Cyflwynwyd: Dydd Mawrth 3rd Gorffennaf 2012

Mae rhaglenni gwyliau ysgol High 5 a Chwaraeon yw’r Unig Ffordd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig rhywbeth i bawb
Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf 11 canolfan hamdden a phob un ohonynt yn ceisio bwrw diflastod y gwyliau ysgol ar ei ben – dim ots beth yw’r tywydd!
Gall plant, pobl ifainc a rhieni gymryd rhan mewn amserlen orlawn rhad ac am ddim o weithgareddau cyffrous sy’n rhan o raglenni High 5 a Chwaraeon yw’r Unig Ffordd ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol.
Anelir y rhaglen haf hwylus hon o weithgareddau chwaraeon a hamdden at bob disgybl cynradd ac uwchradd yn Rhondda Cynon Taf – mae rhywbeth i bawb.
Bydd cynlluniau High 5 a Chwaraeon yw’r Unig Ffordd yn digwydd ymhob canolfan hamdden Cyngor Rhondda Cynon Taf ac yn cynnig rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau drwy gydol y chwe wythnos ym mis Gorffennaf ac Awst.
Mae hwyl a sbri’r rhaglen yn fodd perffaith o fwynhau’r gwyliau ysgol a bydd yn gyflwyniad delfrydol i’r hyn a gynigir yn holl ganolfannau hamdden Rhondda Cynon Taf sydd o fewn y Fwrdeistref Sirol.
Does dim amheuaeth y bydd cynlluniau High 5 a Chwaraeon yw’r Unig Ffordd yn boblogaidd ymysg rhai ifainc a’u rhieni a fydd am iddynt fod â digon i’w wneud dros y gwyliau haf.
Mae Hamdden am Oes yn ymgyrch lwyddiannus gan Gyngor Rhondda Cynon Taf sy’n ceisio tanio diddordeb pobl o bob oed i gadw’n heini er mwyn iddynt wella’u hiechyd a’u hapusrwydd.
Cymryd camau syml tuag at gael cadw’n heini’n rhan o fywyd bob dydd ac elwa o’r manteision iechyd ynghyd â cholli pwysau a gwella ffitrwydd – beth bynnag yw’ch gôl yw’r syniad.
Plymio, snorcelu, canŵio, polo dŵr, ffitrwydd dŵr, pêl-droed, trampolinio, pêl-fasged, rhedeg, rygbi, cylchrediadau (circuits) curiadau’r concrid (street beats), badminton, hoci, hyfforddiant dwys (boot camp), Plant Heini Zenith (Zenith Fit Kids), dawnsio stryd, rownderi, criced cyflym, gymnasteg, beicio awyr (aero biking), pêl-stryd (street ball), ultimate Frisbee, tenis bwrdd, pêl-rwyd a mwy - maent oll ar gael fel rhan o weithgareddau cynlluniau High 5 a Chwaraeon yw’r Unig Ffordd.
Mae hefyd ystod eang o weithgareddau NOFIO YN RHAD AC AM DDIM!
Nodwch y bydd cyfyngiadau oedran a disgwyl ichi archebu ymlaen llaw ar gyfer rhai o’r gweithgareddau a gynigir. Ni fydd goruchwylwyr mewn rhai dosbarthiadau tra bod sesiynau eraill yn rhai wedi’u strwythuro a’u harwain gan hyfforddwyr ac athrawon cymwys.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o’r Cabinet ar Faterion Datblygu Cynaliadwy, Hamdden a Thwristiaeth; “Rydym mor falch o’r rhaglen Helo Hwyl (High 5) a Chwaraeon I Mi (The Only Way is Sport) ac yn siŵr y bydd yn boblogaidd a llwyddiannus eto yn ystod gwyliau’r ysgol.
“Rydym yn deall y problemau all godi oherwydd gwyliau ysgol, o ran cadw plant yn iach ac yn brysur. Ond, does dim ots pa dywydd bydd cynlluniau High 5 a Chwaraeon yw’r Unig Ffordd yn cynnig gweithgareddau’n rhad ac am ddim i blant o bob oed a’u teuluoedd eu mwynhau.
“Gall bawb gymryd rhan, mwynhau ac efallai datblygu diddordeb hamdden newydd y gallant barhau â hi wedi’r gwyliau yn eu canolfan hamdden leol.”
Er mwyn cael mwy o wybodaeth ynglŷn â holl ddigwyddiadau a gweithgareddau cynlluniau High 5 a Chwaraeon yw’r Unig Ffordd Cyngor Rhondda Cynon Taf sydd ar gael, ewch i www.rctcbc.gov.uk/cy/hamddenadiwylliant| neu casglwch amserlen yn eich canolfan hamdden a phwll nofio lleol.