I sicrhau'n bod ni'n darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cwsmeriaid, rydyn ni'n monitor perfformiad ein gwefan yn rheolaidd.
Ein nod ydy cyrraedd a chynnal safonau uchel wrth fynd ati i wella'r wybodaeth a'r gwasanaethau sydd i'w cael ar www.rctcbc.gov.uk|
Byddwn ni'n monitro yn rheolaidd:
1) Argaeledd
Rydyn ni'n monitro argaeledd y wefan bob 15 munud a'n nod ydy cyrraedd canran amser mynd (gweithio) sy'n uwch na 99%, mae hyn yn cynnwys unrhyw amser segur sy wedi'i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn ystod unrhyw gyfnod.
Mae'r graff canlynol yn dangos "amser gweithio" ein gwefan yn ystod y cfnod diwethaf.
2) Bodlonrwydd Cwsmeriaid
I ddibenion pennu meysydd ar gyfer gwella, byddwn ni’n gofyn am farn cwsmeriaid am ein gwefan yn rheolaidd. Yn seiliedig ar anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid, mae hyn o gymorth i ni bennu’r meysydd hynny rydyn ni’n perfformio’n dda ynddyn nhw ynghyd â’r meysydd ar gyfer gwella.
Mae’r graff canlynol yn nodi’r wybodaeth a roddodd ein cwsmeriaid trwy ein harolygon ar-lein (SOCITM).
3) Man Cyswllt Cyntaf
Mae hi’n bwysig bod www.rctcbc.gov.uk yn rhoi’r wybodaeth mae cwsmeriaid yn chwilio amdani neu fod modd cwblhau’r ceisiadau heb orfod cysylltu â’r Cyngor yr eildro. Yn amlach na pheidio, “Man Cyswllt Cyntaf” neu First Point Resolution yw’r term am hyn, bydd yr elfen yma’n cael ei monitro bob mis.
Mae’r graff canlynol yn nodi’r wybodaeth a roddodd ein cwsmeriaid trwy ein harolygon ar-lein (SOCITM).
4) Materion Cydymffurfio'r Wefan
Bob chwarter, bydd panel adolygu annibynnol (SiteMorse) yn rheoleiddio www.rctcbc.gov.uk| i ddibenion gofalu bod y safonau cenedlaethol ar gyfer gwefannau yn cael eu cynnal.
Mae hyn yn cynnwys gwaith gwirio bod… dim cysylltiadau sy ddim yn gweithio, cyflymder derbyniol o ran lawrlwytho’r dudalen gartref, hygyrchedd ac ati.
Mae’r wefan yn cael ei meincnodi yn erbyn 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru ac hefyd yn y DU, gan gynnwys Lloegr, Cymru, Gogledd Iwerddon, Yr Alban ac Ynysoedd y Sianel.
Mae’r graff canlynol yn nodi safonau cydymffurfio gwefannau ar gyfer Cymru a’r DU.
5) Y Galw a'r defnydd arni
Mae’r graff(iau) canlynol yn dangos nifer y bobl sy wedi galw heibio i’r wefan a’r tudalennau hynny a gyrchwyd yn ystod y cyfnod yma.
Nodyn: Dydyn ni ddim yn monitro "nifer y trawiadau fesul tudalen" yn rheolaidd, oherwydd dydy’r ffigurau yma ddim bob amser yn rhoi adlewyrchu’r gwir ddefnydd ar wefan a does dim modd eu meincnodi’n rheolaidd.