Gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, cafodd Apêl Porth Coffaol y Maerdy ei lansio gan Bartneriaeth Cymunedau'n Gyntaf y Maerdy ac Archifdy'r Maerdy (Elusen Gofrestredig 1073001) ar 2 Mawrth 2011. Yr amcan yw casglu £40,000 er mwyn sefydlu cofeb a fydd yn dathlu treftadaeth lofaol y Maerdy a Chwm Rhondda.
Mae'r trigolion eisiau sefydlu cofeb deilwng ar gyrion y pentref er cof am yr holl bobl hynny a weithiodd dan ddaear, gan gyfrannu at droi Cwm Rhondda yn ardal ddiwydiannol fyd-enwog.
Ymhlith y bobl a oedd yn bresennol yn lansiad yr apêl ar waelod Mynydd y Maerdy oedd y Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o’r Cabinet ar faterion Diwylliant, Hamdden a’r Diwydiant Ymwelwyr; y Cynghorydd Simon Lloyd, Maer Rhondda Cynon Taf; Non Evans, yn adnabyddus o fyd chwaraeon Cymru; a Bob Penberthy, un o gyn-chwaraewyr adnabyddus Clwb Rygbi Pontypridd.
Glofa'r ‘Maerdy’ oedd yr un olaf a gafodd ei chau yng Nghwm Rhondda. Meddai'r Cynghorydd Bevan, a oedd yn arfer bod yn löwr yno: “Dyma ddiwrnod pwysig yn hanes Rhondda Cynon Taf wrth i ni lansio apêl i sefydlu cofeb ar gyfer yr holl bobl hynny a weithiodd dan ddaear er mwyn ennill bywoliaeth ar gyfer eu hunain a'u teuluoedd, a hynny mewn amgylchiadau ofnadwy fel arfer.”
Mae'r gofeb yn cael ei dylunio yn unol â dymuniadau'r trigolion a'r cyn-lowyr. Bydd y cynllun yn ailddefnyddio un o'r hen olwynion o lofa'r Maerdy ynghyd â'r gwaith maen a ddaeth o Neuadd ac Institiwt y Gweithwyr, y Maerdy, pan gafodd yr adeilad hwnnw ei ddymchwel yn ddiweddar.
Cyfrannu at yr apêl
Dyma sut y cewch chi gefnogi Apêl Porth Coffaol y Maerdy:
-
Ar-lein – cliciwch ar y ddolen 'Talu' ar wefan y Cyngor, yna cliciwch ar 'Services' a dewiswch 'Maerdy Gateway Memorial Appeal' ar y gwymplen (Saesneg yn unig);
-
Dros y ffôn – ffoniwch 01443 681081;
-
Gydag arian parod – ewch â’ch arian i unrhyw un o ganolfannau I Bob Un y Cyngor;
-
Gyda siec – gwnewch y siec yn daladwy i ‘Apêl Porth Coffaol y Maerdy' a'i hanfon i: Apêl Porth Coffaol y Maerdy, Cyngor Rhondda Cynon Taf, Tŷ Bronwydd, Bronwydd Avenue, Y Porth, CF39 9DL
Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag Apêl Porth Coffaol y Maerdy, cysylltwch â Ros Davis:
E-bost: Rosalind.S.Davis@rhondda-cynon-taf.gov.uk|
Cyfeiriad:
Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf y Maerdy,
Tŷ Teifi,
Station Terrace,
Y Maerdy
CF43 4BE