Etholiadau – cofrestr etholiadol

Your-Vote-Matters-Welsh

Mae'r ffordd rydyn ni i gyd yn cofrestru i fwrw pleidlais wedi newid

Fe newidiodd y system gofrestru ym mis Mehefin 2014. Enw'r system newydd yw Cofrestru Etholwyr Unigol (‘IER’) a dyma'r newid mwyaf i'r system cofrestru etholwyr mewn 100 mlynedd.

Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd wedi'u cofrestru eisoes yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig i'r gofrestr newydd. Serch hynny, bydd angen i rai pobl ailgofrestru yn Rhondda Cynon Taf. Mae hefyd bobl yn yr ardal sydd ddim wedi'u cofrestru i fwrw pleidlais o gwbl, ac sydd angen cofrestru er mwyn rhoi'u barn mewn etholiadau.

Os dydych chi ddim wedi cofrestru eisoes, fe gewch chi wneud hynny o dan y system newydd ar wefan y llywodraeth: www.gov.uk/gwybodaethamgofrestru|.

Am ragor o wybodaeth, dewiswch un o'r canlynol:

Pam dylwn ni gofrestru?

Mae llwyddo i gael morgais yn un o'r rhesymau dros fod ar y Gofrestr Etholwyr. Mae cael yr hawl i bleidleisio yn rheswm arall.

Mae gan Gyngor y Fwrdeistref Sirol 75 o gynghorwyr, sy'n cynrychioli 52 o etholaethau. Bydd etholiad o'r cyngor llawn bob pedair blynedd.

  • Os dydych chi ddim wedi'ch cofrestru, fyddwch chi ddim yn cael pleidleisio mewn Etholiadau.
  • Mae'n ofynnol o dan y gyfraith i chi gofrestru – mae dirwy o hyd at £1,000 os dydych chi ddim yn gwneud hynny. Mae llawer o'r cwmnïau cerdyn credyd mawr yn cadarnhau'ch cyfeiriad chi yn ôl y Gofrestr Etholwyr. Os dydych chi ddim yn cofrestru, mae'n bosibl y byddwch chi'n cael eich gwrthod ar gyfer benthyciad, cytundeb ffôn symudol, morgais, cyfrif banc ac ati.
  • Dyma'ch cyfle chi i ddweud eich dweud ynglŷn â sut mae'r Cyngor yn cael ei weithredu. Mae'ch pleidlais chi'n cyfrif – defnyddiwch eich hawl i bleidleisio.

Pwy sy'n cael cofrestru?

Mae hawl gan ddinasyddion Prydain, dinasyddion gwledydd eraill y Gymanwlad, dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon a dinasyddion gwledydd yr Undeb Ewropeaidd sy'n preswylio yn y Deyrnas Unedig, i gael eu cynnwys ar y gofrestr newydd.

Bydd dinasyddion Prydain, dinasyddion gwledydd y Gymanwlad a dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar gyfer Etholiadau Lleol, Senedd San Steffan, y Cynulliad ac Etholiadau Senedd Ewrop.

Dydy dinasyddion gwledydd yr Undeb Ewropeaidd DDIM yn cael pleidleisio mewn Etholiadau Seneddol.

Bydd hi'n rhy hwyr i gwyno ar ddiwrnod yr etholiad os dydych chi ddim yn cael pleidleisio. Gofalwch eich bod chi'n gweithredu eich hawl i roi'ch barn trwy ofalu bod eich enw chi ar y gofrestr.

Cofiwch, os dydych chi ddim ar y Gofrestr Etholwyr, fyddwch chi ddim yn cael pleidleisio mewn unrhyw Etholiad.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â phleidleisio, a sut i gofrestru i bleidleisio, ewch i'r dudalen: Etholiadau – pleidleisio|

Beth yw Cofrestru Etholwyr Unigol, a sut rydw i'n cofrestru?

Beth sydd wedi newid?

  • Erbyn hyn, mae modd i chi gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisioneu drwy ffonio 01443 490100.
  • Mae pawb yn gyfrifol am gofrestru ei hun. O dan yr hen system, byddai 'penteulu' pob cartref yn cofrestru pawb oedd yn byw yn y cyfeiriad yna.
  • Mae angen i chi ddarparu rhai manylion i gofrestru – gan gynnwys eich Rhif Yswiriant Gwladol a'ch dyddiad geni.Mae hyn yn gwneud y gofrestr etholwyr yn fwy diogel.

Os ydych chi'n cofrestru ar-lein neu dros y ffôn, sicrhewch fod y manylion hyn wrth law.

Sut rydw i'n cofrestru o dan y system newydd a pha wybodaeth mae ei hangen arna i?

1. Ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio|

2. Rhowch eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni ac ychydig o fanylion eraill. Byddwch chi angen eich Rhif Yswiriant Gwladol hefyd. Bydd modd i chi ddod o hyd i'r rhif yma ar eich Cerdyn Yswiriant Gwladol neu ar waith papur swyddogol, megis cyfloglenni neu lythyron mewn perthynas â budd-daliadau a chredydau treth.

3. Byddwch chi'n derbyn cadarnhad eich bod chi wedi cofrestru.

Fydd angen i mi wneud unrhyw beth?

  • Bydd llythyr yn eich cyrraedd chi ym mis Gorffennaf 2014.
  • Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd wedi'u cofrestru eisoes, wedi cael eu cofrestru'n awtomatig o dan y system newydd. Fydd dim angen i'r rhai hynny wneud unrhyw beth. Serch hynny, bydd angen i rai pobl gymryd camau i ymuno â'r gofrestr newydd. Rydyn ni'n ysgrifennu at bobl i roi gwybod a fyddan nhw angen gweithredu.
  • Ymatebwch i'r llythyr, os byddwn ni'n gofyn i chi wneud hynny.
  • Bydd y llythyr yn nodi a ydych chi ar y gofrestr newydd neu a oes angen i chi weithredu, a beth ddylech chi'i wneud.

Y Gofrestr Etholwyr

Mae cofrestri yn cael eu rheoli yn lleol gan Swyddogion Cofrestru Etholwyr. Gan ddefnyddio gwybodaeth gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru yn cadw dwy gofrestr – y Gofrestr Etholwyr a'r Gofrestr Agored (neu'r gofrestr olygedig).

Mae'r gofrestr etholwyr yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru i fwrw pleidlais mewn etholiadau cyhoeddus. Mae'r gofrestr yn cael ei defnyddio at ddibenion etholiadau, er enghraifft, i sicrhau mai dim ond pobl gymwys sydd yn cael pleidleisio. Mae hi hefyd yn cael ei defnyddio at ddibenion cyfyngedig wedi'u pennu gan y gyfraith, megis darganfod trosedd (e.e. twyll), galw ar bobl i wneud gwasanaeth rheithgor, a gwirio ceisiadau credyd.

Y Gofrestr Agored

Mae'r Gofrestr Agored yn cael ei thynnu o'r Gofrestr Etholwyr, ond dydy hi ddim yn cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Mae modd iddi hi gael ei phrynu gan unrhyw berson, cwmni neu sefydliad. Er enghraifft, mae'n cael ei defnyddio gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enwau a chyfeiriadau.

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad yn cael eu cynnwys yn y gofrestr agored oni bai eich bod chi'n gofyn i ni eu tynnu nhw oddi arni hi. Fydd dileu'ch manylion o'r gofrestr agored ddim yn effeithio ar eich hawl i fwrw pleidlais. Fe gewch chi ofyn iddyn nhw gael eu dileu drwy ffonio staff cofrestru etholwyr eich cyngor lleol ar 01443 490100.

Sut rydw i'n ychwanegu neu ddileu manylion sy'n ymddangos yn y Gofrestr Agored?

Os ydych chi'n cofrestru ar-lein ar www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio |mae modd i chi ddewis peidio â chael eich enw a'ch cyfeiriad ar y rhestr agored drwy glicio'r blwch priodol.

Fe gewch chi hefyd newid eich dewis ar unrhyw adeg drwy wneud cais i staff cofrestru etholwyr lleol. Anfonwch eich enw a'ch cyfeiriad atyn nhw gan nodi p'un ai ydych chi eisiau cael eich cynnwys ar y rhestr agored neu'ch dileu oddi arni.

Cwestiynau cyffredin

Oes rhaid i mi roi gwybod i chi fy mod i wedi symud tŷ?

Oes. Os dydych chi ddim yn dweud wrthon ni, bydd cyfle i chi bleidleisio yn eich hen gyfeiriad hyd at fis Hydref pan fydd yr arolwg blynyddol yn cael ei gynnal.

Rydw i wedi dweud wrth Uned Treth y Cyngor yn barod. Fydd yr uned yn diweddaru fy nghofnod ar y gofrestr?

Na fydd. Bydd rhaid i chi gofrestru gyda'r garfan Cofrestru Etholwyr ar wahân, neu ewch i www.gov.uk/gwybodaethamgofrestru|.

Rydw i wedi newid fy enw. Oes rhaid i mi roi gwybod am hyn?

Oes. Bydd rhaid i chi gysylltu â'r garfan Cofrestru Etholwyr.

Beth yw cofrestru etholwyr unigol?

Yn flaenorol, y ‘penteulu’ oedd yn gyfrifol am gofrestru pawb yn y tŷ, ond bellach, mae pob person unigol yn gyfrifol am gofrestru ei hunan i bleidleisio. Mae hyn yn cael ei galw'n Cofrestru Etholwyr Unigol. Mae'r system newydd hefyd yn golygu y gall pobl gofrestru ar-lein. Bydd gofyn i unrhyw un sy'n cofrestru o'r newydd o dan y system newydd, gofrestru ei hunan yn unigol drwy gwblhau ffurflen bapur neu ar-lein.

Oes angen i mi gymryd unrhyw gamau gweithredu / ailgofrestru?

Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd wedi cofrestru eisoes, wedi cael eu cofrestru'n awtomatig o dan y system newydd. Fydd dim angen i'r rhai hynny wneud unrhyw beth, a byddan nhw wedi'u cofrestru i fwrw'u pleidleisiau fel arfer. Byddwn ni'n anfon llythyron at y bobl yma ym mis Gorffennaf/Awst 2014 i roi gwybod iddyn nhw eu bod nhw wedi'u cofrestru o dan y system newydd.

Mae nifer bach o bobl ar y gofrestr etholwyr sydd heb gael eu trosglwyddo'n awtomatig i'r system newydd. Mae'n beth syml i'r bobl yma ailgofrestru. Rydyn ni'n ysgrifennu at y rhai hynny sydd heb gael eu cofrestru'n awtomatig, er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw bod angen ailgofrestru o dan y system newydd. Rydyn ni wedi anfon ffurflen gofrestru gyda'r llythyr, ond mae modd iddyn nhw gofrestru ar-lein hefyd ar: www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio|.

Os dydych chi ddim wedi cofrestru i fwrw pleidlais, mae modd i chi wneud hyn ar www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio|.

Pam fod y system wedi newid?

Mae cofrestru yn unigol yn rhoi'r hawl a'r cyfrifoldeb i chi gofrestru'ch hunan, yn lle rhoi'r cyfrifoldeb i'r penteulu. Mae hyn yn annog pobl i gymryd cyfrifoldeb dros eu pleidlais eu hunain. Mae'r newid yn golygu hefyd y bydd dulliau mwy cyfleus o gofrestru, er enghraifft, dros y rhyngrwyd (neu dros y ffôn/wyneb yn wyneb os yw hyn yn cael ei gynnig gan eich awdurdod lleol). Oherwydd bod y system newydd yn gofyn i chi roi manylion ychwanegol cyn i chi gael eich cofrestru – eich rhif Yswiriant Gwladol a'ch dyddiad geni – bydd y gofrestr etholwyr yn fwy diogel ac yn llai tebygol o ddenu twyll etholiadol.

Pwy sy'n gyfrifol am newid y system?

Cafodd y system ei chyflwyno gan lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013 |a ddaeth yn ddeddf ar 31 Ionawr 2013. Swyddogion Cofrestru Etholiadol sy'n rhoi'r newid ar waith.

Fydd y newid yn effeithio ar y modd rydw i'n bwrw fy mhleidlais?

Dydy'r prosesau pleidleisio ddim wedi newid. Serch hynny, os ydych chi eisiau pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy, bydd angen i chi sicrhau eich bod chi wedi cael eich cofrestru o dan y system newydd. Os ydych chi eisiau pleidleisio drwy'r post, ac rydych chi heb gyflwyno cais hyd yn hyn, bydd rhaid i chi wneud hynny erbyn 5pm, 11 o ddiwrnodau gwaith cyn etholiad, er mwyn pleidleisio drwy'r post yn yr etholiad yna.

Os dydych chi ddim wedi cyflwyno cais i bleidleisio trwy ddirprwy eisoes, y terfyn amser arferol yw chwe diwrnod gwaith cyn etholiad, ac eithrio mewn achos o argyfwng meddygol neu os ydych chi'n cael eich galw i ffwrdd yn annisgwyl mewn perthynas â'ch gwaith. Yn y sefyllfaoedd yma, mae'n bosibl y cewch chi wneud cais cyn 5pm fan bellaf ar ddiwrnod yr etholiad.

Sut rydw i'n ychwanegu neu ddileu manylion sy'n ymddangos yn y Gofrestr Agored (y Gofrestr Olygedig)?

Gan ddefnyddio gwybodaeth gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru yn cadw dwy gofrestr – y Gofrestr Etholwyr a'r Gofrestr Agored (neu'r gofrestr olygedig).

Mae'r gofrestr etholwyr yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru i fwrw pleidlais mewn etholiadau cyhoeddus. Mae'r gofrestr yn cael ei defnyddio at ddibenion etholiadol, er enghraifft, er mwyn sicrhau mai dim ond pobl gymwys sydd yn cael pleidleisio. Mae hi hefyd yn cael ei defnyddio at ddibenion cyfyngedig wedi'u pennu gan y gyfraith, megis darganfod trosedd (e.e. twyll), galw ar bobl i wasanaethu ar reithgor, a gwirio ceisiadau credyd.

Mae'r Gofrestr Agored yn cael ei thynnu o'r Gofrestr Etholwyr, ond dydy hi ddim yn cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Mae modd iddi hi gael ei phrynu gan unrhyw berson, cwmni neu sefydliad. Er enghraifft, mae'n cael ei defnyddio gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enwau a chyfeiriadau.

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad yn cael eu cynnwys yn y gofrestr agored oni bai eich bod chi'n gofyn i ni eu tynnu nhw oddi arni hi. Fydd dileu'ch manylion o'r gofrestr agored ddim yn effeithio ar eich hawl i fwrw pleidlais. Hefyd fe gewch chi newid eich dewis ar unrhyw adeg drwy wneud cais i staff cofrestru etholwyr lleol. Anfonwch eich enw a'ch cyfeiriad atyn nhw gan nodi p'un ai ydych chi eisiau cael eich cynnwys ar y gofrestr agored neu'ch dileu oddi arni. Fe gewch chi wneud hyn yn ysgrifenedig neu drwy ffonio 01443 490100. Noder:Byddwn ni hefyd yn ysgrifennu atoch chi i gadarnhau unrhyw newid.

Beth yw'r gofrestr agored (neu'r gofrestr olygedig)?

Gan ddefnyddio gwybodaeth gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru yn cadw dwy gofrestr – y Gofrestr Etholwyr a'r Gofrestr Agored (neu'r gofrestr olygedig).

Mae'r gofrestr etholwyr yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru i fwrw pleidlais mewn etholiadau cyhoeddus. Mae'r gofrestr yn cael ei defnyddio at ddibenion etholiadol, er enghraifft, er mwyn sicrhau mai dim ond pobl gymwys sydd yn cael pleidleisio. Mae hi hefyd yn cael ei defnyddio at ddibenion cyfyngedig wedi'u pennu gan y gyfraith, megis darganfod trosedd (e.e. twyll), galw ar bobl i wasanaethu ar reithgor, a gwirio ceisiadau credyd.

Mae'r Gofrestr Agored yn cael ei thynnu o'r Gofrestr Etholwyr, ond dydy hi ddim yn cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Mae modd iddi hi gael ei phrynu gan unrhyw berson, cwmni neu sefydliad. Er enghraifft, mae'n cael ei defnyddio gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enwau a chyfeiriadau.

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad yn cael eu cynnwys yn y gofrestr agored oni bai eich bod chi'n gofyn i ni eu tynnu nhw oddi arni hi. Fydd dileu'ch manylion o'r gofrestr agored ddim yn effeithio ar eich hawl i fwrw pleidlais.

Sut rydw i'n dod o hyd i fy rhif Yswiriant Gwladol?

Mae rhifau Yswiriant Gwladol yn cael eu defnyddio gan y llywodraeth fel cyfeirnodau. Y ffordd fwyaf hawdd i ddod o hyd i'ch rhif Yswiriant Gwladol yw trwy edrych ar waith papur swyddogol, er enghraifft, eich cerdyn Yswiriant Gwladol, cyfloglenni neu lythyron oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.Gall myfyrwyr ddod o hyd i'r rhif yn eu manylion cofrestru ar gyfer y brifysgol neu yn eu cais am fenthyciad i fyfyrwyr.Os ydych chi'n dal i fethu dod o hyd iddo, bydd croeso i chi ddefnyddio gwasanaeth ymholiadau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn www.gov.uk/lost-national-insurance-number| (Saesneg).

  • Os does dim modd gennych chi i ddefnyddio'r Rhyngrwyd, ffoniwch y llinell gymorth Yswiriant Gwladol ar 0300 200 3502.
  • Ar gyfer ymholiadau yn yr iaith Gymraeg, rhif llinell gymorth Cofrestriadau Yswiriant Gwladol yw 0300 200 1900.

Cofiwch fydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ddim yn rhoi'ch rhif Yswiriant Gwladol dros y ffôn; yn hytrach, byddan nhw'n ei anfon drwy'r post.

Fel arall, fe gewch chi ysgrifennu i:

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
Swyddfa Cyfraniadau a Chofrestriadau Cyflogwyr Yswiriant Gwladol
Cofrestriadau Yswiriant Gwladol
Benton Park View
Newcastle upon Tyne
NE98 1ZZ

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn y Deyrnas Unedig â rhif Yswiriant Gwladol. Os does dim un gennych chi, bydd rhaid i chi esbonio pam na allwch chi'i ddarparu. Gall staff cofrestru etholwyr lleol gysylltu â chi i ofyn am brawf hunaniaeth.

Manylion cyswllt

Uned Gwasanaethau Etholiadol a Phridiannau Tir
Uned 2 Parc Busnes Hen Lofa'r Maritime,
Ystad Ddiwydiannol Parc Hen Lofa'r Maritime,
Pontypridd.
CF37 1NY

Ffôn: 01443 490100
Ffacs: 01443 485776
E-bost: GwasanaethauEtholiadau@rhondda-cynon-taf.gov.uk|