Cyflwynwyd: Dydd Gwener 25th Mai 2012

Y Cynghorydd Anthony Christopher gyda Chabinet 2012
Mae Arweinydd newydd Rhondda Cynon Taf wedi cael ei benodi’n swyddogol.
Cytunodd y cyn-ddirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Anthony Christopher i’r swydd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor. Ymrwymodd i gadw at addewidion a gafodd eu gwneud i bobl Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys diogelu gwasanaethau’r rheng flaen a swyddi lleol.
Meddai’r Cynghorydd “Mae’n fraint cael fy ethol yn Arweinydd y Cyngor er mwyn gallu cadw at yr addewidion roeson ni i bobl Rhondda Cynon Taf.
“Mae’n gyfnod anodd i’r sector gyhoeddus ac rydyn ni’n benderfynol o wneud ymdrech go iawn i ddiogelu swyddi a gwasanaethau’r rheng-flaen rhag toriadau’r llywodraeth.
“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol yn yr wyth mlynedd ddiwethaf drwy wella a buddsoddi yng ngwasanaethau’r rheng flaen. Rydw i’n hynod ddiolchgar i Russell Roberts am chwarae rhan bwysig yn natblygu Cyngor RhCT yn un o awdurdodau lleol gorau Cymru.
“Fel Arweinydd byddwn i’n sicrhau bydd y Cyngor yn amddiffyn gwasanaethau lleol ac yn gwneud ymdrech fawr i hybu cynnydd a swyddi”.
“Bydd ein rhaglen o lywodraethu yn cael ei chyhoeddi yn y misoedd nesaf ac yn pwysleisio bod gwasanaethau cyhoeddus lleol yn ddiogel yn ein gofal”.
“Yn ystod dirwasgiad dwbl mae’n bwysig defnyddio pob punt yn y sector gyhoeddus i sbarduno cynnydd lleol a chreu swyddi..
“Fel Arweinydd, rydw i’n edrych ymlaen at barhau i wella’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu a sicrhau ein bod ni’n adeiladu ar ein llwyddiant presennol.”
Mae Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol, Anthony Christopher yn cynrychioli adran etholiadol Gogledd Aberaman ac wedi bod yn Ddirprwy Arweinydd ar y Cyngor ers 2004.
Ganwyd Anthony Christopher yn Aberdâr ar y 1af o Fehefin 1946. Aeth i Ysgol Ramadeg Aberdâr i Fechgyn cyn mynychu Coleg Addysg Bellach Aberdâr. Cafodd swyddi fel dyn boeler a gosodwr offer.
Cafodd y Cynghorydd Christopher ei ethol gyntaf yn 1989. Mae e’n gyn-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a chyn-ddirprwy Arweinydd y Gwrth-bleidiau (1999-2004). Mae e wedi gwasanaethu o’r blaen fel Cyfarwyddwr di-weithredol Ymddiriedolaeth y GIG Gogledd Morgannwg, ac fel aelod o’r WLGA. Mae’r Cynghorydd Anthony Christopher wedi bod yn allweddol ynglŷn â datblygu dulliau gwastraff ac ailgylchu’r Cyngor, a sicrhau bod yr amgylchedd lleol yn cael ei gadw’n lân.
Mae e wedi penodi Cabinet a fydd yn gweithio i ddiogelu swyddi a gwasanaethau lleol.
Dywedodd: “Heddiw rydw i wedi cyhoeddi Cabinet y Cyngor, grŵp a fydd yn gefn i fi a’r Dirprwy, y Cynghorydd Paul Cannon wrth i ni adeiladu ar ein llwyddiant o wella gwasanaethau yn yr wyth mlynedd diwethaf.
“Rydw i wedi dewis grŵp cryf i arwain ein hagenda i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a swyddi lleol. O ganlyniad i doriadau llywodraeth y DU yng Nghymru, rydyn ni’n wynebu cyfnod anodd i lywodraeth leol a’r sector gyhoeddus.
“Bydd y Cabinet yn sicrhau bod gwasanaethau RhCT yn cael eu diogelu yn effeithiol a’n bod ni’n parhau i wella gwasanaethau hanfodol i bobl leol”.
Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf:
-
Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Cabinet – Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Anthony Christopher
-
Dirprwy Arweinydd ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu'r Economi a Chymunedau Diogel - Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Paul Cannon QPM
-
Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Rheng-flaen – Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Andrew Morgan
-
Aelod o'r Cabinet ar faterion Adnoddau Dynol a Gwella Gwasanaethau - Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Clayton Willis
-
Aelod o’r cabinet ar faterion Addysg, Medrau a Dysgu Gydol Oes - Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Eudine Hanagan
-
Aelod o'r Cabinet ar faterion Partneriaethau a Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion – Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Mike Forey
-
Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor a Chysylltiadau Cyhoeddus – Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Maureen Webber
-
Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu Cynaliadwy, Hamdden a Thwristiaeth – Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Robert Bevan
-
Aelod o'r Cabinet ar faterion Cyfiawnder Cymdeithasol a Gofal i Gwsmeriaid – Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Craig Middle
-
Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant – Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Annette Davies