Mae'r Cyngor wrthi'n ymgynghori ar y cynigion canlynol:
Ysgol Uwchradd Newydd i Aberdâr
Bydd rhagor o waith ymgynghori ar y cynnig hwn, yn ogystal â'r gwaith ymgynghori a fu Tymor yr Hydref diwethaf.
Bydd rhagor o waith ymgynghori ar y cynnig hwn, yn ogystal â'r gwaith ymgynghori a fu Tymor yr Hydref diwethaf.
Cynnwys y cynnig oedd cau Ysgol Gyfun y Merched, Aberdâr; Ysgol Uwchradd Aberdâr; ac Ysgol Gyfun Blaengwawr, a chreu ysgol uwchradd newydd i Aberdâr. Un o amcanion eraill y cynnig oedd trosglwyddo darpariaeth anghenion addysgol arbennig yr Uned Ddarpariaeth ar gyfer Addysg y Sbectrwm Awtstig neu Uned Anhwylderau Iaith yn Ysgol Gyfun Blaengwawr i'r ysgol uwchradd newydd.
O ganlyniad i'r adborth hwn gan lywodraethwyr, rhieni, disgyblion, a staff yr ysgolion, rydym ni wedi diwygio'r cynnig ac rydym ni’n ceisio eich barn am y canlynol:
Y cynnig nawr ydy:
-
Cau Ysgol Gyfun y Merched, Aberdâr, gyda'r disgyblion i'w trosglwyddo i ysgol uwchradd newydd i Aberdâr ym mis Medi 2014.
-
Cau Ysgol Uwchradd Aberdâr, gyda'r disgyblion i'w trosglwyddo i ysgol uwchradd newydd i Aberdâr ym mis Medi 2014.
-
Cau Ysgol Gyfun Blaengwawr, gyda'r disgyblion i'w trosglwyddo i ysgol uwchradd newydd i Aberdâr ym mis Medi 2014.
-
Trosglwyddo'r ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig yr Uned Ddarpariaeth ar gyfer Addysg y Sbectrwm Awtstig neu Uned Anhwylderau Iaith yn Ysgol Gyfun Blaengwawr i'r ysgol uwchradd newydd.
-
Creu ysgol uwchradd oedran 11-18 i Aberdâr. Ar safle'r Ynys byddai’r ysgol newydd, a byddai hi ar agor ym mis Medi 2014.
-
Fyddai dim trefniant dros dro fel roedd y cynllun gwreiddiol, Bydd tair ysgol uwchradd Aberdâr i’w cau yn parhau fel y maen nhw hyd oni fo'r ysgol newydd wedi'i hadeiladu.
-
Penodi Pennaeth a Chorff Llywodraethu i'r ysgol newydd, 12 mis o leiaf cyn mis Medi 2014, 23 er mwyn cynllunio'r cwricwlwm newydd, a rheoli gwaith trosglwyddo'r disgyblion a'r staff.
-
Ailadeiladu Canolfan Chwaraeon Michael Sobell, gan ei hymgorffori fel rhan o Bwll Nofio Aberdâr a'r ysgol uwchradd newydd i Aberdâr. Mae manylion llawn ein cynnig i'w gweld yn ein dogfennau ymgynghori drwy'r cysylltau isod. Hoffech chi fynegi barn, safbwynt, neu sylwadau ar y cynnig diwygiedig hwn? Dylen nhw ddod i law'r Cyngor, yn y cyfeiriad isod, erbyn 15 Gorffennaf 2011 fan bellaf.
Gweler manylion llawn y cynnig ar gyfer yr ysgol uwchradd newydd i Aberdâr yma|
Gweler map diwygiedig safle ysgol uwchradd newydd i Aberdâr|
Uned Materion Trefniadaeth, Cynllunio, a Llywodraethu Ysgolion
Tŷ Trevithick
Abercynon
Aberpennar
CF45 4UQ
Darpariaeth Addysg Gynradd Cyfrwng Cymraeg newydd i Llanhari
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cynnig gwneud newid rhagnodedig i Offeryn Llywodraethu Ysgol Gyfun Llanhari, i newid ystod oedran y disgyblion y caiff eu derbyn, o 11 i 18 oed, i 3 i 18 oed. Bydd hyn yn caniatáu derbyn disgyblion oed ysgol gynradd, gan gynyddu nifer y lleooedd ysgol sydd ar gael i blant yr ystod oedran hon y mae'u rhieni yn gofyn am addysg gyfrwng Cymraeg mewn ardal o Rondda Cynon Taf lle mae'r galw am leoedd o'r fath yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael.
Mae manylion llawn ein cynnig i'w gweld yn ein dogfennau ymgynghori drwy'r cysylltau isod. Dylai unrhyw sylwadau yr hoffech eu gwneud ddod i law'r Cyngor, yn y cyfeiriad isod, erbyn 16 Awst 2011 fan bellaf.
Uned Materion Trefniadaeth, Cynllunio, a Llywodraethu Ysgolion
Tŷ Trevithick
Abercynon
Aberpennar
CF45 4UQ