Skip to main content

Grant Cynnal Canol Trefi

Ein Cronfa

Bydd y Grant Cynnal Canol Trefi yn darparu cefnogaeth ar gyfer mân welliannau a gwaith cynnal a chadw a fydd yn gwella edrychiad allanol eiddo canol trefi, a hwyluso cadw pellter cymdeithasol. Disgwylir i'r cynllun gyfrannu at effaith er gwell ar olwg y strydoedd, gan esgor ar amgylchedd canol tref mwy deniadol, bywiog a diogel, a chynyddu'r gwariant mewn siopau a meithrin rhagor o fuddsoddi o du'r sector preifat.

Bydd angen i'r cynigion gael eu cyflwyno gan ystyried unrhyw ganiatâd statudol gofynnol.

Pwy sy'n gymwys i wneud cais?

Gwahoddir ceisiadau gan fasnachwyr canol trefi a pherchnogion eiddo gwag yn ardaloedd manwerthu Aberdâr, Glynrhedynog, Aberpennar, Porth, Tonypandy a Threorci.

Os ydych chi wedi cyflwyno cais yn flaenorol, mae croeso i chi gyflwyno cais gyda chynnig newydd.

Rhagor o Wybodaeth

Am ragor o wybodaeth am y costau cymwys a faint o arian rydych chi'n cael gwneud cais amdano, darllenwch y Nodyn Canllaw.

Cyflwyno cais

Os ydych chi'n meddwl bod eich prosiect yn gymwys, anfonwch e-bost at y Garfan Adfywio i ofyn am ffurflen gais. Nodwch enw'ch busnes a'ch cyfeiriad masnachu.

E-bost: adfywio@rhondda-cynon-taf.gov.uk