Gwyliau'r Banc

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dymuno'r gorau i'w drigolion ar gyfer Gŵyl Banc Calan Mai. 

Bydd newidiadau i wasanaethau ac oriau agor cyfleusterau dros Ŵyl Banc Calan Mai.

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ac oriau agor ar gyfer gwasanaethau penodol isod. 

Bydd prif swyddfeydd y Cyngor ar gau o 5.00 prynhawn Gwener 3 Mai, tan 9.00 bore Mawrth 7 Mai. 

Cofiwch fod modd ichi gysylltu â'ch Cyngor ynghylch mater brys neu achos o argyfwng trwy ffonio'n Canolfan Galwadau ar 01443 425001. Mae'r Ganolfan ar agor bob awr o'r dydd, 7 niwrnod yr wythnos. 

Mae hefyd fodd ichi fanteisio ar amrediad o wasanaethau ar-lein, gan gynnwys talu bil, archebu bagiau ailgylchu, trefnu casglu eitem swmpus/mawr, a llawer yn rhagor drwy alw heibio i wefan y Cyngor|.

Yn ogystal â hynny, mae modd ichi ddefnyddio'r cyfleuster chwilio manwl ar y wefan hon i ddod o hyd i ragor o wasanaethau a gwybodaeth. 

Gwastraff/Sbwriel ac Ailgylchu

Fydd DIM newid i'r casgliadau gwastraff ac ailgylchu dros Ŵyl y Banc. Rhowch y pethau sydd i'w casglu allan erbyn 7.00 ar fore'ch diwrnod casglu arferol.

Darllenwch ragor o wybodaeth am Wasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu y Cyngor|

Fe gewch chi hefyd wybodaeth am ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned, lle mae croeso ichi fynd ag unrhyw eitemau sydd ddim yn rhan o'r casgliadau ymyl-y-ffordd wythnosol.

Gwybodaeth am y Canolfannau yn y Gymuned|

Ysgolion

Mae'r manylion ynglŷn â dyddiadau ar gyfer y flwyddyn ysgol isod.

Gwybodaeth am ddyddiadau tymhorau'r ysgol|

Tudalen Ysgolion sydd ar gau dros dro|

Gweithgareddau Gwasanaethau i Bobl Ifainc

Am wybodaeth ynghylch gwasanaethau i bobl ifainc ledled Rhondda Cynon Taf a De Cymru yn ystod Gŵyl y Banc, ewch i borth pobl ifainc| neu cysylltwch â Charfan Gwasanaethau i Bobl ifainc y Cyngor ar 01443 744101.

Gofal Cymdeithasol

Mae nifer o bobl yn dibynnu ar ofal a chymorth yn eu cartrefi eu hunain. Bydd gwasanaethau yn cael eu darparu yn ôl yr arfer. Byddwn ni'n rhoi gwybod ichi'n bersonol am unrhyw newidiadau a fydd yn effeithio arnoch chi.

Bydd staff ein Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned a Gofal Cartref yn parhau i weithio yn ôl yr arfer i sicrhau eich bod chi'n derbyn y gwasanaethau rydych chi'n dibynnu arnyn nhw fwyaf.

Os bydd argyfwng gofal cymdeithasol yn codi, a dyw hi ddim yn bobsibl aros nes bydd y swyddfeydd yn agor, ffoniwch y Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau ar 01443 849944.

Cofiwch os oes mater brys neu argyfwng yn codi, ffoniwch ein ymgynghorwyr arbenigol yng Nghanolfan Galwadau'r Cyngor bob awr o'r dydd, 7 niwrnod yr wythnos ar 01443 425001. 

Canolfannau hamdden

Does dim ffordd well i baratoi at yr haf nag yn un o'n canolfannau hamdden modern, croesawgar. 

Yn wir, maen nhw'n cynnig amrediad eang o ddosbarthiadau a chyfleustersau ar gyfer dant pawb – o Zumba a'r grefft ymladd, i nofio, pêl-droed pum bob ochr a champfeydd o'r radd flaenaf. 

Mae'r cerdyn a Mwy yn ei gwneud hi'n haws ac yn fforddiadwy i bawb gael cymryd rhan yn y dosbarthiadau a defnyddio'r cyfleusterau, gydag amrediad o brisiau sydd o fewn cyrraedd poced pawb. 

Cewch chi ragor o fanylion am ein Canolfannau Hamdden - ble maen nhw, beth maen nhw'n ei gynnig a'u horiau agor ar Ŵyl y Banc - ar y tudalennau Hamdden. Bydd manylion am opsiynau'r cynllun cerdyn Mwy ar y dudalen yn ogystal. 

Gwybodaeth am y Canolfannau Hamdden.|

Llyfrgelloedd

Mae llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf yn parhau'n boblogaidd y tu hwnt, gyda mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn ymaelodi i fanteisio ar yr amrediad anhygoel o wasanaethau. 

Mae miloedd o bobl yn manteisio ar aelodaeth am ddim sy'n eu galluogi i fachu ar y llyfrau diweddaraf sydd o blith y gwerthwyr gorau , llogi DVDs fforddiadwy, mynediad i'r we, darllen cyhoeddiadau a chylchgronau arbenigol, llyfrau ymchwil ac adolygu, canllawiau hunangymorth a hyd yn oed e-lyfrau mae modd eu lawrlwytho i ddyfeisiau cludadwy. 

Mae nifer o'n llyfrgelloedd yn cynnal gweithgareddau hwyl am ddim - o sesiynau chwarae addysgol y gallwch chi a'ch plant bach eu mwynhau gyda'ch gilydd, i sgyrsiau gan siaradwyr gwadd o awduron, digwyddiadau yn ystod gwyliau'r ysgol, clybiau llyfrau, grwpiau darllen a mwy. 

Mae rhagor o fanylion ar ein tudalennau Llyfrgelloedd 

Gwybodaeth am y Llyfrgelloedd.|

Amgueddfeydd

Manylion ynglŷn ag oriau agor| 

Gwasanaethau'r Mynwentydd a Phrofedigaeth

Bydd mynwentydd y Cyngor ar agor yn ôl yr arfer dros Ŵyl y Banc. Bydd amgylchiadau annisgwyl yn codi weithiau, pan fydd rhaid i ni gau'r mynwentydd i gerbydau ar fyr rybudd.  

Os bydd raid inni wneud hynny am ryw reswm, byddwn ni'n rhoi nodyn ar gatiau'r fynwent. Byddwn ni'n agor y gatiau unwaith yn rhagor ar y cyfle cyntaf pan fydd hi'n ddiogel i wneud hynny.  

Mae modd i gerddwyr ddod i gael mynediad o hyd, er na fydd modd i gerbydau ddefnyddio'r safle, ond gofal piau hi pan fyddwch chi'n galw heibio mewn tywydd garw, a chofiwch wisgo dillad ac esgidiau priodol er mwyn osgói cwympo ac anaf.  

Mae'r Cyngor yn ymrói i gadw'r mynwentydd ar agor i'r cyhoedd. Byddwn ni ddim ond yn cymryd camau i'w cau pan fydd hynny'n angenrheidiol er diogelwch y cyhoedd. 

Hoffech chi fanylion am oriau agor ein mynwentydd? Ffoniwch y Gwasanaethau Profedigaeth ar 01443 402810. Bydd y Gwasanaethau Profedigaeth ar gau ddydd Llun 6 Mai.

Tudalen Gwybodaeth am y Mynwentydd|

Trafnidiaeth gyhoeddus 

Rydyn ni'n eich argymell i gysylltu â'r cwmnïau perthnasol yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth am wasanaethau.