Os ydych chi'n bwriadu gwneud unrhyw waith ar gwrs dŵr cyffredin, mae'n bosibl y bydd eisiau caniatâd arnoch chi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf dan Ddeddf Draenio Tir. Mae'r dudalen yma'n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â'r broses newydd.
Nodwch, oherwydd Covid-19, yr unig ddull o dalu yw dros y ffôn â cherdyn. Os ydych chi’n cael problemau, e-bostiwch: RCTOWC@rctcbc.gov.uk
Ar 6 Ebrill 2012, daeth cam ychwanegol i rym yn rhan o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Cafodd cyfrifoldeb am roi caniatâd yn achos cyrsiau dŵr cyffredin ei drosglwyddo o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru, erbyn hyn) i Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol, fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae'r rheoliadau ar gyfer cyrsiau dŵr cyffredin yn ceisio rheoli mathau penodol o weithgarwch a fyddai'n gallu cael effaith negyddol ar faterion perygl llifogydd a'r amgylchedd. Erbyn hyn, mae disgwyl i Gyngor Rhondda Cynon Taf sicrhau hyn a rhoi sylw dyledus i ddeddfau a rheoliadau eraill (am ragor o fanylion, trowch at gwestiwn 4).
Er mwyn sicrhau hyn, mae pŵer gan Gyngor Rhondda Cynon Taf i osod amodau rhesymol ar ganiatâd, er enghraifft, gosod amodau ar ddulliau gweithio, cyfyngu amseroedd a chyfnodau gweithio oherwydd gweithgarwch pysgod/adar/mamolion neu wrthod caniatâd (ond, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ceisio cydweithio ag ymgeiswyr er mwyn sicrhau bod cynlluniau yn gallu derbyn caniatâd).
Byddai'n syniad da i berchnogion tir a datblygwyr gysylltu â Chyngor Rhondda Cynon Taf cyn gynted ag sy'n bosibl ynglŷn ag unrhyw gynnig, gan adael digon o amser cyn i'r gwaith ddechrau. Drwy wneud hyn, bydd hi'n bosibl amlygu problemau posibl, a'u datrys nhw, cyn i'r cynlluniau gyrraedd camau uwch. Bydd hyn yn lleihau'r costau i bawb. Mae'r manteision eraill yn cynnwys dod o hyd i ffyrdd o wella'r amgylchedd, sydd ddim o reidrwydd yn golygu gwariant sylweddol gan y datblygwyr, a lleihau'r amser mae'n ei gymryd i Gyngor Rhondda Cynon Taf wneud penderfyniad.
Mae Canllawiau a Pholisi Sianelu RhCT ar gael os ydych chi angen help.
Mae cwrs dŵr cyffredin yn gwrs dŵr sydd ddim yn rhan o brif afon. Mae hyn yn cynnwys nentydd, draeniau, ceuffosydd, ffosydd a phibellau sy'n cario dŵr. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i roi caniatâd yn achos prif afonydd. Mae map anstatudol, sy'n dangos prif afonydd, ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (map llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru).
Beth yw cwrs dŵr cyffredin ac ar gyfer beth mae eisiau caniatâd?
Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 wedi'i llunio'n fwy eang na rheoliadau blaenorol. Mae eisiau caniatâd ar gyfer: -
- Unrhyw newid a fyddai'n debygol o effeithio ar lif cwrs dŵr cyffredin;
- Unrhyw geuffos;
- Gwaith dros dro a gwaith parhaol.
Os ydych chi wedi derbyn caniatâd gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru, erbyn hyn) cyn mis Ebrill 2012, mae'r caniatâd yn dal i fod yn ddilys. Yn yr un modd, os oes camau gorfodi wedi cael eu rhoi ar waith gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru erbyn hyn), bydd yr Asiantaeth yn dal i fod yn gyfrifol am yr achos.
Beth sydd wedi'i nodi yn y ddeddfwriaeth?
Yn ôl Adran 23 Deddf Draenio Tir 1991, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Saesneg):
- No person shall—
(a) erect any mill dam, weir or other like obstruction to the flow of any ordinary watercourse or raise or otherwise alter any such obstruction; or
(b) erect a culvert in an ordinary watercourse, or
(c) alter a culvert in a manner that would be likely to affect the flow of an ordinary watercourse, without the consent in writing of the drainage board concerned.
(1A) Consent under this section may be given subject to reasonable conditions.
(1B) An internal drainage board or lead local flood authority must consult the Environment Agency before carrying out work within subsection (1)(a), (b) or (c) if the board or authority is "the drainage board concerned" for the purposes of this section.
(1C) The drainage board concerned must have regard to any guidance issued by the Environment Agency about the exercise of the board's functions under this section.]
Sut i gymhwyso cydsyniad cwrs cyffredin y dŵr?
Llenwch y ffurflen gais am gydsyniad cwrs cyffredin y dŵr
Gallwch weld y nodiadau canllaw a'r polisi cwlfert ar gyfer canllawiau.
Sut mae'r caniatâd yn cael ei weinyddu?
I gael caniatâd, bydd eisiau talu £50 am bob strwythur. Ar ôl derbyn ffurflen gais, sydd wedi'i llenwi yn ei chyfanrwydd gan gynnwys taliad, bydd cyfnod statudol o ddau fis i wneud penderfyniad. Bydd y cais yn derbyn caniatâd, yn cael ei wrthod neu'n derbyn caniatâd ag amodau. Bydd amserlen hefyd yn cael ei rhoi ar gyfer gwneud y gwaith.
Beth fydd yn cael ei ystyried yn y cais?
Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ystyried sut bydd y gwaith, o bosibl, yn effeithio ar faterion perygl llifogydd a'r amgylchedd. Byddwn ni'n gwirio a yw'r asesiadau gofynnol wedi cael eu gwneud, er enghraifft, Asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr neu Asesu Effeithiau Amgylcheddol (mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gallu rhoi cyngor cyffredinol ar ba asesiadau mae eisiau eu gwneud, ond, yn y pen draw, y datblygwyr sy'n gyfrifol am eu gwneud nhw).
Bydd cydymffurfiad â'r ddeddfwriaeth mae'r Awdurdod yn gyfrifol amdani yn cael ei ystyried, gan gynnwys: -
- Deddf yr Amgylchedd (1995);
- Rheoliadau Cynefinoedd (2010);
- Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (2000/60/EC);
- Rheoliadau Llyswennod (2009);
- Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw (1975);
- Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000).
Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd yn ystyried a yw'r gwaith yn cael ei wneud ar safle dynodedig, gan gynnwys:-
- Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig;
- Ardal Cadwraeth Arbennig;
- Ardal Gwarchodaeth Arbennig.
Am beth ydy'r ymgeisydd yn gyfrifol?
Mae disgwyl i'r ymgeisydd drefnu'r gwaith fel does dim cynnydd ym mherygl llifogydd i drydydd parti a sicrhau caniatâd unrhyw berchnogion tir a meddianwyr sy'n cael eu heffeithio gan y gwaith.
Drwy dderbyn Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, mae dal i fod disgwyl i'r ymgeisydd dderbyn caniatâd, trwyddedau, cymeradwyaeth neu hawliau eraill. Er enghraifft, yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am sicrhau bod cynlluniau a gwaith adeiladu yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu (Cynllunio a Rheoli) diweddaraf. Os oes rhywogaeth sy'n cael ei gwarchod ar y safle, yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am drafod y mater â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Os oes eisiau rhagor o wybodaeth ar y Cyngor cyn gwneud penderfyniad, yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am drefnu bod y Cyngor yn derbyn y wybodaeth mewn da bryd, gan gydnabod bod penderfyniad yn cael ei wneud ymhen dau fis ar ôl derbyn cais llawn. Os fydd dim digon o wybodaeth gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, fydd caniatâd ddim yn cael ei roi. Os oes posibilrwydd bod y gwaith yn effeithio ar brif afon neu'r môr, yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am wneud cais i CNC a Chyngor Rhondda Cynon Taf am ganiatâd.
Pa fath o waith sy'n cael ei ganiatáu ac sydd ddim yn cael ei ganiatáu?
Am restr o waith sy'n gallu cael ei ganiatáu ac sydd ddim yn gallu cael ei ganiatáu, trowch at atodiad A yn y canllawiau yma.
Beth os yw'r gwaith yn cael ei wneud ar safle dynodedig?
Os ydy'r gwaith yn cael ei wneud ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mewn Ardal Cadwraeth Arbennig neu mewn Ardal Gwarchodaeth Arbennig, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn trafod y mater â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Ond, os yw'r gwaith yn cael ei wneud ar safle sydd â rhywogaeth sy'n cael ei gwarchod, mae rhaid i'r ymgeisydd gysylltu â CNC yn uniongyrchol, rhag ofn bod eisiau trwydded dan ddeddfwriaeth rhywogaeth sy'n cael ei gwarchod.
Pa bwerau gorfodi sydd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf?
Mae rheoli perygl llifogydd yn ceisio sicrhau llif dŵr priodol mewn cyrsiau dŵr a thros orlifdiroedd, ynghyd â rheoli lefelau dŵr a diogelu asedau sydd yno yn barod. Er mwyn cyflawni'r amcanion hyn, mae camau gorfodi yn cael eu defnyddio er mwyn unioni gwaith sydd heb gael caniatâd ac sy'n anghyfreithlon, gan fynd ati ar sail y peryglon.
Wrth ystyried camau gorfodi, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ceisio datrys y sefyllfa trwy drafod yn gyntaf. Mae ceisiadau'n cael eu hadolygu yn unigol ac mae amrywiaeth eang o gamau gorfodi ar gael i'w cymryd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, yn dibynnu ar ba mor ddifrifol mae'r achos dan sylw. Mae'r camau gorfodi nodweddiadol yn cynnwys:
- Ymweld â'r safle a chynnal cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb â'r sawl sy'n cyflawni'r drosedd;
- Anfon llythyrau cynghorol;
- Anfon llythyrau rhybuddio;
- Defnyddio hysbysiadau i orfodi, gwahardd neu wneud gwaith;
- Erlyn, a hawlio costau erlyn yn ôl;
- Camau unioni uniongyrchol, a hawlio costau'r gwaith yn ôl.
Bydd camau gorfodi yn cael eu cymryd dan Ddeddf Draenio Tir (1991).
Dogfennau a chanllawiau technegol sy'n gallu bod o ddefnydd
Cysylltau Defnyddiol
Cysylltu â ni
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn annog aelodau o'r cyhoedd i gymryd rhan mewn trafodaethau â ni cyn gwneud cais am ganiatâd. Drwy gynnal trafodaeth cyn gwneud cais, mae'n bosibl ystyried opsiynau lle does dim angen caniatâd ac sydd ddim yn cael effaith negyddol ar y cwrs dŵr. Os oes eisiau caniatâd, mae cynnal trafodaethau cyn gwneud cais yn gallu sicrhau bod ymgeiswyr yn deall y gofynion ac unrhyw ffyrdd eraill o wneud y gwaith lle does dim angen caniatâd.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r broses ganiatáu, cynnal trafodaethau cyn gwneud cais a gwneud cais am ganiatâd, cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Dyma'r manylion cyswllt:
Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Sardis,
Sardis Road,
Pontypridd
CF37 1DU
Ffôn: 01443 494809