Skip to main content

Ymgynghoriad ar Gyllideb 2021/2022

Cyfanswm cyllideb refeniw net y Cyngor ar gyfer 2020/21 yw £509 miliwn.  Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu 76% o'r gyllideb yma (£389 miliwn), mae incwm Treth y Cyngor yn cyfrif am 23% (£116 miliwn) ac mae'r 1% sy'n weddill (£4 miliwn) yn dod o grantiau penodol ac o ddefnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor ei hun. 

Bydd Ymgynghoriad ar Gyllideb Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2021/22 yn broses raddol, fel y gallwn ni sicrhau bod trigolion a rhanddeiliaid yn cael cymaint o gyfle â phosibl i roi barn ar y gyllideb a sicrhau bod y farn honno yn cael ei llywio gan yr wybodaeth fwyaf diweddar a pherthnasol.

Rydyn ni'n disgwyl derbyn Setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22 yn ddiweddarach eleni ac mae modd i chi wasgu ar y ddolen ganlynol i weld Cynllun Ariannol Tymor Canolig diweddaraf y Cyngor

Cam 1

Mae Cam 1 yn rhedeg tan ddydd Llun 7 Rhagfyr 2020.  Hoffen ni gael eich barn ar lefelau Treth y Cyngor, yr adnoddau sy'n cael eu dyrannu i ysgolion, Ffioedd a Thaliadau, blaenoriaethau gwariant a gwasanaeth, effeithlonrwydd, blaenoriaethau buddsoddi a Chynllun Gostyngiadu Treth y Cyngor.

Mae sawl ffordd i chi gael dweud eich dweud;

Ar-lein:

Llenwch yr holiadur ar-lein
Arolwg hawdd ei ddarllen - PDF
Cysylltwch â ni os ydych chi eisiau copi papur o'r arolwg hawdd ei ddarllen.

 

E-bost

E-bostiwch ni - ymgynghori@rctcbc.gov.uk

Achlysuron Ymgysylltu Rhithiol 

Mae yna nifer o Achlysuron Ymgysylltu Rhithwir lle mae modd i chi ofyn cwestiynau a rhoi eich barn;

18 Tachwedd 2pm tan 3pm

25 Tachwedd 7pm tan 8pm

1 Rhagfyr 9.30am tan 10.30am 

Os hoffech chi gymryd rhan yn y sesiynau yma, anfonwch e-bost aton ni.

Mae modd i chi hefyd...

Ysgrifennu aton ni –

Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX

Dros y ffôn;

Os oes yn well gyda chi rannu'ch barn drwy siarad â rhywun, neu os oes angen copïau papur o'r wybodaeth arnoch chi,
Ffôn - 01443 425014

Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn y Gymraeg.

Os hoffech chi ddefnyddio’r Gymraeg mewn un o’n hachlysuron ymgysylltu (rhithiol) rhowch wybod i ni ymlaen llaw er mwyn i ni sicrhau gwasanaeth Cymraeg i chi.

Cam 2

Bydd y safbwyntiau sy'n cael eu derbyn o Gam 1 yn llywio strategaeth gyllideb ddrafft y Cyngor ar gyfer ymgynghori arni hi wedyn yng Ngham 2. Ar hyn o bryd rydyn ni'n rhagweld y bydd proses Cam 2 yn cael ei chynnal tua dechrau 2021.