Mae'r Rhaglen Datblygu Gwledig yn rhan o Raglen Senedd Ewrop a Llywodraeth Cymru sy'n bwriadu hyrwyddo datblygu cymunedol, gwella cystadleugarwch yn y sector amaethyddiaeth a choedwigaeth a diogelu a gwella'r amgylchedd gwledig.
Mae yna nifer o elfennau i'r Rhaglen Wledig gan gynnwys rhaglen a arweinir gan y gymuned sef "Rhaglen LEADER Gweithredu Gwledig Cwm Taf". Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gweinyddu'r rhaglen sy'n ymdrin ag ardaloedd penodol ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Bydd Grŵp Gweithredu Gwledig Lleol Cwm Taf yn sicrhau bod y rhaglen yn cyflawni prosiectau a ddynodwyd fel y rhai sydd fwyaf eu hangen o fewn cymunedau gwledig o dan rai themâu penodedig Llywodraeth Cymru.
Mae cyllid ar gael i brosiectau cymunedol yn y rhanbarthau etholiadol canlynol ledled Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf:
- Y Maerdy
- Y Rhigos
- Ynys-y-bŵl
- Beddllwynog
- Cyfarthfa
- Ynysowen
- Plymouth
- Treharris
- Y Faenor
Gweler isod ein Strategaeth Datblygu Leol Ddiweddaraf
RACT LEADER 2014-2020 SDLl Terfynol
Derbyniodd y rhaglen yma arian drwy Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020. Caiff y rhaglen yma ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cronfa Datblygu Cymunedau Gwledig y caiff grwpiau / mentrau ymgeisio amdani. Am ragor o wybodaeth, cyfarwyddiadau neu ffurflenni cais ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch am y Rhaglen Wledig, neu os hoffech chi wybod sut i gymryd rhan yn y broses ymgynghorol, cysylltwch â'r Cydlynydd Gweithredu Gwledig: Ruralaction@merthyr.gov.uk 01685 727089.