Ym 1998, cyhoeddodd y Llywodraeth Bapur Gwyn “Modernising Local Government – In Touch With Local People”. Arweiniodd hyn at gyflwyno Deddf Llywodraeth Leol 2000 oedd yn golygu newidiadau i’r strwythurau gwleidyddol yr oedd awdurdodau lleol Cymru a Lloegr yn eu defnyddio.
Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, penderfynwyd gweithredu model ar sail “Cabinet” a “Phwyllgor Trosolwg a Chraffu”.
Mae Trosolwg a Chraffu’n rhan bwysig o ddemocratiaeth ac mae’n hyrwyddo atebolrwydd yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae’n bwysig o ran:
Strwythur ar gyfer Trosolwg a Chraffu
Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf Bwyllgor cyffredinol – Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu – a phedwar Pwyllgor Craffu. Mae cylch gwaith pob un o’r pwyllgorau hyn i’w gweld yn y Cyfansoddiad.
-
Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
-
Pwyllgor Craffu Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant
-
Pwyllgor Craffu Cyfadran y Gwasanaethau Corfforaethol
-
Pwyllgor Craffu y Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes
-
Pwyllgor Craffu Cyfadran y Gwasanaethau Amgylchedd
Yn aml iawn, bydd Pwyllgorau Craffu’n sefydlu Gweithgorau i fynd i’r afael â materion penodol. Mae gan Weithgorau lai o aelodau ac unwaith y bydd y grŵp wedi gorffen ei waith, bydd yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor perthnasol.
Mae Pwyllgorau Craffu a Gweithgorau’n paratoi adroddiadau ac argymhellion sy’n cael eu rhoi i’r Cabinet (sef yr adran weithredol) er mwyn iddo gael ymateb.
Aelodaeth
Mae pob Pwyllgor Craffu yn gytbwys o ran gwleidyddiaeth, felly maen nhw’n adlewyrchu aelodaeth wleidyddol y Cyngor. Mae gan bob Pwyllgor Gadeirydd ac Is-gadeirydd. Mae Cydlynydd Rheoli Cyflawniad yn helpu i sicrhau bod aelodau’n derbyn adroddiadau eithriad manwl bob chwarter am faterion ariannol a chyflawniad.
Ar ddechrau blwyddyn fwrdeistrefol, mae’r Pwyllgor Craffu yn cytuno ar raglen waith. Yn ogystal ag eitemau busnes safonol fel Gwybodaeth Chwarterol am Gyflawniad a Chyllid, mae’r rhaglen waith yn cynnwys materion sy’n cael eu hawgrymu a’u pennu gan Aelodau oherwydd effaith y materion ar drigolion Rhondda Cynon Taf.
Rhagor o wybodaeth
Bydd Pwyllgorau Craffu’n cwrdd yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn. Mae agendâu’r pwyllgorau i’w cael ar-lein.
Manylion Cyswllt
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni:
Carfan Cymorth y Pwyllgorau Archwilio
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa’r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX
E-bost: Scrutiny@rhondda-cynon-taff.gov.uk|