Rydyn ni’n gwybod bod trefnu priodas yn gallu bod yn waith mawr. Serch hynny, mae’n carfan ni yma i roi cymorth ichi drefnu seremoni bersonol ac ystyrlon yn unol â’r gyfraith.
Gall ystyriaethau pwysig gynnwys trefnu seremoni sy’n bersonol i chi, trefnu darlleniadau neu farddoniaeth, cerddoriaeth a blodau, a dod o hyd i ganolfan o’ch dewis.
Mae modd i barau i drefnu seremoni sifil unigryw sy wedi’i theilwra’n arbennig, naill ai yn y swyddfa gofrestru neu mewn canolfan o’u dewis. Dydy’r wybodaeth yma ddim yn cynnwys yr holl wybodaeth ynglŷn â Chyfraith neu Ddeddfwriaeth Priodas sydd ohoni.
Cliciwch yma i gael gweld rhagor o fanylion am ganolfannau seremonïau sydd ar gael trwy Swyddfa Gofrestru Pontypridd gan gynnwys prisiau a manylion cadw lle|
Swyddfa Gofrestru Pontypridd
Mae Rhondda Cynon Taf yn un o ranbarthau cofrestru mwyaf Cymru. Mae ein staff profiadol sydd wedi cael hyfforddiant, yn cynnig gwasanaeth proffesiynol o’r radd flaenaf, i barau sy’n priodi yn yr ardal.
Mae parau’n gallu dewis cynnal y seremoni yn y Swyddfa Gofrestru, sydd â’i chanolfan yng nghanol tref hanesyddol Pontypridd, neu yn un o westai gwledig ledled y fwrdeistref sirol.
I drefnu’ch priodas yn Rhondda Cynon Taf, boed cynnal y seremoni naill ai yn y Swyddfa Gofrestru ym Mhontypridd, neu mewn Mangre sy wedi’i Chymeradwyo, neu i drefnu i Gofrestrydd i fynychu Seremoni Briodas mewn Eglwys neu Ganolfan Crefyddol arall, cysylltwch â’r Cofrestrydd Arolygu yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd.
I drefnu’ch priodas ym Mhontypridd, neu i drefnu apwyntiad i alw heibio i’r Swyddfa Gofrestru i roi Hysbysiad Cyfreithiol, cysylltwch â’ch Swyddfa Gofrestru leol.
Rhagarweiniadau cyfreithiol i briodas yng Nghymru a Lloegr
Cyn bod hawl gyda chi i briodi mewn Seremoni Sifil yng Nghymru a Lloegr, rhaid rhoi Hysbysiad o’r Bwriad i Briodi i Gofrestrydd Arolygu’r ardal rydych chi’n byw ynddi yn y lle cyntaf.
Mae Hysbysiad o Briodas yn Ddogfen Gyfreithiol sy’n ddilys am flwyddyn.
Mae gofyn bod y ddau ohonoch chi wedi byw mewn Cylch Cofrestru yng Nghymru neu Loegr, am o leiaf saith diwrnod cyn rhoi Hysbysiad Cyfreithiol. Os ydy’r ddau ohonoch chi yn byw yn yr un cylch, mae gofyn bod y naill a’r llall yn galw heibio i’ch swyddfa gofrestru leol mewn person, i roi Hysbysiad Cyfreithiol i’r Cofrestrydd Arolygu.
Rhaid rhoi Hysbysiad Cyfreithiol yn annibynnol ac mewn person.
Os ydych chi’n byw mewn ardaloedd gwahanol, mae gofyn bod y ddau ohonoch chi’n rhoi Hysbysiad Cyfreithiol i’r Ardaloedd Cofrestru perthnasol.
Ar ôl ichi gyflwyno Hysbysiad Cyfreithiol, rhaid aros 15 niwrnod clir, cyn priodi. Mae’r cyfnod aros yn elfen hanfodol o’r Gyfraith ac mae disgwyl i bawb gydymffurfio â hi.
Ar hyn o bryd, £33.50 y pen ar gyfer y sawl sy’n bwriadu Priodi ydy’r gost ar gyfer rhoi Hysbysiad Cyfreithiol. Rhaid talu’r gost adeg rhoi Hysbysiad. Rydyn ni’n derbyn arian parod neu siec yn unig. Dydyn ni ddim yn derbyn cardiau credyd neu ddebyd.
Os penderfynwch chi dalu â siec, mae gofyn ichi gyflwyno cerdyn gwarantu sieciau.
Os ydych chi’n byw ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae modd ichi roi Hysbysiad Cyfreithiol o’r Bwriad i Briodi yn y swyddfeydd canlynol. Mae’n swyddfeydd i gyd yn gweithredu ar system apwyntiadau. Byddwch gystal â ffonio i drefnu amser cyfleus cyn galw heibio.
Swyddfa Gofrestru Ranbarthol Pontypridd 01443 486869
Swyddfa Gofrestru Aberdâr 01685 871008
Unigolion dan 18 mlwydd oed
Os ydy’r sawl sy’n bwriadu priodi dan 18 mlwydd oed, a heb fod yn ŵr gweddw neu’n wraig weddw, mae gofyn bod rhieni neu warcheidwaid yn cyflwyno ffurflen gydsynio ar gyfer sylw’r Cofrestrydd Arolygu, cyn bod modd rhoi Hysbysiad Cyfreithiol o’r Bwriad i Briodi. Mae ffurflen i’r diben yma ar gael yn y Swyddfa Gofrestru.
Os ydy’ch rhieni wedi ysgaru, efallai bydd gofyn ichi gyflwyno gorchymyn llys sy’n rhoi gwarchodaeth i un ohonyn nhw’n ogystal.
Noder: rhaid cyflwyno dogfennau gwreiddiol yn unig. Fyddwn ni ddim yn derbyn dogfennau wedi’u llungopïo. I gael rhagor o fanylion/cyngor, cysylltwch â’ch swyddfa gofrestru leol.
Ein Priodasau Sifil
Rydyn ni’n cynnig ystod eang o seremonïau ar sawl ffurf, yn amrywio o seremoni syml anffurfiol ar gyfer ychydig o westeion, i seremonïau mwy ffurfiol gyda morwynion a gweision bychain a nifer o westeion.
Beth bynnag fo’ch dymuniad, bydd ein carfan o arbenigwyr ymroddedig yn rhoi cymorth ichi gynllunio ar gyfer seremoni’ch breuddwydion, a’i gwneud hi’n achlysur hapus a bythgofiadwy.
Seremoni mewn Swyddfa Gofrestru
Mae’r ystafell ar gyfer cynnal seremonïau yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd wedi’i haddurno’n chwaethus ac mae lle ar gyfer hyd at 40 o westeion. Yn ogystal â hynny, mae ystafell aros fawr mae modd i westeion eistedd ynddi hi ac ymlacio ychydig cyn eich tywys i’r ystafell ar gyfer cynnal seremonïau.
Gwerthfawrogwn y dylai eich diwrnod priodas fod yn achlysur arbennig, bythgofiadwy. Mae ein carfan o gofrestryddion yn ymroi i ofalu y bydd eich seremoni yn chwarae rhan bwysig yn hynny o beth.
I ofalu ein bod ni ar y trywydd iawn, byddwn ni’n anfon holiadur atoch chi ymlaen llaw. Fyddech gystal â llenwi’r holiadur yma a’i anfon yn ôl aton ni, (cyn pen wythnos o ddyddiad eich priodas man lleiaf), fel bod modd inni drefnu seremoni yn unol â’ch dymuniadau.
Ar ddiwrnod y briodas, fyddech gystal â gofalu bod y parti cyfan yn cyrraedd y Swyddfa Gofrestru o leiaf 10 munud cyn amser penodol y seremoni.
Noder: ar ddiwrnod y briodas, mae gofyn bod dau o dystion hygred, man lleiaf, yn gwmni ichi.
Parcio
Yn anffodus, does dim cyfleusterau parcio ar gael yn y Swyddfa Gofrestru. Fodd bynnag, mae maes parcio mawr i’r cyhoedd ar gael yn Van Guard Yard (tu ôl i’r orsaf fysiau) gerllaw. Bydd y car sy’n cludo’r Briodferch yn cael taleb er mwyn parcio yn y man penodol ar bwys Adeiladau’r Cyngor yn ystod y seremoni.
Mangreoedd sy wedi’u Cymeradwyo ar gyfer cynnal Seremonïau
Mae diwrnod eich priodas yn ddiwrnod unigryw ac arbennig iawn ac efallai bydd dewis canolfan i gynnal y seremoni yn gymorth i wneud y diwrnod yma’n achlysur bythgofiadwy ar eich cyfer chi a’ch gwesteion. Dychmygwch wneud eich addunedau mewn canolfannau hanesyddol deniadol. Beth am dynnu lluniau mewn gerddi godidog llawn coed a blodau lliwgar. Mae ein canolfannau yn rhoi cyfle i barau i fwynhau diwrnod rhamantaidd, yn cynnig atgofion sy’n para am byth.
Os byddwch chi’n penderfynu priodi mewn un o’n Mangreoedd sy wedi’u Cymeradwyo, mae gofyn eich bod chi’n cysylltu â’r ganolfan o’ch dewis i wneud trefniadau dros dro gyda’r swyddog sydd â chyfrifoldeb. Mae’n RHAID i chi gadarnhau’r trefniadau yma gyda’r Cofrestrydd Arolygu yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd, i ofalu bod swyddogion cofrestru ar gael ar y diwrnod, i gynnal y seremoni a chofrestru’r briodas.
Noder: mae hi’n hollbwysig eich bod chi’n cytuno ar ddyddiad ac amser eich priodas gyda’r Cofrestrydd Arolygu a Swyddog sydd â chyfrifoldeb yn y ganolfan o’ch dewis ILL DAU, CYN gwneud unrhyw drefniadau eraill ar gyfer eich priodas.
Unwaith eich bod chi wedi cadarnhau dyddiad ac amser ar gyfer cynnal y briodas, bydd gofyn ichi drefnu apwyntiad i roi Hysbysiad Cyfreithiol o’ch Bwriad i Briodi, ar gyfer sylw Cofrestrydd Arolygu’r ardal rydych chi’n byw ynddi hiMae Rhondda Cynon Taf yn un o ranbarthau cofrestru mwyaf Cymru. Mae ein staff profiadol sydd wedi cael hyfforddiant, yn cynnig gwasanaeth proffesiynol o’r radd flaenaf, i barau sy’n priodi yn yr ardal.
Canolfannau sy wedi’u Cymeradwyo
Dyma’r Canolfannau sy wedi’u Cymeradwyo yn Rhondda Cynon Taf:
P’un ai eich bod chi’n dymuno cynnal seremoni fer yng nghwmni hyn a hyn o westeion, neu seremoni fwy ffurfiol gyda nifer o westeion, bydd ein carfan o gofrestryddion ymroddgar yn fwy na pharod i roi cymorth ichi gynllunio ar gyfer seremoni’ch breuddwydion.
Rydyn ni’n ddigon hapus i gynnig awgrymiadau ynglŷn â sut i wneud eich seremoni yn un fythgofiadwy sy’n diwallu’ch anghenion chi orau.
Er bod, rhai Addunedau Cyfreithiol penodol mae gofyn ichi’u dweud yn ystod seremoni, mae gyda ni ddewis eang o “Ychwanegiadau”, mae modd ichi’u hychwanegu i’ch addunedau, os dyna’ch dymuniad. Fel arall, efallai byddai hi’n well gyda chi i ysgrifennu pwt bach personol eich hun. Beth bynnag fo’ch dewis, bydd ein carfan o gofrestryddion cyfeillgar sydd â phrofiad, yn fwy na pharod i gynnig cymorth ar gyfer cynllunio’ch seremoni berffaith.
O bryd i’w gilydd, mae parau’n dymuno ymestyn y gwasanaeth ymhellach gyda barddoniaeth neu ddarlleniadau. Mae gyda ni ddewis ar eich cyfer chi, neu efallai byddai hi’n well gyda chi i ddod â’ch rhai eich hun. Os oes gyda chi gerdd neu ddarlleniad eich hun, mae gofyn ein bod ni’n cael gweld copi cyn diwrnod y briodas.
Mae’r swyddfa gofrestru’n gallu darparu cerddoriaeth ar gyfer seremonïau. Fodd bynnag, mae croeso ichi ddod â cherddoriaeth eich hun (gwiriwch hyn gyda’r Cofrestrydd Arolygu cyn diwrnod y briodas). Serch hynny, os ydych chi’n priodi yn un o’n Canolfannau sy wedi’u Cymeradwyo, yn gyffredinol, bydd gofyn bod gyda chi tri darn o gerddoriaeth i’w chwarae yn ystod y seremoni:
-
y Briodferch a’r Gwas Priodas yn cyrraedd
-
arwyddo’r Gofrestr
-
y Briodferch a’r Gwas Priodas yn ymadael
Cyn diwrnod y briodas, da o beth fyddai gwirio pa gyfleusterau sydd ar gael yn y ganolfan a phwy fydd yn gyfrifol am chwarae a threfnu’r gerddoriaeth rydych chi wedi’i dewis.
Noder: mae gofyn bod unrhyw ychwanegiadau rydych chi wedi’u dewis, gan gynnwys unrhyw gerddoriaeth, barddoniaeth neu ddarlleniadau, o natur sydd heb fod yn grefyddol.
Os ydych chi wedi penderfynu priodi yn un o’n “Canolfannau sy wedi’u Cymeradwyo”, byddwn ni’n gofyn ichi ddod i’r Swyddfa Gofrestru am sgwrs anffurfiol ynglŷn â chynnwys eich seremoni briodas oddeutu 6 wythnos cyn dyddiad y briodas. Bydd hyn yng nghwmni’r Cofrestrydd Arolygu a fydd yn cynnal eich seremoni. Yn amlach na pheidio, byddwn ni’n gofyn ichi dalu’r ffioedd bod yn bresennol mewn priodas ar yr adeg honno.
Priodi mewn Eglwys neu Ganolfan Grefyddol arall
Mae gofyn bod parau sy’n dymuno Priodi yn yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys yn Lloegr, (yn amlach na pheidio, fydd dim ond modd ichi wneud hynny os ydych chi neu’ch cymar yn byw ym Mhlwyf yr Eglwys), fynnu gair â’r ficer perthnasol yn y lle cyntaf. Bydd ef /hi’n trefnu cyhoeddi’r gostegion ar dri Sul cyn dyddiad y briodas, neu gyhoeddi tystysgrif gyffredin.
Yn gyffredinol, mewn amgylchiadau o’r fath, does dim rhaid dod â Chofrestrydd Arolygu’n rhan o bethau.
Serch hynny, os hoffech chi briodi mewn Eglwys neu ganolfan grefyddol arall (yn amlach na pheidio, fydd dim ond modd ichi wneud hynny os ydych chi neu’ch cymar yn byw ym Mhlwyf yr Eglwys neu’r Ganolfan Grefyddol), dylech chi fynnu gair â’r Gweinidog neu gorff llywodraethu’r ganolfan dan sylw yn y lle cyntaf.
Yn unol â’r gyfraith, mae gofyn bod y sawl sy’n bwriadu priodi, ill dau, yn rhoi Hysbysiad Cyfreithiol o’r bwriad i briodi, i Gofrestrydd Arolygu'r ardal maen nhw’n byw ynddi hi.
Priodi rhywle arall
O bryd i’w gilydd, efallai bydd parau’n dymuno priodi y tu allan i’r ardal maen nhw’n byw ynddi hi.
Ar wahân i briodi mewn Eglwys, mae modd ichi briodi mewn unrhyw Swyddfa Gofrestru yng Nghymru a Lloegr. Mae modd ichi briodi mewn eiddo eraill sy wedi’u cymeradwyo ar gyfer Seremonïau Sifil.
Os ydych chi wedi penderfynu trefnu Seremoni Sifil gyda Swyddfa Gofrestru arall neu mewn Canolfan sy wedi’i Chymeradwyo y tu allan i ddalgylch Rhondda Cynon Taf, bydd gofyn ichi gysylltu â’r Cofrestrydd Arolygu yn y Swyddfa Gofrestru berthnasol i ofalu’u bod nhw ar gael ar y dyddiad a’r amser rydych chi wedi’u dewis ar gyfer y briodas.
Os ydy’r naill neu’r llall, neu’r ddau ohonoch, sy’n bwriadu priodi yn byw yng nghyffiniau Rhondda Cynon Taf, bydd gofyn iddyn nhw i drefnu apwyntiad i weld Cofrestrydd Arolygu’r cylch i roi Hysbysiad Cyfreithiol o’r Bwriad i Briodi.
Rhaid i’r sawl sy’n bwriadu priodi, ill dau, i roi Hysbysiad Cyfreithiol o’r Bwriad i Briodi i Gofrestrydd Arolygu’r ardal maen nhw’n byw ynddi hi.
Unigolion sy’n byw dramor
Os ydy’r sawl sy’n bwriadu priodi yn byw y tu allan i Gymru a Lloegr a’u bod nhw’n dymuno priodi mewn eglwys neu gapel, neu gynnal seremoni sifil yng Nghymru a Lloegr, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru am ragor o fanylion/cyngor.
Unigolion sy’n amodol ar reolaeth fewnfudo
Os ydych chi’n bwriadu priodi yn y DG ar ôl 1 Chwefror 2005 ac rydych chi’n amodol ar reolaeth fewnfudo tra’ch bod chi yn y DG, bydd gofyn ichi ddilyn y rheolau newydd.
Rydw i eisiau priodi yn y DG ac rydw i’n byw dramor
Bydd gofyn ichi gael teitheb fisa neu drwydded fynediad yn ddyweddi neu’n ymwelydd priodas.
Hyd yn oed os ydych chi’n ddinesydd gwlad lle does dim gofyn ichi gael fisa i ddod i wledydd Prydain fel rheol, mae’r rheolau yma i’w cymhwyso. Fydd dim modd ichi roi hysbysiad o’r bwriad i briodi i gofrestrydd heb fod gyda chi sticer ddilys yn eich pasbort neu ddogfen deithio.
Mae gofyn eich bod chi’n cyflwyno cais am deitheb fisa neu drwydded fynediad i Lysgenhadaeth Brydain, Swyddfa Conswl, neu Uchel Gomisiwn yn y wlad lle rydych chi’n byw ynddi, neu’r wlad dramor rydych chi’n byw ynddi fel rheol.
Os mai’r ddau ohonoch chi’n sy’n bwriadu priodi yn amodol ar reolaeth fewnfudo, mae gofyn bod y ddau ohonoch chi’n cyflwyno ceisiadau ar wahân a thalu ffi tystysgrif gymeradwyo.
Rydw i eisiau priodi yn y DG ac rydw i yn y wlad eisoes
Os oes gyda chi statws wedi ymgartrefu yn y DG, megis caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r wlad neu aros, does dim rhaid ichi gyflwyno tystysgrif cymeradwyo priodas i roi hysbysiad o’r bwriad i briodi ar gyfer sylw’r Cofrestrydd. Fodd bynnag, os ydych chi heb statws wedi ymgartrefu yn y DG, bydd gofyn ichi gyflwyno cais am dystysgrif o gymeradwyaeth oddi wrth y Swyddfa Gartref.
Mae ffurflenni cais am dystysgrifau ar gael gan y Gyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd| ar 0870 241 0645.
Rhoi hysbysiad o’r bwriad i briodi mewn Swyddfa Gofrestru benodedig
Os ydych chi’n amodol ar reolaeth fewnfudo, mae gofyn eich bod chi a’r sawl rydych chi’n bwriadu priodi i roi hysbysiad o’r Bwriad i Briodi mewn Swyddfa Gofrestru benodol. Mae’r Swyddfeydd Cofrestru yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn swyddfeydd penodol, ynghyd â 76 o Swyddfeydd Cofrestru sy wedi’u dewis yng Nghymru a Lloegr.
Mae rhestr o’r 76 o swyddfeydd penodol yng Nghymru a Lloegr ar gael ar wefan Swyddfa Gofrestru Gyffredinol| a gwefan y Gyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd|.
Seremoni Ddwyieithog
Weithiau, bydd parau’n dymuno bod y seremoni yn cael ei chynnal trwy gyfrwng y Gymraeg. Efallai bydd eraill yn dymuno cael Tystysgrif Briodas yn y Gymraeg a’r Saesneg a chyda seremoni trwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Os ydych chi’n rhugl yn y Gymraeg a hoffech chi gynnal eich seremoni trwy gyfrwng y Gymraeg, neu os hoffech chi gofrestru’r briodas, gan gynnwys eich tystysgrif briodas, yn y Gymraeg a’r Saesneg, fyddech gystal â thrafod eich anghenion â’r Cofrestrydd Arolygu pan fyddwch chi’n cysylltu â ni i drefnu’ch priodas.
Prisiau Priodi yng Nghymru a Lloegr
Seremoni mewn Swyddfa Gofrestru
Costau cynnal seremoni mewn Swyddfa Gofrestru
|
Trwy Dystysgrif Cofrestrydd Arolygu
|
£107.00
|
|
* Mae hyn yn cynnwys Tâl Statudol Hysbysiad Cyfreithiol:
|
£67 (Tâl statudol o £33.50 fesul Hysbysiad Cyfreithiol)
|
|
* Tâl am bresenoldeb Cofrestrydd ar ddiwrnod y seremoni:
|
£40
|
|
* Tystysgrif Briodas ar ddiwedd y seremoni:
|
£3.50 (mae modd prynu tystysgrifau ychwanegol ar y diwrnod am £3.50 fesul tystysgrif)
|
Mae Statud yn pennu ffïoedd Seremonïau a Thystysgrifau Swyddfa Gofrestru a’u hadolygu bob blwyddyn.
Priodi mewn Canolfan sy wedi’i Chymeradwyo
Prisiau Priodi mewn Canolfan sy wedi’i Chymeradwyo
|
Trwy Dystysgrif Cofrestrydd Arolygu
|
|
Tâl Statudol Hysbysiad Cyfreithiol:
|
£67 (Tâl statudol o £33.50 fesul Hysbysiad Cyfreithiol)
|
|
Yn ogystal â hynny: Bydd gofyn talu costau i’r Cofrestrydd Arolygu a Chofrestrydd i fod yn bresennol yn ystod y Seremoni. Yr Awdurdod Lleol sydd â Chyfrifoldeb sy’n pennu’r prisiau yma. Ar gyfer cylch Rhondda Cynon Taf, a chan weithredu o 1af Ebrill 2010, dyma’r costau:
|
|
Dydd Llun i ddydd Gwener (rhwng 9.00am a 3.00pm)
|
£ 200
|
|
Dydd Llun i ddydd Gwener (ar ôl 3.30pm)
|
£ 220
|
|
Dydd Sadwrn
|
£ 230
|
|
Dydd Sul a Gwyliau Banc
|
£ 270
|
Dydy’r ffïoedd uchod ddim yn cynnwys pris Tystysgrif(au) Briodas sy’n costio £3.50 y dystysgrif, a fydd yn cael ei rhoi ar ddiwedd y seremoni. (Mae modd archebu tystysgrifau ar ddiwrnod y seremoni. Y pris ydy £3.50 y dystysgrif).
Efallai bydd y sawl sy’n berchen ar yr adeilad yn codi tâl am gael defnyddio’r eiddo.
Priodi mewn Canolfan Grefyddol
(ar wahân i’r Eglwys yn Lloegr neu’r Eglwys yng Nghymru)
Prisiau Priodi mewn Canolfan Grefyddol
|
Trwy Dystysgrif Cofrestrydd Arolygu
|
|
*Tâl Statudol Hysbysiad Cyfreithiol:
|
£67 (Tâl statudol o £33.50 fesul Hysbysiad Cyfreithiol)
|
|
Yn ogystal â’r uchod bydd:
Bydd rhaid talu tâl o £80 o leiaf un mis cyn diwrnod y briodas am bresenoldeb y Cofrestrydd yn ystod y seremoni, oni bai bod “Person Awdurdodedig”, sy wedi’i benodi gan Ymddiriedolwyr yr eiddo wedi cytuno i gofrestru’r briodas.
|
|
Ar ddiwrnod y briodas, bydd gofyn talu £3.50 am Dystysgrif Briodas, naill ai i’r Cofrestrydd neu’r Person Awdurdodedig sy’n mynychu. Bydd modd prynu tystysgrifau ychwanegol ar ddiwrnod y briodas am bris o £3.50 fesul tystysgrif.
Efallai bydd Ymddiriedolwyr y Ganolfan a’r sawl sy’n cynnal y seremoni’n codi taliadau eraill sy’n ychwanegol at yr uchod.
I gael rhagor o fanylion ynglŷn â’n Priodasau Sifil, cliciwch ar y ddolen gyswllt ar waelod y dudalen.
I gael gweld Canolfannau sy wedi’u Cymeradwyo yn Rhondda Cynon Taf, cliciwch ar y ddolen gyswllt ar waelod y dudalen yma.
Cadw lle am y tro
Mae Hysbysiad o’r Bwriad i Briodi yn ddilys am flwyddyn, ond mae hi bob amser yn syniad da i gadw lle cyn gynted ag sy’n bosibl - boed priodi mewn Swyddfa Gofrestru neu Ganolfan sy wedi’i Chymeradwyo.
Mae’r rhan fwyaf o’r canolfannau yn y cylch yn rhedeg system cadw lle dros dro, sy’n rhoi cyfle ichi gadw lle ymlaen llaw, ac sy’n rhoi cyfle i barau i wneud y trefniadau i gyd mewn da bryd.
I gadw lle ymlaen llaw, mae gofyn eich bod chi’n ysgrifennu at Gofrestrydd Arolygu’r ardal rydych chi’n bwriadu priodi ynddi hi. Mae gofyn eich bod chi’n rhoi Hysbysiad Cyfreithiol o’r Bwriad i Briodi i Gofrestrydd Arolygu’r ardal rydych chi’n byw ynddi hi, cyn pen blwyddyn o ddyddiad y briodas, pa le bynnag le yng Nghymru neu Loegr bydd y briodas yn digwydd lle.
Os bydd angen cymorth arbennig arnoch chi
Os nad Saesneg ydy’ch iaith gyntaf, efallai bydd gofyn cael cyfieithydd i ddod yn gwmni ichi i’r Swyddfa Gofrestru i roi’ch Hysbysiad Cyfreithiol o’r Bwriad i Briodi, a hefyd ar ddiwrnod y briodas yn ystod y seremoni’i hun.
Mae modd i aelod o’r teulu neu gyfaill i weithredu’n gyfieithydd ar eich rhan, ond cofiwch, mae gofyn eich bod chi’n galw heibio i’r Swyddfa Gofrestru mewn person i roi Hysbysiad Cyfreithiol, does dim hawl i aelod o’r teulu i ddod ar eich rhan.
Ymwadiad
Mae’r wybodaeth sy wedi’i chynnwys yn y tudalennau yma’n cynnwys gwybodaeth ac arweiniad cyffredinol yn unig. Dim rhestr gyflawn o’r Cyfreithiau Priodi mohoni.
Os hoffech chi ragor o fanylion ynglŷn â Chyfreithiau Priodi Cymru a Lloegr, cysylltwch â:
The Registrar General
General Register Office
Smedley Hydro
Trafalgar Road
Southport
PR8 2HH
Ffôn: 0870 243 7788
Ffacs: 01704 550013
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â’r canlynol:
General Register Office for Scotland
New Register House
Edinburgh
Scotland
EH1 3YT
Ffôn: 0131 334 0380
Ebost: records@gro-scotland.gov.uk
Registrar General for Irish Republic
Joyce House
8-11 Lombard Street
East Dublin 2
Ffôn: 003531 671 1000
Registrar General for Northern Ireland
Oxford House
49-55 Chichester Street
Belfast
BT1 4HL
Ffôn: 02890 25200
Cysylltwch â ni
Cofrestrydd Arolygu
Swyddfa Gofrestru
Adeiladau’r Cyngor
Gelliwastad Road
Pontypridd
Ffôn: 01443 486869
Ebost: Registrar@rhondda-cynon-taff.gov.uk|
Os hoffech chi lenwi holiadur byr am safon ein gwasanaeth, cliciwch ar y ddolen isod:
Holiadur Gwasanaethau Priodi/Holiadur