Bob blwyddyn, mae’n rhaid i’r Cyngor baratoi 'Datganiad o Gyfrifon' sy’n rhestru ei holl weithgareddau ariannol yn ystod y flwyddyn. Mae’r datganiad yn cael ei baratoi yn unol â fframwaith statudol, ac mae’n cynnwys gwybodaeth am:
-
Gost y gwasanaethau mae’r Cyngor yn eu darparu;
-
Ffynonellau’r arian mae’r Cyngor yn ei ddefnyddio i dalu am y gwasanaethau hyn;
-
Gwerth asedau a rhwymedigaethau’r Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn.
Bydd archwiliad allanol yn cael ei gynnal ar y datganiad er mwyn gwneud yn siŵr bod y Cyngor yn disgrifio ei safle ariannol yn deg.
Gallwch chi weld y Datganiad o Gyfrifon yn ‘Dogfennau cysylltiedig’.