Ffyrdd a Phriffyrdd – cyfyngiadau ar gyflymdra

Gwasanaethau Amgylcheddol

esgtraffic@rhondda-cynon-taff.gov.uk|

Ffôn: 01443494777
Ffacs: 01443434812

Mae cyflymder yn ffactor arwyddocaol mewn tua thraean o ddamweiniau ffyrdd yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd trefol, lle gall cerbydau sy’n mynd yn rhy gyflym gael effaith andwyol ar ansawdd bywyd llawer o gymunedau.

Cyflwynir terfynau cyflymder er mwyn sicrhau gwell diogelwch ar y ffyrdd. Mae mesurau ar gyfer dylanwadu ar gyflymder cerbydau fel arfer yn dod o fewn dau gategori, sef deddfwriaethol a ffisegol. Daw terfynau cyflymder o fewn y categori cyntaf ac mae dyfeisiau gostegu traffig yn dod o fewn yr ail.

Rhoddir gwybodaeth gynhwysfawr ar y terfynau cyflymder y byddech yn disgwyl dod ar eu traws ar gategorïau ffyrdd gwahanol ar ffurf siart yn yr Highway Code.

Sut gallaf geisio lleihau, codi neu ymestyn terfyn cyflymder?

Os hoffech leihau, codi neu ymestyn terfyn cyflymder, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion uchod. Caiff eich cais ei asesu. Mae barn yr heddlu ar newid terfyn cyflymder yn bwysig a gofynnir amdani. Dylid hefyd ystyried nodweddion y ffordd, fel ei haliniad, lefel y gweithgarwch ar hyd y ffordd, y cofnod damweiniau a graddau’r tor-cysylltiad y mae cyflymder cerbydau’n ei achosi i gymuned.

Mewn ardaloedd trefol, dylai terfynau cyflymder ddod o fewn hierarchaeth resymegol, hawdd ei deall er mwyn i yrwyr allu glynu wrthynt. Cyn penderfynu newid terfyn cyflymder sydd eisoes yn bodoli mae’n rhaid i’r Awdurdod Priffyrdd ystyried yr holl ffactorau perthnasol fel:

  • arbedion disgwyliedig o ran damweiniau.
  • gwelliannau i’r amgylchedd.
  • gwelliannau i amwynderau.
  • gostwng pryder ymysg y cyhoedd.
  • cyfleusterau gwella ar gyfer defnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed.
  • oedi o ran traffig.
  • costau gweithredu.
  • costau mesurau peirianneg a’u cynnal a’u cadw.
  • costau atgyfnerthu, yn enwedig lle mae gyrwyr yn ystyried bod y terfyn cyflymder yn afresymol.

Os ystyrir bod sail i newid y terfyn cyflymder yna mae’n rhaid rhoi Gorchymyn Terfyn Cyflymder. Mae hyn yn cynnwys proses gyfreithiol statudol sy’n cymryd tua 9 mis i’w chwblhau.

Os ydych yn dymuno hysbysu ynghylch arwydd terfyn cyflymder sy’n wedi ei fandaleiddio / sydd ar goll, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion uchod.

Os oes gan y ffordd berthnasol system o oleuadau stryd arni heb unrhyw arwyddion ailadrodd terfyn cyflymder, mae’r ffordd eisoes yn destun terfyn 30mya ac yn unol â hynny nid oes hawl gan yr Awdurdod Priffyrdd roi arwyddion ailadrodd terfyn 30mya arni. Dylai system o oleuadau stryd mewn ardal adeiledig fod yn dystiolaeth ddigonol o derfyn 30mya.