Ar gyfartaledd, mae 10 o bobl yn marw a 100 o bobl yn cael eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Prydain Fawr bob dydd.
Mae dwy ran o dair o wrthdrawiadau lle mae pobl yn cael eu lladd neu eu hanafu yn digwydd ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 30mya neu lai. Ar 35mya mae gyrrwr ddwywaith yn fwy tebygol o ladd rhywun nag y byddent ar 30mya.
-
o gael eu taro gan gar ar 40mya, bydd 9 allan o 10 o gerddwyr yn cael eu lladd
-
o gael eu taro gan gar ar 30mya, bydd tua 50 y cant o gerddwyr yn byw
-
o gael ei daro gan gar ar 20mya, dim ond 1 o bob 10 o gerddwyr fydd yn cael ei ladd
Mae’r perygl o ddamwain yn codi y cyflymaf y mae’r gyrrwr yn teithio. Ar 25 y cant uwchlaw’r cyflymder cyfartalog, mae gyrrwr tua chwe gwaith yn fwy tebygol o gael damwain na gyrrwr sy’n teithio ar y cyflymder cyfartalog.
Ar 30mya, mae cerbydau yn teithio 44 o droedfeddi (tua hyd dri char) bob eiliad. Hyd yn oed mewn amodau da, mae’r gwahaniaeth mewn pellter aros rhwng 30mya a 35mya yn 21 troedfedd ychwanegol – mwy na hyd ddau gar.
Camerâu
Diben camerâu diogelwch yw newid ymddygiad gyrwyr – dim ond mewn safleoedd lle mae hanes o ddamweiniau a achosodd anafiadau a lle mae pobl yn torri’r terfyn cyflymder y cânt eu defnyddio. Pan fydd hyn yn digwydd mae camera yn canfod y drosedd ac yn darparu tystiolaeth ar gyfer hysbysiad cosb benodedig.
Mae gyrwyr sy’n eu cael yn euog o fynd y tu hwnt i’r terfynau cyflymder cyfreithiol yn cael isafswm cosb o £60 a thri phwynt cosb ar eu trwydded yrru.
Mae wedi cael ei brofi’n genedlaethol bod camerâu diogelwch yn lleihau nifer y gwrthdrawiadau ar y ffordd ac yn amddiffyn defnyddwyr y ffordd trwy annog pobl i yrru’n arafach.
Yn 2000, sefydlwyd wyth partneriaeth camerâu ym Mhrydain Fawr. Roedd rhanbarth De Cymru, yn cynnwys Rhondda Cynon Taf yn un o’r partneriaethau peilot.
Ym Mlwyddyn Un y peilot cafodd 47 y cant yn llai o bobl eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar safleoedd camerâu diogelwch, a chafwyd 35 y cant yn llai o wrthdrawiadau a gostyngiad o 18 y cant mewn anafiadau ar draws yr ardal.
Dangosodd canlyniadau blwyddyn dau ostyngiad o 35 y cant yn nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y ffyrdd mewn lleoliadau camerâu, a gostyngiad o 56 y cant yn nifer yr anafiadau ymysg cerddwyr yn yr un safleoedd. Cafwyd gostyngiad o 10 y cant mewn cyflymder ar gyfartaledd yn yr ardaloedd a gafodd eu monitro.
Ceir crynodeb o’r gostyngiad cyffredinol mewn cyflymder a damweiniau mewn lleoliadau camerâu yn Rhondda Cynon Taf a De Cymru yn y tablau isod. Hefyd ceir rhestr o leoliadau camerâu.
Lleoliadau Camerâu Diogelwch Sefydlog
-
A4119, Y Groes-faen
-
Aberdare Road, Aberpennar
-
Baglan Street, Treherbert
-
Berw Road, Pontypridd
-
Brithweunydd Road, Trealaw
-
Caerphilly Road, Nantgarw
-
Cardiff Road, Y Ddraenen Wen
-
Cardiff Road, Ffynnon Taf
-
Cemetery Road, Y Porth
-
Cowbridge Road, Tonysguboriau
-
East Road, Tylorstown
-
Excelsior Terrace, Y Maerdy
-
Gilfach Road, Tonyrefail
-
Gyfeillon Road, Trehopcyn
-
Glyncoch Terrace, Glyn-coch
-
Llewellyn Street, Y Pentre
-
Hirwaun Road, Hirwaun
-
Hirwaun Road, Trecynon
-
Merthyr Road, Llwydcoed
-
Nant-y-Gwyddon Road (30 mya), Y Gelli
-
Nant-y-Gwyddon Road (40 mya), Y Gelli
-
Penrhys Road, Ystrad Rhondda
-
St Illtyd’s Road, Pentre’r Eglwys
-
Tylacelyn Road, Pen-y-graig
-
Ynyshir Road, (Wattstown i Ynys-hir)
-
Ystrad Road, Ystrad Rhondda
Lleoliadau Camerâu Symudol Presennol
-
A4119 (50 mya), Mwyndy
-
Abercynon Road, Abercynon
-
Bridgend Road, Llanharan
-
Broadway, Pontypridd
-
Brynna Road, Brynna
-
Brynna Road, Llanharan
-
Brynteg Hill, Y Beddau
-
Bute Street, Treherbert
-
Cardiff Road (wrth ymyl y gyffordd â Wind Street), Aberaman
-
Cardiff Road, Glan-bad
-
Church Road, Ton-teg
-
Cilfynydd Road, Cilfynydd
-
Clydach Terrace, Ynys-y-bŵl
-
Cowbridge Road, Brynsadler
-
Cowbridge Road, Brynsadler
-
Cowbridge Road, Pont-y-clun
-
Cross Inn Road, Llantrisant
-
Dinas Road, Dinas
-
Gelli Industrial Estate, Y Gelli
-
Gelli Road, Y Gelli
-
Gilfach Road, Hendreforgan
-
Gilfach Road, Tonyrefail
-
Gwaunmiskin Road, Y Beddau
-
High St. / Llanwonno Rd, Aberpennar
-
Hopkinstown Road, Trehopcyn
-
Main Road, Pentre’r Eglwys
-
Maindy Road, Tonpentre
-
New Road, Aberpennar
-
New Road, Ynys-y-bŵl
-
Oxford St / Miskin Rd, Aberpennar
-
Oxford Street, Nantgarw
-
Park View Terrace, Abercwmboi
-
Penderyn Road, Penderyn
-
Penrhiwceiber Road, Penrhiw-ceibr
-
Penrhiwfer Road, Tonyrefail
-
Pentrebach Road, Pontypridd
-
Station Rd / Heol-y-Parc, Pentre’r Eglwys
-
The Parade, Tonpentre
-
Tonteg Road, Ton-teg
-
Vaughan Terrace / Rheola Street, Penrhiw-ceibr
-
William Street / Southall Street, Brynna
Cysylltu â ni
Ffôn: 01443 494777
Ffacs: 01443 434812
E-bost:
customerservices@rhondda-cynon-taf.gov.uk|