Pryd mae diwrnodau casglu gwastraff byd masnach? |
Bydd diwrnodau casglu gwastraff byd masnach ar yr un diwrnod â'r ardaloedd cyfagos ac eithrio canol tref Aberdâr. Mae'r casgliad yma bob dydd Mercher.
|
Sut mae prynu bagiau gwastraff byd masnach? |
Mae modd archebu bagiau gwastraff byd masnach ar-lein.
Bellach, mae modd casglu bagiau o'ch llyfrgell leol. Er mwyn archebu a chasglu bagiau, ffoniwch y llyfrgell i drefnu apwyntiad i'w casglu. Rhaid talu â'r arian cywir.
|
Sut mae rhoi gwybod am wastraff sydd heb ei gasglu? |
Rhowch wybod am wastraff sydd heb ei gasglu ar-lein a bydd depo'r ardal sy'n gyfrifol am y casgliad yn mynd i'r afael â'r achos ar unwaith.
|
Oes modd i mi ohirio fy nghasgliadau gwastraff byd masnach dros dro yn ystod y cyfnod yma? |
Oes, trwy e-bostio ailgylchu@rctcbc.gov.uk
|
Oes modd i mi gadw'r bin hyd nes bydd fy musnes yn ailagor? |
Oes, mae modd i chi gadw'ch bin. Fyddwn ni ddim yn dechrau casglu'ch sbwriel eto hyd nes y byddwch chi'n rhoi gwybod bod eich busnes wedi ailddechrau/ailagor.
|
A fydd fy nhaliadau yn cael eu gohirio? |
Cafodd anfonebau ar gyfer 2020/21 eu hanfon cyn i bandemig y Coronafeirws gychwyn. Fodd bynnag, fydd y Cyngor ddim yn mynd ar drywydd unrhyw daliadau sydd heb eu talu na materion anfonebu hyd nes y bydd gwasanaethau arferol yn ailgychwyn.
|
Oes modd i mi newid i fin mwy/llai dros dro? |
Mae'n bosibl y bydd modd i ni wneud hyn ond dylech ddisgwyl y bydd oedi o ran eu dosbarthu. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: ailgylchu@rctcbc.gov.uk.
|
Oes modd i mi archebu casgliad gwastraff swmpus? |
Mae'r holl gasgliadau gwastraff swmpus wedi'u gohirio dros dro.
|
Sut mae gadael y cynllun gwastraff byd masnach? |
E-bostiwch: ailgylchu@rctcbc.gov.uk gan roi mis o rybudd i ni. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwn yn derbyn cyfnodau rhybudd llai ond byddwn yn mynd i'r afael â'r rhain fesul achos.
|
A fydd fy lwfans elusennol yn newid tra bod gwasanaeth dros dro ar waith? |
Bydd eich lwfans elusennol yn aros yr un fath.
|
Mae anfoneb ar gyfer 2020/21 wedi dod i law. Sut mae ei thalu? |
Edrychwch ar gefn yr anfoneb, o dan y pennawd "Sut a lle y mae modd i chi dalu"
|