Cyniga Cyngor Rhondda Cynon Taf grantiau pan fydd cyllid ar gael, fodd bynnag, does dim rhaid cynnig y grantiau yma, ac efallai bod meini prawf llym yn gysylltiedig â nhw.
Ein Cronfa
Nod y Gronfa Buddsoddiad Menter yw cefnogi twf economaidd cynaliadwy ledled Rhondda Cynon Taf. Mae’r rhaglen grantiau yn rhoi cymorth ariannol i Fusnesau Bach a Chanolig, gan gynnwys busnesau sy’n dechrau yn ogystal â busnesau sy eisoes yn bodoli, ac ar gyfer busnesau preifat a chymdeithasol.
- Mae modd iddi elpu i gyflymu eich cynlluniau twf
- Mae modd iddi wella eich proffidioldeb hirdymor
Manylion am y Grant
- Adeiladau Masnachol – Lleiafswm o £1,500 hyd at uchafswm o £10,000.
- Adeiladau Cartrefol - Y lleiafswm o £500 hyd at uchafswm o £1,500.
- Mae gan Gronfa Buddsoddiad Busnesau gyfradd ymyrraeth uchaf o 50% o Gostau’r Prosiect cymwys (heb gynnwys TAW).
Nodwch fod gwariant gwirioneddol cyn inni gymeradwyo’r grant ddim yn gymwys ar gyfer y gronfa.
Pwy sy’n cael gwneud cais?
- Ydych chi’n Fusnes Bach a Chanolig gyda llai na 250 o weithwyr?
- Oes gyda chi drosiant blynyddol sy ddim yn mynd dros €50 miliwn (tua £40 miliwn) neu b) gyfanswm mantolen flynyddol sy ddim yn mynd dros €43 miliwn (tua £34 miliwn)? Ydy’ch busnes yn gweithio yn ardal Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf?
- Ydych chi’n talu naill ai Treth y Cyngor neu Ardrethi Annomestig Cenedlaethol (gan gynnwys eithriad) i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf?
- Oes/fydd Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus gyda chi?
Sut i wneud cais
Llenwch ffurflen Mynegi Diddordeb (pdf) neu gysylltu â’r Garfan Menter gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.
Ffyniant a Datblygu
Tîm adfywio
Tŷ Sardis
Heol Sardis
Pontypridd
CF37 1DU
Ffôn: 01443 281124