Yn dilyn ailbrisiad trethi annomestig 2017 gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, caiff rhyddhad trosiannol ei gyflwyno er mwyn cynorthwyo trethdalwyr sy’n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach o ganlyniad i'r ailbrisiad.
Caiff y cynllun gostyngiad yma ei gyflwyno er mwyn cynorthwyo trethdalwyr sy'n derbyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach ar 31ain Mawrth 2017, ac yn wynebu gostyngiad yn y ganran o'r Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach y mae ganddynt hawl iddi ar 1af Ebrill 2017, oherwydd cynnydd yn eu gwerth trethiannol yn dilyn yr ailbrisiad.
Caiff Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach ei gymhwyso cyn rhyddhad trosiannol. Bydd y rhyddhad trosiannol yn gweithio drwy gyflwyno unrhyw gynnydd canlyniadol mewn atebolrwydd yn raddol dros gyfnod o dair blynedd (25% o gynnydd atebolrwydd ym Mlwyddyn 1, 50% ym Mlwyddyn 2, a 75% ym Mlwyddyn 3.
Y trethdalwyr sy'n gymwys yw'r rheiny sy'n:
- symud o Ryddhad Ardrethi i Fusnesau Bach llawn i Ryddhad Ardrethi i Fusnesau Bach rhannol
- symud o Ryddhad Ardrethi i Fusnesau Bach llawn i ddim Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach
- symud o Ryddhad Ardrethi i Fusnesau Bach rhannol i ddim Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach
- aros o fewn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach rhannol, ond yn cael cynnydd mewn gwerth trethiannol.
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.