Skip to main content

Grant Cynnal Canol Trefi

Bydd y Grant Cynnal Canol Trefi yn darparu cefnogaeth ar gyfer mân welliannau a gwaith cynnal a chadw a fydd yn gwella edrychiad allanol eiddo canol trefi. Disgwylir i'r cynllun gyfrannu at effaith er gwell ar olwg y strydoedd, gan esgor ar amgylchedd canol tref fwy deniadol, bywiog a diogel, a chynyddu'r gwariant mewn siopau a meithrin rhagor o fuddsoddi o du'r sector preifat.

Pwy sy'n gymwys i wneud cais?

Gwahoddir ceisiadau gan fasnachwyr canol trefi a pherchnogion eiddo gwag yn ardaloedd manwerthu canol trefi Aberdâr, Glynrhedynog, Llantrisant, Aberpennar, Pontypridd, Porth, Tonypandy a Threorci.

Os ydych chi wedi cyflwyno cais yn flaenorol, mae croeso i chi gyflwyno cais gyda chynnig newydd.

Am beth gaf i wneud cais?

Gall y Grant Cynnal Canol Trefi gefnogi busnesau yng nghanol trefi i gynnal gwaith adfywio bach ar flaen yr adeiladau, megis;

  • Paentio blaen yr adeiladau
  • Atgyweirio, ail-osod a glanhau gwaith maen neu rendr
  • Atgyweiriadau i wydr, drysau, wynebau siopau
  • Trwsio neu adfer nwyddau dŵr glaw
  • Atgyweirio neu osod arwyddion (nid arwyddion â golau)
  • Rhoi gorchudd powdr ar ddrysau rholer cyfredol

Swm y grant

Gall y grant gyfrannu 75% tuag at gost y gwaith cymwys hyd at uchafswm grant gwerth £2,000.

Os bydd angen i chi godi sgaffald neu logi sgip i ymgymryd â'r gwaith, gall y grant roi cyfraniad ychwanegol tuag at y costau penodol yma.  Bydd hyn hefyd yn uchafswm o gyfraniad o 75% hyd at uchafswm grant ychwanegol o £500.

Cyflwyno cais

Os ydych chi'n credu y gallai eich prosiect chi fod yn gymwys, e-bostiwch y Tim Adfywio gan nodi eich enw, cyfeiriad eich eiddo masnachol (gan gynnwys cod post) a manylion y gwaith arfaethedig. Byddwn ni'n anfon ffurflen gais atoch chi os ydych chi'n gymwys.