Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi rhoi crynodeb o'r ffordd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol yn rhan o'r Cynllun Profi Llif Unffordd gwirfoddol sydd ar gael i bob un o weithwyr y Cyngor.
Dylid darllen yr wybodaeth yma ar y cyd â Hysbysiad Preifatrwydd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Hysbysiad Preifatrwydd Corfforaethol y Cyngor (https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Council/DataProtectionandFreedomofInformation/DataProtection/serviceprivacynotices/ChiefExecutives/COVID19VaccinationProcessforIdentifyingKeyEmployeesCouncilandAgency.aspx).
1. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?
Byddwch chi'n effro i'r cynllun Profi, Olrhain, Diogelu yn sgil gwybodaeth gan y cyfryngau, ac yn benodol gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'n rhan allweddol o’r frwydr barhaus yn erbyn COVID-19 (Coronafeirws) ac yn ceisio dod o hyd i ffordd i bobl yng Nghymru fyw a gweithio ochr yn ochr â'r feirws a rheoli ei ledaeniad.
Er mwyn helpu yn y frwydr yn erbyn COVID-19, mae'r Cyngor yn cymryd rhan yn y cynllun Profi Llif Unffordd sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cynllun ar gael i bawb sy'n gweithio i Gyngor RhCT ac mae'n hollol wirfoddol.
2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw a pham?
Cyngor eisoes yn cadw gwybodaeth amdanoch chi gan eich bod chi'n weithiwr a bydd y Cyngor yn cysylltu â phob aelod o staff i roi cyfle i chi gymryd rhan yn y Cynllun Profi Llif Unffordd.
Yn rhan o'r cynllun, mae'n ofynnol i'r Cyngor gadw cofnod o'r pecynnau profi mae'n eu dosbarthu i'w defnyddio gartref. Pe hoffech chi gymryd rhan yn y cynllun, byddwn ni'n rhywfaint o'ch gwybodaeth bersonal gan gynnwys:
- Eich Enw Cyntaf, Cyfenw, Dyddiad Geni, Rhif Ffôn
- Manylion rhif lot/swp ar gyfer y pencynnau profi rydych chi'n eu derbyn
Mae hyn fel bod modd cysylltu â chi os bydd swp yn cael ei alw'n ôl neu os bydd rhybudd diogelwch yn cael ei gyhoeddi.
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Mae'r Cyngor yn cael eich gwybodaeth bersonol yn uniongyrchol gennych chi, pan fyddwch chi'n cofrestru i gymryd rhan yn y Cynllun.
4. Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae'r Cynllun Profi Llif Unffordd yn gwbl wirfoddol a dydy hi ddim yn ofynnol i chi gymryd rhan yn rhan o'ch contract cyflogaeth.
Pe hoffech chi gymryd rhan yn y cynllun, y sail gyfreithiol ar gyfer ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol fydd:
- Mae angen i ni brosesu'ch gwybodaeth bersonol er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol fel rhan o'n swyddogaeth fel corff cyhoeddus.
Er bod gyda chi'r hawl i dynnu eich caniatâd i gymryd rhan yn y cynllun yn ôl ar unrhyw adeg, bydd yn ofynnol i'r Cyngor gadw cofnod o'ch gwybodaeth bersonol o hyd at y dibenion a amlinellir uchod.
5. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Petai swp yn cael ei alw'n ôl ac yn destun ymchwiliad neu petai'n destun rhybudd diogelwch efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel bo modd iddo gysylltu â chi i drafod y mater.
Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei wneud â'ch gwybodaeth bersonol yma (Saesneg yn unig): Hysbysiad Preifatrwydd COVID-19.
6. Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?
Bydd y Cyngor yn cadw ei gofnod pecyn prawf am ddim mwy na 12 mis ar ôl i'r pecyn prawf gael ei ddarparu.
7. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.