Mae rhai adeiladau’n cael eu heithrio rhag talu Treth y Cyngor. Os ydych chi’n berchen ar eiddo sy’n cael ei ddisgrifio isod – neu’n byw ynddo fe a dydy’ch bil chi ddim yn dangos eich bod chi wedi cael gostyngiad, cysylltwch â’r cyngor.
Cyflwyno cais am gael eich eithrio rhag talu Treth y Cyngor ar-lein
Treth y Cyngor – eithrio – ffurflen gais (Saesneg)
Adeiladau gwag sy’n cael eu heithrio
-
A – eiddo mae angen gwaith adnewyddu mawr arno neu mae gwaith adnewyddu mawr yn digwydd yno (mae modd cael eich eithrio am gyfnod hyd at flwyddyn neu am gyfnod o 6 mis hyd at ddyddiad gorffen y gwaith, p’un bynnag ddaw gyntaf)
-
B – adeilad sy’n eiddo i elusen (cyfnod eithrio hyd at 6 mis yn unig)
-
C – eiddo gwag a heb gelfi (cyfnod eithrio hyd at 6 mis yn unig)
-
D – eiddo sy’n wag, yn sgil carcharu’r trigiannydd
-
E – eiddo gwag, yn sgil symud rhywun i gael gofal yn yr ysbyty, mewn cartref, neu rywle arall
-
F – yn ystod cyfnod aros am brofiant neu lythyrau gweinyddu (cyfnod eithrio yn parhau hyd at 6 mis ar ôl eu caniatáu)
-
G – eiddo gwag, am fod y gyfraith yn mynnu na chaiff neb fyw yno
-
H – eiddo sy’n cael ei gadw ar gyfer gweinidog yr efengyl
-
J – eiddo gwag, am fod y trigiannydd wedi symud i ymgymryd â dyletswyddau rhoi gofal i rywun arall
-
K – eiddo i fyfyriwr neu’r myfyriwr hwnnw oedd yn byw yn yr eiddo ddiwethaf
-
L – adeilad sydd wedi’i adfeddiannu
-
Q – eiddo sy’n gyfrifoldeb i ymddiriedolwr yn achos methdaliwr
-
R – mannau ar gyfer un garafán neu gwch neu gartref symudol
-
T – tai sy’n anodd eu rhoi ar osod oherwydd eu bod nhw’n rhan o eiddo arall, neu ar dir eiddo arall a does dim modd eu rhoi nhw ar osod ar wahân i’r eiddo arall heb dorri rheolau hawl cynllunio. I fod yn gymwys, rhaid bod yr unigolyn sy’n atebol yn byw yn yr eiddo arall.
Eithriadau ar gyfer adeiladau sydd â phobl yn byw ynddyn nhw
-
M/N – tŷ yn llawn myfyrwyr yn unig
-
O – gwersylloedd milwrol a thai ar gyfer teuluoedd milwyr. Bydd preswylwyr yn cyfrannu at gostau gwasanaethau lleol drwy drefniant arbennig.
-
P – o leiaf un preswylydd yn aelod o fyddin dramor
-
S – pob preswylydd o dan 18 mlwydd oed
-
U – pob preswylydd yn dioddef oddi wrth salwch y meddwl
-
V – o leiaf un preswylydd yn ddiplomydd tramor
-
W – rhandy ar gyfer perthynas hŷn neu anabl.
Dim ond disgrifiadau bras o’r eithriadau hynny sydd ar gael yw’r dosbarthau yma. Os ydych chi’n tybio bod hawl gyda chi i gael eich eithrio rhag talu Treth y Cyngor, ffoniwch y cyngor ar y rhif ffôn uchod.
Cofiwch, bydd rhaid ichi dalu eich bil presennol, tra byddwch chi’n aros i glywed canlyniad cais. Os bydd hyn yn achosi problemau, cysylltwch â ni ar unwaith.
Byddwn ni’n adolygu’r eithriadau o leiaf unwaith bob blwyddyn. Efallai byddwn ni’n gofyn ichi ddarparu gwybodaeth a fydd o gymorth inni gyda’r gwaith yma. O beidio â darparu’r wybodaeth yma efallai caiff eich hawliau cyfredol eu dileu.
Cofiwch, os bydd eich amgylchiadau chi’n newid, rhaid ichi roi gwybod i’r cyngor cyn pen 21 diwrnod.
Dolennau cyswllt
Ffôn: 01443 681081
Ffacs: 01443 680505
Minicom: 01443 680708
E-bost: revenues@rhondda-cynon-taf.gov.uk|