enwebu eu heiconau yn Rhondda Cynon Taf, a arweiniodd at sefydlu 30 Plac Glas mewn rhaglen wedi’i hariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.

Roedd y cynllun yn gymaint o lwyddiant – y codi proffil ein hanes ymysg cymunedau ein hunain ac ymhellach – penderfynodd y Cyngor barhau ag ef, yn defnyddio buddsoddiad ei hunan.

Unwaith eto, mae trigolion wedi enwebu eu heiconau o wleidyddwyr blaenllaw a phostfeistri at bregethwyr capel, milwyr y Rhyfel Cartref yn Sbaen a hyd yn oed sylfaenydd y Rhyngrwyd!

Mae’r Placiau Glas a hanes unigryw Cwm Rhondda wedi dod mor boblogaidd nes bod y Cyngor wedi creu Llwybrau Treftadaeth diddorol, hawdd i’w cyrraedd y gallwch gerdded neu yrru arnynt, sy’n eich galluogi i gamu nôl mewn amser.

Ymwelwch â’r wefan i ddarganfod mwy ynghylch y llwybrau, llefydd i’w gweld, pethau i’w gwneud, llefydd i fwyta, Placiau Glas a mwy.

Dywedodd Maer Rhondda Cynon Taf y Cynghorydd Doug Williams: “Mae gosod y Placiau Glas dros y blynyddoedd nesaf yn galluogi trigolion ac ymwelwyr i ddathlu’r cyfoeth diwylliant a threftadaeth sydd ar gael.

“Heidiodd bobl dros Brydain, nad oeddent wedi bod i’r ardal cynt, i’r fwrdeistref sirol o achos y cynllun Plac Glas diwethaf ac fe fwynheuon nhw’n hanes, ein treftadaeth a’n diwylliant.

“Hoffwn ailadrodd hynny a diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r achlysuron ac sydd wedi enwebu eu heiconau.” 

Darganfyddwch mwy ar www.heritagetrailsrct.co.uk|