Skip to main content

Datganiad Caethwasiaeth Fodern RhCT

Datganiad Caethwasiaeth Fodern RhCT

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i fynd i’r afael â Chaethwasiaeth Fodern ac ni fydd yn goddef unrhyw enghraifft ohono o fewn ei gadwyn gyflenwi.

Beth yw Caethwasiaeth Fodern?

Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd ac yn mynd yn groes i hawliau dynol sylfaenol. Mae modd iddo ddigwydd ar sawl ffurf, megis caethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur gorfodol a masnachu pobl. Mae pob un o’r enghreifftiau yma’n amddifadu rhyddid unigolion ac yn camfanteisio arnyn nhw er budd personol neu fasnachol.

Amcangyfrifir bod Caethwasiaeth Fodern yn effeithio ar hanner can miliwn o bobl ledled y byd, gan gynnwys yn y DU a Chymru. Mae dioddefwyr yn cael eu masnachu ledled y byd am ychydig bach o arian, neu ddim arian o gwbl, ac mae modd iddyn nhw gael eu cludo i mewn i’r DU ac i leoedd gwahanol ledled y DU. Mae modd iddyn nhw gael eu gorfodi i weithio yn y fasnach ryw, caethwasanaeth domestig, llafur gorfodol ac ymgymryd â gweithgaredd troseddol. Mae amaethyddiaeth, hamdden, lletygarwch, arlwyo, glanhau, gwaith dillad, adeiladu a gweithgynhyrchu oll ymhlith y sectorau risg uchel ar gyfer Caethwasiaeth Fodern.

Ein Hymrwymiad a'n Cyfrifoldeb 

Yn unol â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, mae'r Cyngor yn cydnabod bod ganddo gyfrifoldeb fel cyflogwr i fod yn effro i’r achosion posibl o gaethwasiaeth fodern, ac i roi gwybod am achosion neu bryderon o'r fath i'r cyrff perthnasol.

Yn rhan o'i brosesau tendro a chontractio, bydd y Cyngor yn ceisio sicrwydd gan ddarpar gyflenwyr bod ganddyn nhw brosesau addas a chadarn ar waith i liniaru risgiau sy'n gysylltiedig â chaethwasiaeth fodern yn y sefydliad. Bydd y Cyngor yn disgwyl i gyflenwyr fod yn gyfrifol am ofyn am sicrwydd tebyg gan eu cadwyni cyflenwi eu hunain.

Mae'r strategaethau a pholisïau allweddol sy'n cefnogi'r  datganiad Caethwasiaeth Fodern yn cynnwys:

  • Polisi Caffael sy'n Gyfrifol yn Gymdeithasol
  • Polisi Chwythu'r Chwiban
  • Polisi Diogelu Corfforaethol

Trwy ddefnyddio Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru (Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi) ar draws ei gadwyn gyflenwi, bydd y Cyngor yn sicrhau bod ei gyflenwyr yn effro i'r ymrwymiad i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl.

Yn unol ag Ymrwymiad 7 Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru (Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi), bydd y Cyngor yn asesu ein gwariant er mwyn cydnabod a mynd i'r afael â materion caethwasiaeth fodern, cam-drin hawliau dynol, ac arfer cyflogaeth anfoesegol. Byddwn ni'n:

  • Cynnal adolygiadau rheolaidd o wariant a chynnal asesiad risg yn seiliedig ar y canfyddiadau, i gydnabod cynnyrch a/neu wasanaethau lle mae risg o gaethwasiaeth fodern a/neu arferion cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesegol yn y DU a thramor.
  • Ymchwilio i unrhyw gyflenwr y nodwyd ei fod yn risg uchel, trwy ymgysylltu'n uniongyrchol â gweithwyr lle bynnag y bo modd.
  • Gweithio gyda'n cyflenwyr i unioni unrhyw faterion o arfer cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesegol.
  • Monitro arferion cyflogaeth ein cyflenwyr risg uchel, a'i wneud yn eitem safonol ar yr agenda ar gyfer pob cyfarfod/adolygiad rheoli contract.