Llifogydd – beth i’w wneud cyn llifogydd, yn ei ystod ac ar ôl hynny.....
Rhif ffôn Argyfwng ac Ôl-oriau y Cyngor yw 01443 425001
Byddwch yn barod
Os bydd llifogydd, mae’n ddigon posib na fydd y goleuadau, y gwres na’r ffôn yn gweithio. Bydd y camau syml yma’n eich helpu i fod yn barod rhag ofn bydd llifogydd. Nawr yw’r amser i feddwl am y pethau hyn - peidiwch ag aros tan ei bod hi’n rhy hwyr. Os byddwch chi wedi paratoi’n drylwyr, byddwch yn gallu ymdopi yn well os byddwch chi neu’ch teulu mewn llifogydd.
-
Edrychwch i weld os ydych chi mewn ardal sydd mewn perygl o gael llifogydd, ewch i wefan Asiantaeth yr Amgylchedd am ragor o wybodaeth.
-
Gwnewch yn siŵr bod eich yswiriant yn ddigonol. Fel arfer, bydd difrod oherwydd llifogydd yn cael ei gynnwys yn y rhan fwyaf o bolisïau yswiriant adeiladau, ond gwnewch yn siŵr bod eich yswiriant cartref a chynnwys yn ddigonol.
-
Yn ogystal â’ch Pecyn Argyfwng yn y Cartref, cadwch fenig rwber, welingtons a dillad gwrth-ddŵr.
-
Cadwch fanylion polisïau yswiriant a’r rhif ffôn argyfwng perthnasol yn ddiogel – y lle gorau fyddai gyda’ch Pecyn Argyfwng yn y Cartref.
-
Ceisiwch ddod i’r arfer o storio eitemau gwerthfawr neu eitemau o werth personol yn y llofft neu mewn man uchel yn eich cartref.
-
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod lle mae’ch man diffodd nwy a thrydan.
-
Os ydych chi’n byw mewn ardal sydd mewn perygl o gael llifogydd, meddyliwch am brynu bagiau tywod neu fyrddau llifogydd er mwyn blocio drysau a brics aer. Mae cyngor ar sut i osod bagiau tywod yn iawn yn llyfryn newydd Asiantaeth yr Amgylchedd ar ddiogelu rhag llifogydd. Am gopi o’r Canllaw, ewch i wefan Asiantaeth yr Amgylchedd neu ffoniwch Floodline ar 0845 9881188.
Beth i’w wneud pan fyddwch chi’n clywed rhybudd
-
Gwrandwch am rybuddion ar y radio neu’r teledu a ffoniwch Floodline ar 0845 988 1188 neu ewch i wefan Asiantaeth yr Amgylchedd am fwy o wybodaeth.
-
Symudwch anifeiliaid anwes, cerbydau, pethau gwerthfawr ac eitemau eraill i rywle diogel.
-
Dywedwch wrth eich cymdogion, yn enwedig os ydyn nhw’n bobl hŷn.
-
Rhowch fagiau tywod neu fyrddau llifogydd yn eu lle - ond gwnewch yn siŵr bod digon o aer yn y tŷ.
-
Byddwch yn barod i ddiffodd y nwy a’r trydan (gofynnwch am help os oes rhaid)
-
Gwnewch gymaint â phosib yng ngolau dydd. Bydd gwneud pethau yn y tywyllwch yn anoddach, yn enwedig os bydd y trydan yn methu.
Byddwch yn ddiogel mewn llifogydd
Byddwch yn ymwybodol o beryglon llifogydd
-
Mae llifogydd yn gallu lladd. Peidiwch â cheisio cerdded neu yrru drwy lifogydd – gall chwe modfedd o ddŵr sy’n symud yn gyflym eich llorio a gall dwy droedfedd o ddŵr fod yn ddigon i wneud i’ch car chi arnofio.
-
Gall cloriau tyllau archwilio ddod yn rhydd ac efallai y bydd peryglon eraill na fyddwch yn gallu eu gweld.
-
Peidiwch byth â cheisio nofio drwy ddŵr sy’n symud yn gyflym – gallech chi gael eich tynnu i ffwrdd neu gael eich bwrw gan rywbeth sy’n arnofio yn y dŵr.
-
Ceisiwch osgoi dod i gysylltiad â dŵr llifogydd – gall fod wedi’i lygru â charthffosiaeth.
Glanhau
Os ydych chi wedi cael llifogydd:
-
Ffoniwch linell argyfwng (24 awr) eich cwmni yswiriant cyn gynted â phosibl. Byddan nhw’n rhoi gwybodaeth i chi am sut i ddelio â’ch hawliad ac yn eich helpu i gael pethau mewn trefn eto.
-
Agorwch ddrysau a ffenestri i awyru’ch tŷ, ond gwnewch yn siŵr bod eich cartref a’ch pethau gwerthfawr yn ddiogel. Mae’n cymryd tua mis i fodfedd o fricsen tŷ sychu.
-
Cysylltwch â’ch cwmni nwy, trydan a dŵr. Gwnewch yn siŵr bod rhywun yn gwirio’r cyflenwad cyn ei droi’n ôl ymlaen. Golchwch dapiau a’u rhedeg am rai munudau cyn eu defnyddio eto.
-
Taflwch unrhyw fwyd a all fod wedi dod i gysylltiad â dŵr llifogydd – efallai ei fod wedi’i lygru.
-
Byddwch yn ofalus o fasnachwyr ffug. Gwiriwch y geirda ac os oes modd, cyflogwch weithiwr mae rhywun arall wedi’i argymell.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi paratoi tri chanllaw llifogydd ar gyfer y cyhoedd. Mae’r canllawiau’n rhoi cyngor ymarferol am baratoi ar gyfer llifogydd, yr hyn y dylech chi ei wneud yn ystod y llifogydd a beth i’w wneud wedi hynny. Ffoniwch Floodline ar 0800 9881188 neu ewch i wefan Asiantaeth yr Amgylchedd| i archebu copi.
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu â’r Garfan Cynllunio ar gyfer Argyfwng, defnyddiwch yr wybodaeth isod:
Cynllunio ar gyfer Argyfwng
Swyddfeydd y Cyngor
Llewellyn Street
Y Pentre
CF41 7BT
Ffôn: 01443 432999
Rhif ffôn Argyfwng ac Ôl-oriau y Cyngor yw 01443 425001