Rhaid cael meistrolaeth i feicio ar hyd y ffordd ac mae Prawf Beicio Cenedlaethol RoSPA yn gymorth yn hyn o beth. Yn amlach na pheidio, mae’r ysgolion gyda chymorth gweinyddol awdurdodau lleol gwledydd Prydain, yn cynnig yr hyfforddiant yma‘n rhad ac am ddim i blant dros 9 oed.
Yn ogystal â hynny, mae rhai awdurdodau lleol yn cynnig hyfforddiant i oedolion – efallai bydd Swyddog Diogelwch y Ffyrdd neu Swyddog Beicio yn fan dechrau da. Mae manylion cyswllt carfan diogelwch y ffyrdd Rhondda Cynon Taf wedi’u nodi uchod.
Mae’r Prawf Beicio Cenedlaethol yn gymorth i ddatblygu medrau arsylwi a hydrinedd, yn cyflwyno Rheolau’r Ffordd Fawr ar gyfer Defnyddwyr Ifainc y Ffyrdd, dysgu pwysigrwydd cynnal a chadw beiciau ac ymwybyddiaeth am beryglon, a chyflwyno gwybodaeth a chyngor ar wisgo dillad llachar a helmed i gadw’n ddiogel.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffôn: 01443 490730
Ffacs: 01443 494888
Ebost: roadsafety@rhondda-cynon-taff.gov.uk|