Cyflwynwyd: Dydd Gwener 8th Mehefin 2012

Uned Gwasanaethau Cymraeg y Cyngor a dysgwyr Cymraeg yn sesiwn boblogaidd y llyfrgell
“Shw mae”, “Bonjour”, “Guten Tag”, “hola”!
Mae cyfle gyda thrigolion Rhondda Cynon Taf i ddysgu iaith newydd mewn ffordd hawdd, syml a chyflym, diolch i Wasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor.
Mae’r Cyngor yn cynnig gwasanaeth effeithiol ac atyniadol ‘Transparent Language Online’ rhad ac am ddim i bob aelod llyfrgell.
Defnyddiwyd y cyfleuster ar-lein gan ysgolion, colegau a hyd yn oed y llywodraeth a Môr-filwyr yr UD fel ffordd gyflym a hwylus i ddysgu iaith newydd.
Mae’r gwersi ar-lein yn darparu cymorth ynganu, lleferydd, gramadeg, ysgrifennu ac adeiladu geirfa mewn dros 80 o ieithoedd. Mae’n becyn gwych i ddefnyddwyr y llyfrgell gyda gwaith cwrs ac adnoddau cyfryngau cymdeithasol helaeth ar gael i’w defnyddio.
Mae’n cynnwys cyrsiau hanfodol i ddechreuwyr, geiriau a brawddegau allweddol i’r rheiny gyda phrinder amser, a rhaglenni/pecynnau dysgu iaith i’w defnyddio ar ffonau clyfar a mwy.
Cafodd y cyfleuster ei gyflwyno ym mhob llyfrgell ym mis Mai fel rhan o Wythnos Addysg i Oedolion. Darparwyd sesiynau blasu’r Gymraeg gan Gyngor Rhondda Cynon Taf i gyd-fynd â’r achlysur.
Fel rhan o Wythnos Addysg i Oedolion, profodd y Cyngor unwaith eto fod dim rhaid llafurio dros lyfrau i ddysgu’n effeithiol. Diolch i Uned Gwasanaethau Cymraeg y Cyngor, darparwyd sesiynau difyr a hwylus blasu’r Gymraeg i bobl y gymuned yn llyfrgelloedd y Maerdy a Rhydfelen.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o’r Cabinet ar faterion Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth “Dyma’r adeg orau i ymuno â’ch llyfrgell leol i brofi eu gwasanaethau difyr am ddim.
“Mae’r llyfrau diweddaraf ar gael i’w mwynhau yn yr ardd gyda’r haf, ffilmiau cyffrous i’r teulu i’w mwynhau ar y penwythnos, llyfrau i’w lawrlwytho ar gyfer eich gwyliau, a’r cyfle i ddysgu iaith newydd! A’r cyfan am ddim!
“Mae hefyd ymchwil helaeth a deunyddiau adolygu ar gael sy’n ddefnyddiol iawn yng nghyfnod arholiadau TGAU a LEFEL A, yn ogystal â llyfrau print mawr, defnydd o’r we, achlysuron gwyliau’r ysgol a llawer mwy.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i’ch llyfrgell leol.