Rhaid i Gerbydau Hurio Preifat gael trwydded gan yr Awdurdod Trwyddedu, a rhaid iddyn nhw arddangos plât glas ar gefn y cerbyd, plât mewnol llai, a sticer siâp triongl glas ar bob drws blaen bob amser; bydd pob un o'r rhain yn dangos rhif plât y cerbyd. Pan fydd cerbyd hurio preifat wedi cael ei drwyddedu, cerbyd hurio preifat fydd ef hyd nes y daw'r drwydded i ben.
Rhaid i Gerbydau Hurio Preifat gael trwydded gan yr Awdurdod Trwyddedu, a rhaid iddyn nhw arddangos plât glas ar gefn y cerbyd, plât mewnol llai, a sticer siâp triongl glas ar bob drws blaen bob amser; bydd pob un o'r rhain yn dangos rhif plât y cerbyd. Pan fydd cerbyd hurio preifat wedi cael ei drwyddedu, cerbyd hurio preifat fydd ef hyd nes y daw'r drwydded i ben.
Ni chaiff Cerbydau Hurio Preifat geisio hurio allan yn y stryd neu ar arosfannau tacsi. Rhaid archebu teithiau ymlaen llaw, fel arfer ar y ffôn neu yn bersonol mewn swyddfa. Mae methu â gwneud hynny felly yn dramgwydd troseddol ac yn annilysu yswiriant y cerbyd Nid yw'r Cyngor yn rheoleiddio prisiau teithio ar gyfer cerbydau hurio preifat. Fe ddylid, fel arfer, gytuno ar gost y daith gyda'r cwmni cyn y daith.
Rhaid i yrwyr hurio preifat gael trwydded gan y Cyngor, a gwisgo bathodyn adnabod.
Gan weithredu o 1 Medi 2014, caiff trwyddedau cerbydau newydd eu rhoi ar gyfer y canlynol yn unig:
Manyleb y Cerbyd
Math o Gerbyd
|
Math o Drwydded
|
Isafswm Oedran
|
Uchafswm Oedran
|
Cerbydau Hygyrch i Gadair Olwyn; (i gynnwys Cerbydau wedi eu Hadeiladu'n Bwrpasol neu Rai Wedi'u Haddasu gyda Lifft Cynffon Cefn neu hebddo)
|
Cerbyd Hacni/Cerbyd Hurio Preifat
|
Llai na 5 oed (o ddyddiad y cofrestriad cyntaf)
(Oedran Derbyniad)
|
10 mlynedd (ar yr amod bod pob trwydded ddilynol yn dod i rym ar unwaith pan ddaw'r drwydded flaenorol i ben).
|
Cerbydau nad ydyn nhw'n Hygyrch i Gadair Olwyn
|
Cerbyd Hacni/Cerbyd Hurio Preifat
|
Llai na 3 oed
(o ddyddiad y cofrestriad cyntaf)
(Oedran Derbyniad)
|
10 mlynedd (ar yr amod bod pob trwydded ddilynol yn dod i rym ar unwaith pan ddaw'r drwydded flaenorol i ben).
|
Dylai darpar ddeiliaid trwydded, neu rai cyfredol, ystyried Safonau Technegol Cerbydau sy mewn grym cyn prynu neu gyflwyno cerbyd i'r Awdurdod Trwyddedu: gweler y Fanyleb Dechnegol isod.
Rhaid i Gerbydau Hurio Preifat fod yn wyn.
Cyn i gerbyd gael ei drwyddedu, rhaid iddo lwyddo mewn prawf/archwiliad yn nepo profion yr Awdurdod, ac mewn Prawf MOT (lle bo hynny'n briodol). Yn ogystal â hynny, rhaid i'r cerbydau gael yswiriant addas ar gyfer cludo teithwyr a nwyddau am dâl neu wobr er mwyn sicrhau safonau diogelwch uchel. Rydyn ni'n cyfeirio deiliaid trwydded at y gyfrol
Hackney Carriage and Private Hire Vehicles National inspection standards.
Ni chaiff cerbyd hurio preifat dderbyn unrhyw archebion oni bai fod gan y gyrrwr drwydded bwrpasol neu'i fod yn gweithio i weithredwr hurio preifat trwyddedig. Mae manylion sut i wneud cais am drwydded gweithredwr hurio preifat i'w cael drwy'r ddolen isod
Sut i wneud cais
Mae ffurflenni cais ar gael drwy gysylltu â ni ar y manylion isod
Efallai'i fod yn werth i chi ofyn am gyngor gan Swyddogion Trwyddedu ynghylch a yw cerbydau yn debygol ai peidio o gael eu derbyn i'r fflyd drwyddedig.
Os ydych chi am wneud cais am drwydded cerbyd hurio preifat, rhaid i chi lenwi'r ffurflen gais, ac yna wneud apwyntiad i ymweld â'n swyddfeydd ni. Dewch â'r cerbyd arfaethedig, a'r dogfennau canlynol:
- Y ffurflen gais wedi'i llenwi
- Dogfen V5 llyfr log neu fil gwerthiant y cerbyd
- Tystysgrif yswiriant gyfredol, neu nodyn yswiriant dros dro ar eich cyfer chi neu eich gyrwyr sy'n caniatáu defnyddio'r cerbyd ar gyfer defnydd cyhoeddus a/neu breifat
- Tystysgrif Prawf MOT (os yw hynny’n berthnasol)
- Y ffi ofynnol (gweler isod)
Costau
Os ydych chi am weld manylion costau trwydded cyfredol, dylech fwrw golwg ar y ddogfen ffioedd sydd i'w chael o dan ddogfennau perthnasol.
Cysylltu â ni
Adran Trwyddedu
Tŷ Elái
Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301
E-bost: Adran.Trwyddedau@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.