Skip to main content

Gwella'n Barhaus

Mae dyletswydd statudol ar y Cyngor i wella'n barhaus i fodloni'r egwyddorion a nodir yn Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella, yn unol â rheoliadau a chyfarwyddiadau'r llywodraeth. Bydd y Cyflenwr/y Cyflenwr a Enwebir yn cymryd rhan weithredol yn y broses yma. Law yn llaw â'r Cyngor, bydd yn datblygu proses i sicrhau bod prosesau gwella'n barhaus mewn perthynas â'r cytundeb yma (boed wrth feincnodi ai peidio) yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodir yn yr adran yma. Bydd amcanion yr egwyddorion a nodir yn Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella yn cynnwys y meini prawf canlynol:-
  • Cydymffurfio ag amseroedd ymateb i fodloni gofynion trosglwyddo yr Awdurdod
  • Derbyn anfonebau/Gwirio bod anfonebau'n gywir
  • Nifer y cwynion sy wedi dod i law yn erbyn y Cyflenwr/y Cyflenwr a Enwebir
  • Pa mor fodlon yw'r Cyngor?
  • Ansawdd y Cynnyrch
  • Prisoedd a Gostyngiadau

Yn ogystal â monitro cyflawniad y Cyflenwr/y Cyflenwr a Enwebir, mae'r Cyngor o'r farn bod angen cynnal trafodaethau rhwng y partïon. Mae o'r farn bod angen gwneud hyn i sicrhau y caiff isafswm o newidiadau i fanylebau, amodau, dulliau a phrisoedd eu cyflwyno i ymelwa ar gynhyrchion a thechnolegau newydd ac i sicrhau bod y Cyflenwr/y Cyflenwr a Enwebir yn bodloni gofynion newydd a diwygiedig neu newidiadau mewn amgylchiadau na allir eu rhagweld.

Mae gofyn i'r Cyflenwr/y Cyflenwr a Enwebir chwilio mewn modd rhagweithiol am ddulliau newydd ac arloesol o ddarparu nwyddau/gwasanaethau. Mae gofyn iddo hefyd gymryd rhan mewn ymarferion rheoli gwerth ar y cyd at ddibenion sicrhau gwelliannau o ran safonau, dulliau a gwerth am arian fel sy'n ofynnol gan y Cyngor.

Mae'n bosibl y bydd gofyn i'r Cyflenwr/y Cyflenwr a Enwebir fynd i gyfarfodydd adolygu cyflawniad yn rheolaidd i drafod y meini prawf a restrir uchod.

Heb ragfarnu darpariaethau'r adran yma a grybwyllwyd eisoes, bydd y Cyflenwr/y Cyflenwr a Enwebir yn darparu gwybodaeth, dogfennau a chymorth, yn rhan o'i gytundeb, o dro i dro ar gais rhesymol y Cyngor. Bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i gyflawni'i ddyletswyddau o dan yr egwyddorion a nodir yn Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella ac o dan unrhyw ddeddfwriaeth, rheoliadau, canllaw ac ymarfer gorau mewn perthynas â'r cytundeb. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth, dogfennau a chymorth mewn perthynas â datblygiad cynllun cyflawni'r Cyngor ac wrth gynnal adolygiadau o wasanaethau mewn perthynas â'r cytundeb ac unrhyw wasanaethau neu weithgaredd sy'n ymwneud â'r cytundeb, sy'n dibynnu ar y cytundeb neu sy'n cael ei effeithio gan y cytundeb, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Yn ogystal â hyn, bydd hawl gyda'r Cyngor i fonitro a chynnal adolygiad parhaus o gyflawniad y Cyflenwr/y Cyflenwr a Enwebir o'i gymharu â'r egwyddorion a nodir yn Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella.