-
Beth yw ‘gollwng deunydd ar y ffordd’?
-
Sut mae’r Cyngor yn delio â deunyddiau sydd wedi’u gollwng ar ffyrdd?
-
Sut mae adrodd am ddeunyddiau sydd wedi’u gollwng ar ffyrdd?
-
Cysylltwch â ni
Beth yw ‘gollwng deunydd ar y ffordd’?
Gan amlaf, olew, petrol neu ddiesel yw’r deunyddiau sy’n cael eu gollwng ar ffyrdd, ac fel arfer byddan nhw’n cael eu gollwng oherwydd damwain ffordd. Mae mathau eraill o ddeunyddiau sy’n cael eu gollwng ar ffyrdd yn cynnwys tywod, graean neu bridd sy’n cwympo oddi ar lorïau neu eitemau sy’n cwympo oddi ar lwyth simsan sy’n cael ei symud.
Mae deunyddiau sy’n cael eu gollwng ar ffyrdd yn beryglus a gallan nhw arwain at ragor o ddamweiniau. Mae’n bwysig, felly, bod y deunyddiau’n cael eu clirio oddi ar y ffordd cyn gynted â phosibl.
Sut mae’r Cyngor yn delio â deunyddiau sydd wedi’u gollwng ar ffyrdd?
Bydd ein carfanau Glanhau a Phriffyrdd yn ymateb i alwadau gan yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân os bydd damwain ffordd, a byddan nhw’n clirio unrhyw ddeunyddiau sydd wedi’u gollwng ar y ffordd cyn gynted â phosibl.
Fel arfer, bydd y Cyngor yn delio ag unrhyw ddeunyddiau ffisegol fel tywod, mwd, graean, paent ac ati a bydd y Gwasanaeth Tân yn delio â deunyddiau cemegol sydd wedi’u gollwng, fel olew, petrol, diesel ac ati.
Sut mae adrodd am ddeunyddiau sydd wedi’u gollwng ar ffyrdd?
Os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw ddeunyddiau wedi’u gollwng ar briffyrdd Rhondda Cynon Taf, dywedwch wrthon ni ar unwaith drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl, ond gwnewch yn siŵr y gallwch chi wneud hynny’n ddiogel ac yn gyfreithlon. Cofiwch, mae’n anghyfreithlon i ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru.
Dywedwch wrthon ni os oes gyda chi unrhyw wybodaeth am berson sydd wedi achosi i ddeunyddiau ollwng ar ffordd.
Cysylltwch â ni
Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd
Gwasanaethau Gofal Strydoedd Rhondda Cynon Taf
Tŷ Glantaf
Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd
CF37 5TT
Ffôn: 01443 494700
Ffacs: 01443 844310
E-bost: Customer.Services@rhondda-cynon-taf.gov.uk|