Diogelwch Ffyrdd - Gyrwyr

Mae Sophie Evans, seren y West End o Rondda Cynon Taf a hithau’n dysgu gyrru, wedi cymryd seibiant o’i phrif ran ar y llwyfan yn Llundain i atgoffa gyrwyr ifainc i beidio â defnyddio eu ffonau wrth yrru.

Ar hyn o bryd, mae Sophie o Donypandy yn chwarae rhan Dorothy yn y sioe ardderchog The Wizard of Oz, sydd wedi cael ei haddasu gan Andrew Lloyd-Webber.

Pan nad yw hi ar y llwyfan, mae hi tu ôl i’r olwyn ar gyfer bod yn yrrwr.

Mae Uned Diogelwch Ffyrdd Rhondda Cynon Taf yn wynebu problem gyda phobl ifainc sy’n mynnu defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru. 

Felly, maen nhw’n ddiolchgar bod Sophie wedi cytuno cefnogi’r ymgyrch "diffodd y ffôn cyn mynd ar y lôn".

Mae gyrru yn gofyn am ganolbwyntio dwys, ond yn fwy na dim mae hi’n erbyn y gyfraith i ffonio neu anfon neges destun wrth yrru.

Os ydych chi’n cael damwain ffordd, mae’r heddlu yn gallu defnyddio rhwydweithiau i ddweud os oeddech chi’n siarad ar y ffôn ar y pryd neu os daeth neges destun drwyddo i’ch ffôn yn arwain at y ddamwain/digwyddiad.

Mae gyrru esgeulus heb ofal ac ystyriaeth yn beryglus ac yn gallu arwain at gosb, pwyntiau ar eich trwydded neu hyd yn oed cael eich gwahardd.

Er mwyn aros yn ddiogel ar y ffordd, y peth symlaf i wneud yw diffodd eich ffôn.

Yn ogystal â’r ymgyrch bwysig yma, mae Uned Diogelwch y Ffyrdd yn cynnig cyfres o gyrsiau a sesiynau i yrwyr o bob oedran er mwyn gwella a chynnal eu sgiliau. Ceir rhagor o wybodaeth isod:

Mega Drive (Cyn bod yn yrwyr)

Mae Megadrive ar gael i fyfyrwyr sy’n bwriadu cymryd eu prawf gyrru cyn bo hir ac efallai sy’n anymwybodol o’r peryglon sy’n gallu codi wrth yrru ar ffyrdd Prydeinig.

Mae myfyrwyr Megadrive yn ymweld â “gweithfannau rhyngweithiol” mewn grwpiau bychain er mwyn dysgu am reolau hanfodol gyrru. Er enghraifft:

    • Ymwybyddiaeth o beryglon.
    • Dogfennau hanfodol.
    • Yr hyn sy'n achosi damweiniau car.
    • Effeithiau a goblygiadau yfed a chyffuriau.
    • Prynu car newydd neu ail law.
    • Sut i ymateb ar ôl damwain car

PassPlus (17 – 25 Oed)

Eich cyfrifoldeb chi yw gyrru – Llywiwch eich ffordd at ddod yn yrrwr gwell. Hwyrach y bydd cwrs Pass Plus Cymru yn eich rhoi chi ar ben ffordd. Mae Pass Plus Cymru yn gwrs gyrru uwch sy’n datblygu medrau gyrru pobl ifainc yn gyflym ac yn ehangu ar eu profiadau. Mae’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. 

Ydych chi wedi pasio eich prawf gyrru?   Dyma'r manteision...

   …Ehangwch ar eich technegau gyrru am £20 yn unig …does dim prawf!

Byddwch chi’n dysgu:

      • Sut i yrru ar draffordd 
      • Technegau gyrru ac ymwybyddiaeth o beryglon
      • Teithio gyda’r nos
      • Delio â threfi a dinasoedd prysur
      • Gyrru ar ffyrdd cefn gwlad Meddwl ymlaen – fel rydych chi’n gwneud ar hyn o bryd

A beth sy'n dod i'ch rhan chi?

    • Medrau gyrru gwell
    • Cael yswiriant am bris rhatach, o bosibl*
    • Posibilrwydd llai y byddwch chi'n cael damwain, neu anafu eich hun, ffrindiau a phobl eraill

I gadw lle ar gwrs PassPlus ffoniwch 01443 844037

 *Drwy wella eich sgiliau a gwybodaeth gyrru ac ymwybyddiaeth o beryglon, gallwch leihau’r risg o ddamwain car. Bydd hyn yn cyfrannu at gael gostyngiad yn eich pris yswiriant gyda sawl cwmni yswiriant|

Gyrwyr Hŷn (Dros 50 oed)

Mae’r rhaglen yma ar gyfer gyrwyr dros 50 oed sydd wedi cael 20 mlynedd neu ragor o brofiad gyrru.

Yn ystod y rhaglen, bydd gyrwyr yn;

    • Dysgu sgiliau moduro allweddol a chyffredin, lleihau cost trwsio modur ac arbed tanwydd.
    • Gyrru yng gnhwmni hyfforddwr gyrru cymeradwy.
    • Defnyddio peiriant efelychu cyfrifiadurol ar gyfer gyrru.
    • Gwylio Sesiwn Rheolau’r Ffordd Fawr cyfrifiadurol.
    • Golwg ar Gymorth Cyntaf.
    • Derbyn cyngor gwerthfawr ar faterion Diogelwch y Ffordd gan Heddlu De Cymru. Derbyn cyngor a gwybodaeth hanfodol ar faterion gyrru'n economaidd (Eco-yrru), materion cynnal a chadw cerbydau, a gyrru adeg y gaeaf
Dolen gyswllt ar gyfer gwybodaeth ynglŷn â materion diogelwch y ffyrdd
 Ffôn  01443 844037
Ebost DiogelwchyFfyrdd@rhondda-cynon-taf.gov.uk| 
 Post

Uned Materion Diogelwlch y Ffyrdd
Y Parth Diogelwch - Uned B7
Taffs Mead Road
Trefforest
CF37 5SU



 

Cysylltau defnyddiol