Mae gan y Cyngor garfan benodol ar gyfer ymdrin â materion Cydraddoldeb ac Amrywioldeb. Mae'r garfan yn delio â pholisïau corfforaethol a strategaethau megis y Polisi Cyfle Cyfartal, Polisi Urddas yn y Gwaith, a’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Hefyd, mae’r grafan yn gweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol i geisio gwireddu addewid y Cyngor i o sicrhau cydraddoldeb i bawb.
Dyma nodau’r garfan:
-
Hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i bawb sy’n byw a gweithio yn Rhondda Cynon Taf.
-
Gofalu bod dim gwahaniaethu yn erbyn aelodau o staff a thrigolion lleol a bod pawb yn cael eu trin yn deg a chyda pharch.
-
Cydnabod a gwerthfawrogi’r ffaith bod pawb yn wahanol a chydnabod bod gan bawb gyfraniad unigryw i wneud i Rondda Cynon Taf.
-
Mynd i’r afael ag achosion o wahaniaethu yn y gweithle ac o ran cynnal gwasanaethau’n ogystal.
-
Cynyddu ymwybyddiaeth a hyrwyddo gwell ddealltwriaeth o faterion anghydraddoldebau o blith staff.
-
Gofalu bod gweithdrefnau denu a phenodi staff yn rhai teg a chyfartal sydd ddim yn gwahaniaethu.
-
Gofalu bod gwasanaethau cyngor a gwybodaeth ar gael yn fwy hwylus o fewn cymunedau lleol a gofalu bod ein gwasanaethau ni’n rhai hygyrch i bawb.
-
Mynd i’r afael â materion anghydraddoldebau ac anfantais mewn cymunedau lleol trwy ddatblygu cynlluniau arloesol i hyrwyddo newid a’i gynnal.
Mae’r garfan yn gweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol i fynd â’r maen i’r wal yn hyn o beth yn nhermau cyflogaeth a chynnal gwasanaethau ill dau.
Datganiad o Genhadaeth Carfan Materion Cydraddoldeb ac Amrywioldeb
“I fynd i’r afael ag achosion o wahaniaethu a gofalu bod egwyddorion cyfle cyfartal yn rhan annatod o’r gweithle ac o fewn ein gwasanaethau yn ogystal”
Manylion Cyswllt
Os hoffech chi gael gwybod rhagor ynglŷn â’r gwaith rydyn ni’n ei wneud, cysylltwch â Charfan Cydraddoldeb ac Amrywioldeb.
Ffôn: 01443 424075
Ebost: cydraddoldeb@rhondda-cynon-taff.gov.uk|